UWTSD Staff wearing headset

Realiti Rhithwir

Yn PCYDDS, mae ein cymorth Realiti Rhithwir yn darparu’r arbenigedd a’r cyfarwyddyd ar gyfer staff a myfyrwyr i weithredu Realiti Rhithiwr yn eu harfer proffesiynol a’u gwaith prosiect. P’un a ydych yn newydd i Realiti Rhithwir neu’n ceisio cyfoethogi prosiect cyfredol, rydym yn cynnig cymorth, o gymorth technegol i arferion gorau ar gyfer realiti rhithwir.

UWTSD Staff wearing headset

Ein Gwasanaethau

Cymorth Technegol – Hyfforddiant a Gweithdai

Cyfarwyddyd ynghylch caledwedd Realiti Rhithwir a datrys problemau.

Cymorth Prosiectau

Cyngor ynghylch gweithredu Realiti Rhithwir mewn darlithoedd, ymchwil, a datblygiad proffesiynol.

Cyfarwyddyd Iechyd a Diogelwch

Sicrhau defnydd diogel a chyfrifol o dechnoleg Realiti Rhithwir.

UWTSD Staff wearing VR headset

Tîm Profiad ac Ymgysylltu Digidol

Yn PCYDDS cefnogir Realiti Rhithwir gan y Tîm Profiad ac Ymgysylltu Digidol.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth, archebu sesiwn, neu ofyn am arddangosiad, cysylltwch â ni: vr@uwtsd.ac.uk

VR Headset

Pensetiau a Benthyciadau

Mae PCYDDS yn darparu gwasanaeth benthyca pensetiau VR, gan sicrhau bod gan yr holl staff a myfyrwyr fynediad at realiti rhithwir ar gyfer dysgu, addysgu, ac ymchwil. Gyda mwy na 60 o bensetiau Meta Quest 2, rydym yn cefnogi ystod eang o achosion defnydd academaidd a phroffesiynol.

Mae pensetiau ar gael i’w benthyca i’r holl staff a myfyrwyr, ar draws pob campws yn PCYDDS. Gallwch ddefnyddio’r pensetiau a niferoedd ohonynt mewn nifer o ffyrdd:

  • Yn unigol – ar gyfer astudiaeth, arbrofi, neu ymchwil personol.
  • Grwpiau o bump – yn ddelfrydol ar gyfer prosiectau bach, sesiynau cydweithredol.
  • Niferoedd at eich dewis – ar gyfer darlithoedd, gweithdai, neu ddigwyddiadau (os ydynt ar gael).

I gefnogi defnyddwyr i gychwyn arni, rydym yn cynnig arddangosiadau a gweithdai gan eich cyflwyno i hanfodion defnyddio’r pensetiau VR, arferion gorau, a chymwysiadau ymarferol mewn lleoliad addysgol.

I wneud cais am fenthyciadau, arddangosiadau, neu gymorth pellach, cysylltwch â’r tîm cymorth Realiti Rhithwir vr@uwtsd.ac.uk.

Cysylltu â ni 

Mae’r Tîm Profiad ac Ymgysylltu Digidol wrth law bob tro i helpu gydag unrhyw archebion, gweithdai, arddangosiadau neu ddatblygu cynnwys, ar draws pob campws. Cysylltwch â ni er mwyn:

  • Cael rhagor o wybodaeth
  • Archebu pensetiau at ddefnydd unigol neu weithdai grŵp, darlithoedd ac ati
  • Holi ynghylch arddangosiadau rhagarweiniol
  • Holi ynghylch datblygu prosiectau/cynnwys

 

Anfonwch e-bost i

vr@uwtsd.ac.uk

 

VR device with UWTSD logo