Mae’r Tîm Profiad ac Ymgysylltu Digidol yn arbenigo mewn ffrydio ar-lein a darlledu byw, gan alluogi darparu digwyddiadau, darlithoedd mawr, a gweithdai arbenigol yn ddi-dor ar gyfer cynulleidfaoedd o bell, gan gysylltu ac ymgysylltu â gwylwyr, a sicrhau profiad ar-lein proffesiynol.
Ymhlith y digwyddiadau rydym wedi'u ffrydio o'r blaen mae:
Seremonïau Graddio PCYDDS
Abertawe, Caerfyrddin, Llambed
Cynadleddau
WoodKnowledge Wales, Residuum 25
Uwchgynhadledd MADE PCYDDS
Abertawe a Gogledd Cymru
Galluoedd
Gyda gosodiad darlledu 5-camera, gallwn sicrhau ein bod yn cipio’r digwyddiad. Gan ddefnyddio camerâu Sony PTZ , gallwn raglennu nifer o amrywiadau lluniau sy’n ehangu’r creadigrwydd yn ystod y darllediad.
I gael lluniau agos, mae gennym hefyd Sony DSLR sefydlog, sy’n ein galluogi i nesáu at y gwrthrych i ddal eiliadau allweddol, ymatebion y gynulleidfa, neu i greu symudiad deinamig i wella profiad ar-lein y gwyliwr.
Graffeg
Gall y tîm Profiad ac Ymgysylltu Digidol hefyd gynorthwyo gyda datblygu graffeg darlledu byw i gyd-fynd â ffrwd fyw, i roi gwybodaeth ychwanegol i’r gwyliwr, darparu codau QR a dolenni, neu hysbysebion mewnol o gynnwys perthnasol.