Mae llawer o gynigion gwych ar gael i fyfyrwyr PCYDDS fel rhan o’n cynnig Detholion TG gan gynnwys:
Cwmwl Creadigol Adobe
Tanysgrifiadau Misol: Cewch chi brynu copi o Gwmwl Creadigol Adobe yn syth o Wefan Adobe a chael o leiaf 60% o ostyngiad wrth dalu bob mis.
Microsoft Office 365 am ddim
Os ydych chi’n un o fyfyrwyr Y Drindod Dewi Sant, cewch chi lawrlwytho Microsoft Office 365 Pro Plus gan gynnwys Word, Excel a PowerPoint yn rhad ac am ddim ar amrywiaeth o ddyfeisiau.
Gostyngiadau Meddalwedd
Rydyn ni wedi creu siop ar-lein lle gall myfyrwyr lawrlwytho ystod enfawr o feddalwedd rad ac am ddim neu am bris gostyngol iawn i’w defnyddio gartref.
Cliciwch ar y botwm “Sign up now” ac mewngofnodwch gyda’ch cyfrif Microsoft.
Dilynwch y camau i wirio eich statws myfyriwr a chreu eich cyfrif Azure.
Ar ôl creu eich cyfrif Azure, ewch i’r adran “Education” yn y porth Azure.
Cliciwch ar y botwm ‘Activate’ wrth y cynnig Windows 11.
Dilynwch y camau i actifadu eich allwedd Windows 11 rhad ac am ddim.
Sylwer efallai y bydd y cynnig hwn ar gael i fyfyrwyr ac addysgwyr cymwys yn unig. Ar ôl i chi actifadu cynnig Windows 11 yn y porth Azure, gallwch chi adfer yr allwedd actifadu drwy ddilyn y camau hyn:
Cliciwch ar “All Services” ar y fwydlen ar y chwith a chwiliwch am “Windows 11 Education Activation”.
Cliciwch ar “Windows 11 Education Activation” i agor y dudalen actifadu.
4. Sgroliwch i’r adran “Activation Key” a chopïwch yr allwedd a ddarperir. Microsoft Azure
Gostyngiadau Caledwedd
Siop EDU
Gostyngiadau enfawr ar gael i fyfyrwyr ar amrywiaeth o gynnyrch yn cynnwys Apple, Microsoft Surface, Ffonau a Watshis Clyfar. Gwarant 4 blynedd am ddim ar holl gynnyrch Apple a’u derbyn y diwrnod nesaf am ddim ar yr holl archebion. Ewch i siop EDU
SelectOnline
Cewch y Cynnyrch Apple sydd ei eisiau arnoch nawr. Gwasgarwch y gost gyda thaliadau misol isel, uwchraddio i’r ddyfais ddiweddaraf ar ddiwedd y cynllun neu dalu’r balans. Uwch i’r Siop SelectOnline.
Siop Addysg Apple
Cewch brisiau gwych ar nwyddau addysg gan Apple drwy fynd i Siop Addysg Apple
Autodesk am ddim
Fel myfyriwr yn Y Drindod Dewi Sant, gallwch chi lawrlwytho amrywiaeth o feddalwedd Autodesk yn cynnwys y canlynol: Fusion 360, Inventor Professional, Revit, AutoCAD, 3ds Max a Maya.
Ewch i: autodesk software i weld beth gallwch chi ei gael ar eich dyfais chi a hawlio eich meddalwedd yn rhad ac am ddim.