Mae tîm Profiad Digidol ac Ymgysylltu (DE&E) wedi ymrwymo i gefnogi staff a myfyrwyr sy’n barod i gymryd rhan mewn trafodaethau ynghylch datblygu cynnwys. Mae gan dîm DE&E doreth o sgiliau a all eich helpu i ddatblygu cynnwys unigryw ar gyfer eich cwrs, adran, neu ddigwyddiadau, i enwi dim ond rhai.
Mae gan y tîm ystod eang o sgiliau gan gynnwys:
Gellir defnyddio’r holl dechnolegau hyn i greu asedau annibynnol ar gyfer yr Ystafelloedd Trochi, cymwysiadau VR a bwrdd gwaith, ac ar gyfer dulliau cyflwyno ar-lein a thraddodiadol.
If you have any ideas regarding content development, or for more information about potential projects, please get in touch: dee@uwtsd.ac.uk
Math: Darlith
Disgrifiad: Datblygodd myfyrwyr sgiliau meddwl beirniadol, gwaith tîm, a sgiliau gwneud penderfyniadau gweithredol a oedd yn berthnasol i arfer iechyd a gofal cymdeithasol trwy ddadansoddi achosion cleifion, cydbwyso ffactorau clinigol a gofal iechyd. Datblygwyd y gweithgaredd rheoli gwelyau er mwyn hyrwyddo dulliau dysgu trwy wneud, gan alluogi myfyrwyr i gymhwyso fframweithiau datrys problemau a sgiliau gwneud penderfyniadau aml-ddisgyblaethol o fewn senario gofal iechyd realistig.
Cyflwyniad: Cymysg
Hyd: Sesiwn 45 munud
Maint y Grwpiau: 20
Campws: Cysylltiadau Rhyngwladol, Abertawe
Math:Darlith
Disgrifiad:Gan ddefnyddio fideo 360 o ysgolion partner, gall myfyrwyr arsylwi ar wersi go iawn o safbwynt disgyblion. Mae hyn yn galluogi myfyrwyr i arsylwi ar y technegau addysgu, y technegau rheoli ymddygiad, a gallu beirniadu neu gymhwyso gwybodaeth a gafwyd yn eu sesiynau academaidd.
Cyflwyniad: Cymysg
Hyd:Sesiynau 30 munud
Maint y Grwpiau: 20
Campws: Cysylltiadau Rhyngwladol Abertawe, Cysylltiadau Rhyngwladol Caerfyrddin
Math: Darlith
Disgrifiad: Mae rheoli digwyddiadau’n gryn fenter, fodd bynnag beth ydych chi’n ei wneud os bydd rhywbeth yn digwydd yn ystod y digwyddiad. Gan ddefnyddio grwpiau gorchymyn Aur, Arian ac Efydd, bydd y myfyrwyr yn mynd i’r afael â sefyllfaoedd sy’n esblygu mewn digwyddiad mawr, gan efelychu senarios yn y byd go iawn a defnyddio sgiliau datrys problemau a chymhwyso gwybodaeth i ddod o hyd i’r atebion gorau.
Cyflwyniad: Asesiad
Hyd: Sesiwn 4 awr
Maint y Grwpiau: 10
Campws: Cysylltiadau Rhyngwladol, Abertawe
Math:Ystafell Ddianc
Disgrifiad: Senario prawf sy’n profi ymateb timau i weithdrefnau diogelwch sylfaenol, o ddiffodd tanau, i fesuriadau gwadn teiars a chyfateb dyfeisiau â’r gwefrwyr priodol, mae’r ystafell ddianc hon yn troi gweithgareddau bywyd go iawn yn her drochol.
Hyd: 20 munud, 15 munud, 10 munud
Chwaraewyr: Grŵp o 3-8
Campws:Cysylltiadau Rhyngwladol Abertawe (Cysylltiadau Rhyngwladol Caerfyrddin yn cael ei Ddatblygu)
Gosodiad: Angen propiau a threfniant ystafell
Math: Cynadleddau, Ffrwd Cyflwyno
Disgrifiad: Rhywbeth Amcanion dysgu: Cynhadledd dan arweiniad myfyrwyr, lle mae’n ofynnol i fyfyrwyr gyflwyno eu damcaniaethau ymchwil a’u syniadau prosiect terfynol yn yr Ystafell Drochol, wrth gael eu ffrydio’n fyw i gynulleidfa ryngwladol. Mae arddangosfeydd VR yn y gynhadledd yn ogystal â chymwysiadau rhyngweithiol ar-lein er mwyn galluogi i wylwyr ymuno â’r arddangosiadau ymchwil.
Cyflwyniad: Asesiad
Hyd: 2 Ddiwrnod
Maint y Grwpiau: Unigol
Campws: Cysylltiadau Rhyngwladol, Abertawe
Gosodiad: Angen offer Ffrydio/Darlledu
Gosodiad: Angen offer Ffrydio/Darlledu
Math: Ystafell Ddianc
Disgrifiad: Mae archwiliad ar waith, lle mae rôl y tîm yn cynnwys chwilio ystafell yn drylwyr er mwyn dod o hyd i’r codau coll o fewn yr amgylchedd ffisegol a digidol er mwyn datgelu’r prif cod derfynol.
Hyd: 25 munud
Chwaraewyr: Grŵp o 3-8
Campws:Cysylltiadau Rhyngwladol Abertawe, Cysylltiadau Rhyngwladol Caerfyrddin
Gosodiad: Angen propiau a threfniant ystafell
Math:Darlith
Disgrifiad: Nod y prosiect yw cefnogi datblygiad myfyrwyr a disgwyliadau’r diwydiant wrth ddod â risgiau diogelu’n fyw. Gan ddefnyddio cymysgedd o ddylunio clywedol ac e-ddysgu traddodiadol, mae’r profiad trochol hwn yn cynnig senario byd go iawn. Bydd llawer o hyn yn archwilio’r damcaniaethau y byddant yn dysgu amdanynt yn eu modylau.
Cyflwyniad:Cymysg
Hyd:Sesiwn 45 munud
Maint y Grwpiau:15-20
Campws: Cysylltiadau Rhyngwladol Abertawe, Cysylltiadau Rhyngwladol Caerfyrddin
Math: Ystafell Ddianc
Disgrifiad: Mae eich system TG wedi’i pheryglu gan nifer o weithgareddau amheus. Gwaith y tîm yw olrhain, datgodio ac amddiffyn y system trwy ailosod y feddalwedd wrthfeirws. Senario diogelwch seiber rhyngweithiol heriol, a fydd yn profi sgiliau arsylwi, cyfathrebu a datrys problemau’r tîm.
Hyd: 25 munud, 15 munud, 10 munud
Chwaraewyr: Grŵp o 6
Campws:Cysylltiadau Rhyngwladol Abertawe (Cysylltiadau Rhyngwladol Caerfyrddin yn cael ei Ddatblygu)
Gosodiad: Angen propiau a threfniant ystafell
Math: Realiti Rhithir
Disgrifiad: Archwilio amgylchedd ystafell lys er mwyn dysgu sut mae ystafell lys yn gweithredu, lle mae pobl yn eistedd a beth maen nhw’n ei wneud.
Chwaraewyr:Chwaraewr Unigol
Math: Bwrdd Gwaith, Cymhwysiad, Bwth
Disgrifiad: Casgliad o fini gemau sydd â’r nod o ddatblygu datrys problemau a sgiliau gwybyddol i allu mynd i’r afael â mini dasgau’n gyflym ac yn effeithlon.
Chwaraewyr: Chwaraewr Unigol
Math: Realiti Rhithir
Disgrifiad: Senario person coll, lle mae’n rhaid i chi chwilio cartref teulu, er mwyn datgelu tystiolaeth a chliwiau am leoliad y person. Bydd hyn yn profi eich sgiliau arsylwi a’ch gallu i chwilio eiddo yn drylwyr, er mwyn gwneud yn siŵr nad oes dim yn cael ei golli.
Chwaraewyr: Chwaraewr Unigol
Math: Cymhwysiad Bwrdd Gwaith
Disgrifiad: Mae llawer o bobl yn gyrru cerbydau, ond nid oes llawer o bobl yn rheoli a monitro traul eu teiars. Rydych chi’n defnyddio’r cymhwysiad hwn mewn cydweithrediad â GTADC er mwyn dysgu a gweld yr effaith y mae dyfnder teiars yn ei chael ar bellteroedd brecio.
Chwaraewyr: Chwaraewr Unigol
Math: Cymhwysiad Bwrdd Gwaith
Disgrifiad: Mae’r cymhwysiad Diogelu yn brofiad hyfforddi rhyngweithiol sy’n helpu dysgwyr i archwilio senarios realistig, adnabod dangosyddion diogelu posibl, ac ystyried sut y gall oedran, cyd-destun a mathau gwahanol o gam-drin ddylanwadu ar eu barn.
Chwaraewyr: Chwaraewr Unigol