VR Headset

Iechyd a Diogelwch:
Realiti Rhithwir

Yn PCYDDS y prif bensetiau VR sydd gennym i’w benthyca yw rhai META Quest 2.

Ymgyfarwyddwch â Chanllawiau Iechyd a Diogelwch y gwneuthurwr.

VR Headset

Cyfarwyddyd Pwysicaf

Ffit a Chysur

Sicrhewch fod y penset wedi’i addasu’n iawn i ffitio’r defnyddiwr drwy symud y strapiau, ei leoliad, a’r lensys. Dylai’r penset fod yn gyfforddus, a dylai’r testun ar y sgrin ymddangos yn glir.

Yn Barod i’w Ddefnyddio

Os nad oes modd addasu’r penset i ffitio’n ddiogel ac yn glir, ni ddylai’r defnyddiwr ddefnyddio Realiti Rhithwir. Mae ffit gywir yn hanfodol ar gyfer profiad diogel ac effeithiol.

Ymwybyddiaeth a Diogelwch y Defnyddiwr

Os na all y defnyddiwr ddeall neu ymateb i’r canllawiau iechyd a diogelwch, ni ddylai ddefnyddio Realiti Rhithwir. Mae dealltwriaeth glir yn hanfodol ar gyfer profiad diogel a chyfrifol.

……………..

Mae’r tîm yn cymryd camau helaeth i leihau risgiau a lliniaru unrhyw ddigwyddiadau wrth weithredu Realiti Rhithwir. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau profiad diogel a phleserus i bawb, gofynnwn fod yr holl gyfranogwyr yn ymgyfarwyddo â rhagofalon ac argymhellion diogelwch pellach hanfodol.

Diogelwch Corfforol

Amgylchedd y Defnyddiwr

Sicrhewch fod o leiaf 2.5 metr o le heb rwystrau o gwmpas pob defnyddiwr Realiti Rhithwir unigol.

Strapiau Diogelwch

Sicrhewch fod yr holl offer Realiti Rhithwir, yn cynnwys pensetiau a rheolyddion, wedi’u cysylltu yn eu lle a’u haddasu’n gywir cyn eu defnyddio.

Ffin Diogelwch

Arhoswch o fewn ardaloedd diogel penodedig i osgoi taro yn erbyn gwrthrychau neu gyfranogwyr eraill.

Cysylltiad Ar Dennyn

Os ydych yn defnyddio cysylltiad ar dennyn â dyfais, sicrhewch fod y cebl yn ddigon o hyd o’r ddyfais i’r penset VR i gadw at ganllawiau Amgylchedd y Defnyddiwr.

Penset

Sicrhewch fod digon o fatri gan bensetiau diwifr i’w hatal rhag cau lawr yn ddirybudd.

Cyflyrau Iechyd

Cyflyrau Ffotosensitif ac Epilepsi

Gall goleuadau sy’n fflachio ac effeithiau gweledol cyflym sbarduno ffitiau mewn unigolion â ffotosensitifrwydd neu epilepsi. Cymerir camau i leihau’r risg o ddelweddau sy’n fflachio ac yn sbarduno effeithiau o’r fath mewn profiadau a chymwysiadau Realiti Rhithwir; fodd bynnag, nid oes modd bod yn sicr na fydd yn digwydd, yn enwedig gyda chynnwys gan 3ydd parti.

Cyngor i Ymgynghori

Os ydynt yn ansicr, argymhellir y dylai defnyddwyr â hanes o epilepsi neu ffotosensitifrwydd ymgynghori â meddyg cyn ymwneud â phrofiadau Realiti Rhithwir.

Salwch Symud a Cholli Cyswllt â’r Amgylchedd

Seibiannau ar gyfer Defnydd Estynedig

Cynghorir defnyddwyr i gymryd seibiant wedi 15-20 munud, oherwydd gall defnydd estynedig arwain at bendro, cyfog, colli cyswllt â’r amgylchedd a salwch symud.

Addasu’n Raddol

Dechreuwch gyda sesiynau byr 5 munud, gyda seibiant i ddilyn, a chynyddu’r amser defnyddio’n raddol.

Sesiynau Estynedig

Cysur y Pensetiau

Addaswch y penset i ffitio’n iawn er mwyn osgoi straen llygaid a diffyg cysur.

Amser Cyfyngedig o flaen y Sgrin

Cynghorir defnyddwyr i’w symud eu hun i ffwrdd o Realiti Rhithwir i osgoi straen llygaid, oherwydd gall sgriniau mewnol pensetiau VR allyrru golau llachar a chyson.

Cyngor

Addaswch y penset i ffitio’n iawn er mwyn osgoi straen llygaid a diffyg cysur.


Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl

Llesiant Seicolegol

Osgowch brofiadau Realiti Rhithwir a allai sbarduno gorbryder, ffobiâu, neu drallod.

Rhybudd Cynnwys

Er bod cynnwys yn cael ei lunio a’i gyrchu’n ofalus, mae’n bosibl y bydd rhai defnyddwyr yn teimlo bod cynnwys penodol yn ddwys neu’n gwneud iddynt golli cyswllt â’u hamgylchedd.

Stopio mewn Argyfwng

Stopiwch ddefnyddio Realiti Rhithwir os byddwch yn profi gorbryder, dryswch, neu drallod emosiynol uwch.

Hylendid a Chynnal a Chadw

Glanhau

Glanhewch y pensetiau a’r rheolyddion yn rheolaidd gyda weips heb alcohol.

Gorchuddion Wyneb

Defnyddiwch orchuddion wyneb symudadwy er mwyn cynnal hylendid yn enwedig mewn amgylchedd a rennir.

Rhagofalon

Rhagofalon Personol

Rydym yn annog defnyddwyr i feddwl am eu hiechyd a’u cyfyngiadau eu hun, ac mae ganddynt opsiwn i optio allan o weithgareddau os byddant yn teimlo’n sâl neu’n ansicr.

Hysbysu Staff

Cynghorir yn gryf fod defnyddwyr yn hysbysu aelod o staff am unrhyw gyflyrau (e.e. epilepsi, fertigo, neu ffotosensitifrwydd) neu lefelau o orbryder a allai effeithio ar eu profiad, er mwyn gallu cymryd rhagofalon cywir.

Mynediad at Gymorth

Sicrhewch fod defnyddwyr yn gwybod at bwy y dylent fynd os oes angen help arnynt neu angen gadael y profiad yn gyflym oherwydd pryderon iechyd.

Am ragor o wybodaeth gan META ynghylch canllawiau Iechyd a Diogelwch clustffonau VR y gwneuthurwr, ewch i Wefan Meta.