Croeso i Ystafelloedd Trochi PCYDDS, nod y cyfleusterau yw darparu amgylchedd addysgu a dysgu o’r radd flaenaf i staff a myfyrwyr PCYDDS. Ystafelloedd wedi’u dylunio’n benodol ydynt, gan ddefnyddio technoleg i ddarparu profiad addysgol trochol.
Mae’r Ystafelloedd Trochi yn cynnwys 3 wal fideo fawr, gan greu amgylchedd digidol amgaeedig.
Ynghyd â system sain amgylchynol, nod y gofod yw symbylu aml-synhwyrau, pwysleisio pwysigrwydd profiad myfyrwyr o fewn addysg, cyfoethogi cadw myfyrwyr a deall cysyniadau cymhleth.
Tair wal fideo fawr, gan greu amgylchedd digidol caeedig
Mae’r Ystafelloedd Trochi yn manteisio ar rym dysgu drwy brofiadau, gan ddymchwel y rhwystrau sy’n gysylltiedig â phensetiau VR. Mae’r mannau trochi hyn yn pontio theori ac ymarfer trwy gyfuniad o’r rhithwir a ffisegol, gan gynnwys pob dysgwr a dull dysgu.
Gall unrhyw aelod o staff ac unrhyw gwrs ar draws PCYDDS archebu’r gofodau, ac maent yn addas ar gyfer defnyddwyr niferus. Yn bennaf, mae’r mannau cydweithredol hyn yn hyrwyddo profiadau dysgu mewn grwpiau, yn cynnig amgylchedd saff i efelychu gwahanol amgylcheddau, o arsylwadau ystafell ddosbarth ysgolion i hyfforddiant iechyd a diogelwch mewn lleoliad diwydiannol risg uchel.
Os hoffech ragor o wybodaeth neu archebu’r ystafelloedd i ddod am ymweliad ac arddangosiad, cysylltwch â ni: immersive@uwtsd.ac.uk.
Defnyddio’r Ystafelloedd
Mae’r Ystafelloedd Trochi yn fannau aml-swyddogaeth y gellir eu defnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd. Yn sefydliad addysg uwch, y prif ffocws yw hwyluso holl weddau addysgu a dysgu a gynigir gan PCYDDS, fodd bynnag, gellir hefyd defnyddio’r ystafelloedd ar gyfer:
Gweithdai
Arddangosfeydd
Ymchwil
Ymweliadau ac arddangosiadau
Digwyddiadau
Y Dechnoleg
Mae’r dechnoleg a ddefnyddiwyd i adeiladu’r ystafelloedd wedi’i dylunio a’i datblygu i fod yn sythweledol, lle gall defnyddwyr o bob gallu technegol arddangos cynnwys a chreu profiad diddorol. Mae’r technolegau craidd sydd yn yr Ystafelloedd Trochi yn cynnwys 3 wal fideo fawr, arddangosfa sgrin gyffwrdd, a stac gweinyddion.
Y Sgriniau
Mae prif ffocws yr ystafelloedd, y 3 wal fideo, wedi’u dylunio a’u hadeiladu i fod yn un cynfas di-dor sy’n lapio o gwmpas yr ystafell.
Paneli arddangos LED IER/IEA Samsung, sy’n arwain y diwydiant o ran ansawdd lluniau Ystod Deinamig Uchel (HDR), gan greu cynnwys gweledol ansawdd uchel yn yr Ystafelloedd Trochi. Mae eglurder y llun yn amlygu’r gallu i efelychu amgylcheddau ffisegol yn effeithiol, gan ychwanegu realaeth i’r profiad sy’n cyfoethogi addysgu a dysgu.
Wedi’i leoli yng nghefn yr ystafelloedd mae Sgrin Gyffwrdd Samsung 55”, sy’n gweithredu fel prif allfa’r cyfrifiaduron (sydd yn y stac gweinyddwyr) sy’n rheoli’r ystafelloedd. Mae’r sgrin gyffwrdd wedi’i gosod ar stand y gellir ei addasu a’i symud, sy’n caniatáu i’r defnyddiwr reoli’r system weithredu’n gyflym gan greu rhyngwyneb defnyddiwr rhyngweithiol a sythweledol.
Igloo Core Engine (ICE)
I reoli’r cynnwys sy’n cael ei arddangos, rydym yn defnyddio Injan Graidd Igloo (ICE), meddalwedd gweithredu cynnwys sydd wedi ennill gwobrau, sy’n eich galluogi i weld a rhyngweithio gyda chynnwys o fewn yr Ystafelloedd Trochi.
Mae ICE yn caniatáu i chi ffrydio cynnwys yn gyflym gan ddefnyddio system haenog, neu sesiynau wedi’u ffurfweddu neu arbed ymlaen llaw. Mae gan ICE fynediad i amrywiaeth o gymwysiadau fel:
YouTube 360
Google Streetview
Unreal Engine
Unity
Revizto
Matterport
Google Slides
Gwe borwr ICE
Ffrydio NDI
Fformatau ffeiliau
I reoli’r cynnwys sy’n cael ei arddangos, rydym yn defnyddio Injan Graidd Igloo (ICE), meddalwedd gweithredu cynnwys sydd wedi ennill gwobrau, sy’n eich galluogi i weld a rhyngweithio gyda chynnwys o fewn yr Ystafelloedd Trochi.
Defnyddio lluniau
Pob maint (.jpg, png)
Fideos
HD, 4K, 8k, 12k, 360 (.mp4, .mov)
Ffeiliau
PDF (.pdf)
Iechyd a Diogelwch
Mae’r tîm yn cymryd camau helaeth i leihau risgiau a lliniaru unrhyw ddigwyddiadau o fewn amgylchedd yr ystafell drochi. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau profiad diogel a phleserus i bawb, gofynnwn i bob cyfranogwr ymgyfarwyddo â rhagofalon diogelwch hanfodol.
Mae’r tîm Profiad ac Ymgysylltu Digidol yn barod bob tro i helpu gydag archebion ar gyfer yr Ystafell Drochi neu i ddatblygu cynnwys, ar draws pob campws. Cysylltwch â ni os hoffech: