Mae’r tîm yn cymryd mesurau helaeth i leihau risgiau a lliniaru unrhyw ddigwyddiadau yn Ystafell Drochi PCYDDS. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau profiad diogel a phleserus i bawb, gofynnwn i’r holl gyfranogwyr ymgyfarwyddo â’r camau diogelwch hanfodol.
Gall goleuadau sy’n fflachio ac effeithiau gweledol cyflym sbarduno trawiadau mewn unigolion sydd â ffotosensitifrwydd neu epilepsi. Cymerir camau lliniaru i leihau’r risg o ddelweddau sy’n fflachio a delweddau sy’n sbarduno yn yr ystafell drochi, ond ni ellir ei diystyru.
Os nad ydyn nhw’n siŵr, argymhellir bod defnyddwyr sydd â hanes o epilepsi
neu ffotosensitifrwydd yn ymgynghori â meddyg cyn cymryd rhan mewn profiadau trochol.
Cynghorir defnyddwyr i gymryd egwyl ar ôl 20-30 munud, gan y gall defnydd hir arwain at bendro, cyfog, dryswch a salwch symud.
Argymhellir bod defnyddwyr newydd yn dechrau ar y profiad yn raddol i leihau
risgiau o ddryswch.
Cynghorir defnyddwyr i adael yr ystafell o bryd i’w gilydd i osgoi straen llygaid, gan fod y paneli LED yn allyrru golau bywiog a chyson.
Argymhellir defnyddio seddi i leihau blinder corfforol a dryswch yn ystod profiadau hirach. Gellir gofyn am seddi ac mae rhai ar gael yn gyson yng nghefn yr ystafell. Iechyd Emosiynol.
Er bod cynnwys wedi’i ddylunio a’i gyrchu’n ofalus, mae’n bosibl y bydd cynnwys penodol yn ddwys neu’n ddryslyd i rai defnyddwyr.
Os bydd defnyddiwr yn teimlo ei fod wedi’i lethu neu wedi ei ddrysu yn yr ystafell drochi, cyfathrebwch i ddod â’r profiad trochol i ben ar unwaith.
Rydyn ni’n annog defnyddwyr i fod yn ymwybodol o’u hiechyd a’u cyfyngiadau eu hunain, ac mae’n opsiwn i optio allan o weithgareddau os ydyn nhw’n teimlo’n sâl neu’n ansicr.
Cynghorir yn gryf fod defnyddwyr yn rhoi gwybod i aelod o staff am unrhyw gyflyrau (e.e. epilepsi, pendro, neu ffotosensitifrwydd) neu lefelau o bryder a allai effeithio ar eu profiad, fel y gellir cymryd camau priodol ymlaen llaw.
Sicrhau bod defnyddwyr yn gwybod pwy i fynd atyn nhw os bydd angen help arnyn nhw neu os bydd angen iddyn nhw adael y profiad yn gyflym oherwydd pryderon iechyd.
Ar adegau pan ddefnyddir propiau yn y lle, argymhellir defnyddwyr i symud o gwmpas yn ofalus er mwyn osgoi peryglon baglu oherwydd ceblau a phropiau llai.
Caiff Ystafelloedd Trochi PCYDDS eu cefnogi gan y Tîm Profiad Digidol ac Ymgysylltu
E-bost: dee@uwtsd.ac.uk