Argraffu, Copïo a Sganio

I argraffu, copïo, neu sganio, gallwch ddefnyddio ein Dyfeisiau Amlddefnyd (MFD). Dysgwch ble mae’r rhain wedi’u lleoli isod.

Mae defnyddio’r dyfeisiau’n hawdd: gallwch naill ai sweipio eich cerdyn myfyriwr neu deipio eich enw defnyddiwr a chyfrinair PCYDDS.

Ar gyfer Myfyrwyr, Byddwch angen credyd yn eich cyfrif MyPrint i argraffu neu gopïo.

Mae sganio’n rhad ac am ddim.

Ystafell gyfarfod fodern gyda bwrdd coed hir, sechelli swichen du a chadeiriau gyda chefn rhwyll, sgrin fawr wedi'i gosod ar y wal a ffenestr sy'n edrych allan ar adeilad arall.

Argraffu

Gallwch chi anfon eitem i’w hargraffu o unrhyw gyfrifiadur ar y rhwydwaith a chaiff ei storio yn eich ciw personol am hyd at 3 diwrnod. Wedyn gallwch chi ei rhyddhau i’w hargraffu o unrhyw Ddyfais Amlswyddogaeth (MFD) ar ôl i chi fewngofnodi.


I argraffu, dewiswch yr argraffydd â’r enw:  Print_Argraffu


Gosodiadau rhagosodedig yr MFD yw argraffu deuwedd (dwy ochrog) ac mewn du a gwyn. I argraffu mewn lliw neu’n un ochrog bydd angen i chi newid y gosodiadau rhagosodedig.


Bydd yr MFD yn codi tâl yn awtomatig ar gyfer cymysgedd o dudalennau lliw ac eitemau du a gwyn. Nodwch y bydd pob URL mewn dogfen yn cael ei argraffu mewn lliw ac yn cael ei anfon i’r MFD lliw.


Caiff balansau eu dangos ar y cleient Papercut sy’n rhedeg pan fydd myfyriwr mewn mewngofnodi ar y cyfrifiaduron rhwydwaith neu fe allwch weld eich credyd argraffu pan fyddwch yn mewngofnodi i unrhyw MFD.

Copïo

Gosodiadau rhagosodedig yr MFD yw copïo deuwedd (dwy ochrog) a chopïo mewn du a gwyn.

Gellir newid y gosodiadau hyn ar yr MFD.

Sganio

Gellir sganio eitemau o fewn cyfyngiadau hawlfraint. Anfonir eitemau sy’n cael eu sganio i’ch cyfeiriad e-bost PCYDDS fel rhagosodiad ond gallwch nodi cyfeiriad e-bost gwahanol o’ch dewis ar yr MFD.

Sylwer: 

Uchafswm maint ffeil i’w sganio i e-bost yw 35MB.

Uchafswm maint ffeil i’w sganio i OneDrive yw 200MB.

Lleoliadau

Adeilad Lleoliad Math o Fodel
Y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Llawr Gwaelod, Storfa Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd mewnol

Adeilad Lleoliad Math o fodel
Louisa House Llawr 1af, Ardal y Myfyrwyr Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd mewnol

Sparkhill Llawr Gwaelod, Ystafell Gyffredin Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd mewnol

Victoria House Llawr Gwaelod, Ardal y Myfyrwyr Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd mewnol

Vincent House Llawr Gwaelod, Ardal Mynediad Agored Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd mewnol

Adeilad Lleoliad Math o fodel
Tŷ Haywood Llawr Gwaelod, Ardal Mynediad Agored Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd mewnol

Cofrestrfa Prifysgol Cymru Islawr, Ardal Gyffredin y Myfyrwyr Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd mewnol

Cofrestrfa Prifysgol Cymru Llawr Gwaelod, Ystafell 4 Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd mewnol

Cofrestrfa Prifysgol Cymru Llawr Gwaelod, Ystafell 7 (CDdC) Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4
Cofrestrfa Prifysgol Cymru Llawr Gwaelod, Ystafell 18 (Gwasg PC) Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4
Adeilad Lleoliad Math o fodel
Dafydd Rowlands Llawr Gwaelod, Labordy Chwaraeon Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd mewnol

Cynefin Llawr Gwaelod, Ystafell Ddarlithio Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd mewnol

Dewi Llawr Gwaelod, Ardal Gwasanaethau Myfyrwyr Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd mewnol

Dewi Llawr 1af, Ystafell Lungopïo Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd allanol a Thyllwr

Dewi 2il lawr, Cegin Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd mewnol

Dewi 3ydd Llawr, Ystafell Lungopïo Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd mewnol

Halliwell Llawr Gwaelod, Swyddfa Gynadledda Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd mewnol

Hen Goleg Llawr Gwaelod, Ardal y Cwad Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd mewnol

Y Llyfrgell Llawr Gwaelod, Ardal Mynediad Agored y Llyfrgell Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd mewnol

Y Llwyfan Islawr, Ystafell Lungopïo Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd mewnol

Norah Isaac Llawr 1af, Coridor Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd mewnol

Y Neuadd Chwaraeon Llawr Gwaelod, Swyddfa Storio Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd mewnol

Dysgu ac Addysgu (T&L) Llawr 1af, Ystafell Lungopïo Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd mewnol

Dysgu ac Addysgu (T&L) 2il Lawr, Ystafelloedd y Rheolwyr Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd mewnol

Dysgu ac Addysgu (T&L) 2il Lawr, Ystafelloedd Rheolwyr Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd allanol a Thyllwr

Adeilad Lleoliad Math o fodel
Llyfrgell Llawr Gwaelod, Ardal y Myfyrwyr Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd mewnol

Adeilad Lleoliad Math o fodel
Westferry Circus Llawr Gwaelod, Ardal Argraffu Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd mewnol

Westferry Circus Llawr 1af, Ardal Argraffu Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd mewnol

Adeilad Lleoliad Math o fodel
Heol Alexandra Llawr Gwaelod, Coridor Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd mewnol

Campws Busnes Llawr 1af, Ardal Mynediad Agored y Llyfrgell Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd mewnol

Campws Busnes 2il Lawr, Ystafell AS225 Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd mewnol

Campws Busnes 3ydd Llawr, Ystafell AS300 (Caffi) Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd mewnol

Canolfan Sgaffaldio CWIC Llawr Gwaelod, Ystafell Staff Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd mewnol

Canolfan Dylan Thomas Llawr Gwaelod, Undeb y Myfyrwyr Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd mewnol

Canolfan Dylan Thomas Llawr 1af, Gwasanaethau Myfyrwyr Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd mewnol

Dinefwr Llawr Gwaelod Isaf, Ystafell Staff, ACG06D Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd mewnol

Dinefwr Llawr Gwaelod, Stiwdio Griffith Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd mewnol

Dinefwr 3ydd Llawr, Ystafelloedd Ffotograffiaeth, AE311 Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd mewnol

Dinefwr 4ydd Llawr, AC403A Argraffydd Arbenigol Celf
Dinefwr 6ed Llawr, AD602 Argraffydd Arbenigol Celf
IQ Llawr Gwaelod, Ardal Mynediad Agored Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd mewnol

IQ Llawr Gwaelod, Ardal Dechnoleg, Storfeydd Peirianneg (Ystafell 019) Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd mewnol

IQ Llawr 1af, Ardal Mynediad Agored Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd mewnol

IQ 2il Lawr, Ardal Mynediad Agored Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd mewnol

IQ 3ydd Llawr, Ardal y Staff (Ystafell IQ303) Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd mewnol

Technium 1 Llawr Gwaelod, y Dderbynfa Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd mewnol

Technium 1 Llawr Gwaelod, Uned 3, Ardal AD Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd mewnol

Technium 1 2il Lawr, Uned 14, Ardal yr UDRh Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd mewnol

Adeilad Y Fforwm Llawr 1af, Ardal Mynediad Agored y Llyfrgell Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd mewnol

Adeilad Y Fforwm 2il Lawr, Ardal Mynediad Agored y Llyfrgell Argraffu, Copïo a Sganio Lliw A4 ac A3

Gorffennydd mewnol

Prisiau Argraffu Myfyrwyr a Gwesteion

Un Ochrog

Du a Gwyn
A5 – 3c
A4 – 5c
A3 – 10c

Lliw
A5 – 11c
A4 – 18c
A3 – 34c

Dwy Ochrog

Du a Gwyn

A5 – 4c
A4 – 8c
A3 – 18c

Lliw

A5 – 20c
A4 – 34c
A3 – 66c

Ychwanegu Credyd Argraffydd Myfyrwyr a Gwesteion

Ewch i ’MyPrint’ i ychwanegu at eich credyd argraffu. Rhaid prynu gwerth £1 o gredydau o leiaf ar y tro.

Ad-daliadau Credyd Argraffydd Myfyrwyr

Caiff ceisiadau am ad-daliadau eu hystyried ar gyfer myfyrwyr sy’n bodloni’r holl feini prawf canlynol yn unig:

  • Rhaid bod balans credyd argraffu’r myfyriwr yn £5 neu’n fwy. Os ydy credyd argraffu’r myfyriwr yn is na’r swm hwn ni chymeradwyir yr ad-daliad.
  • Ystyrir ceisiadau am ad-daliad yn achos myfyrwyr sydd yn eu blwyddyn astudio olaf, neu sydd wedi cwblhau’u cwrs, yn unig.
  • Caiff ceisiadau am ad-daliadau eu hystyried rhwng 1 Ebrill – 31 Awst bob blwyddyn yn unig.
  • Rhaid nad oes gan fyfyrwyr sy’n gofyn am ad-daliad unrhyw rwystrau ariannol ar eu cyfrif myfyriwr yn y Drindod Dewi Sant.
  • Gall myfyrwyr wneud un cais am ad-daliad y flwyddyn academaidd yn unig.

Os byddwch chi’n bodloni’r holl feini prawf uchod, gallwch ofyn am ad-daliad trwy ddilyn y camau isod;

  • Creu tocyn ar gyfer y Ddesg Wasanaeth TG
    •  Ewch i ‘Web Help’.
    • Dewiswch y cais o’r math ‘User Computing Environment’ ac wedi hynny ‘Print Credit Refund Request’.

  • Rhaid cynnwys y wybodaeth ganlynol pan gaiff y tocyn ei greu:
    • enw’r cwrs a gwblhawyd.
    • rhif ffôn cyswllt.
    • cod didoli’r cyfrif banc.
    • rhif y cyfrif banc.

  • Bydd y Ddesg Wasanaeth TG yn cadarnhau’r balans argraffu ac yn atodi adroddiad balans i’r Tocyn i’r Ddesg Wasanaeth TG.
  • Wedyn bydd y Ddesg Wasanaeth TG yn tynnu’r swm y gwnaethpwyd cais amdano o falans eich credyd argraffu.
  • Anfonir cadarnhad drwy e-bost at y myfyriwr a finance@uwtsd.ac.uk a fydd yn prosesu’r cais a gymeradwywyd yn awtomatig.
  • Y myfyriwr sy’n gyfrifol am gysylltu’n uniongyrchol â’r Adran Gyllid i gadarnhau pryd caiff ei ad-daliad ei brosesu.
  • Mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i wrthod unrhyw gais am ad-daliad.

Dewch o hyd i Swyddfa Gyllid eich campws a’i hamseroedd agor.

Tri person ifanc yn gweithio'n ffocws ar gyfrifiaduron mewn amgylchedd addysgol neu swyddfa gyda un ferch gyda sbectol yn y blaenyn llun