Gwasanaethau Digidol » Gwasanaethau Digidol a Gwybodaeth
Mae’r strwythur newydd yn cwmpasu TG, dysgu digidol, llyfrgell, gwybodaeth, sgiliau digidol a gwasanaethau data o fewn un gyfarwyddiaeth integredig. Fe’i cynlluniwyd i gryfhau cydweithredu, symleiddio mynediad at wasanaethau, gwella profiad staff a myfyrwyr, a chefnogi uchelgeisiau strategol y Brifysgol mewn dysgu, addysgu, ymchwil a gwasanaethau proffesiynol.
Nodwedd allweddol o’r strwythur newydd yw cyflwyno model cymorth rheng flaen integredig ar draws pob campws, gan ddod â chefnogaeth TG a llyfrgell ynghyd mewn un gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid, tra’n cynnal arbenigedd ar draws dysgu digidol, gwasanaethau llyfrgell a thechnoleg menter.
Mae’r gyfarwyddiaeth wedi’i threfnu’n dri maes gwasanaeth craidd:
Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys strwythur sefydliadol newydd a chyfrifoldebau pob maes gwasanaeth, ar gael isod.