Gwasanaethau Digidol » Gwasanaethau TG » Cynigion Technoleg i Staff
Adobe Creative Cloud yn rhad ac am ddim. Fel aelod o staff y Drindod Dewi Sant, cewch fynediad i Adobe Creative Cloud ar eich dyfais bersonol yn rhad ac am ddim.
I osod Adobe CC ar eich dyfais bersonol:
Microsoft Office 365 am ddim. Fel aelod o staff yn y Drindod Dewi Sant, gallwch lawrlwytho Microsoft Office 365 Pro Plus yn cynnwys Word, Excel a PowerPoint i’w defnyddio’n rhad ac am ddim ar hyd eich cyflogaeth yn y Drindod Dewi Sant.
Ewch i Borth Office 365 a mewngofnodi gyda’ch cyfeiriad e-bost yn y Drindod Dewi Sant i gael mynediad am ddim nawr.
Cysgliad yn rhad ac am ddim. Fel aelod o staff yn Y Drindod Dewi Sant, gallwch chi lawrlwytho meddalwedd Cysgliad.
Pecyn meddalwedd yw Cysgliad sy’n eich helpu i ysgrifennu Cymraeg. Mae’n addas ar gyfer pobl sy’n rhugl yn y Gymraeg, dysgwyr Cymraeg, a’r rhai sy’n ddi-Gymraeg.
Mae’r pecyn yn addas ar gyfer cyfrifiaduron Windows ac mae’n cynnwys dwy brif raglen, sef Cysill ar gyfer gwirio sillafu a gramadeg a Cysgeir sy’n gyfres o eiriaduron dwyieithog.
Rydym wedi creu siop ar-lein lle gall staff lawrlwytho amrywiaeth enfawr o feddalwedd am ddim neu am bris â gostyngiad mawr i’w defnyddio gartref.
Cewch chi fanteisio ar y bargeinion hyn trwy fynd i onthehub.com a chofrestru gan ddefnyddio’ch cyfeiriad e-bost @pcydds.ac.uk.
Siop EDU. Gostyngiadau enfawr ar gael i staff ar amrywiaeth o gynnyrch yn cynnwys Apple, Microsoft Surface, Ffonau a Watshis Clyfar. Gwarant 4 blynedd am ddim ar holl gynnyrch Apple a’u derbyn y diwrnod nesaf am ddim ar yr holl archebion. Ewch i siop EDU
Uwchraddio’n Hawdd gyda Select. Cewch y Cynnyrch Apple sydd ei eisiau arnoch nawr. Gwasgarwch y gost gyda thaliadau misol isel, uwchraddio i’r ddyfais ddiweddaraf ar ddiwedd y cynllun neu dalu’r balans. Uwch i’r Siop Uwchraddio’n Hawdd.
Siop Addysg Apple. Cewch brisiau gwych ar nwyddau addysg gan Apple drwy fynd i Siop Addysg Apple
Fel aelod o staff y Drindod Dewi Sant, gallwch lawrlwytho amrywiaeth o feddalwedd Autodesk yn cynnwys Fusion 360, Inventor Professional, Revit, AutoCAD, 3ds Max a Maya.
Ewch i autodesk.com i weld beth gallwch chi ei gael ar eich dyfais chi a hawlio eich meddalwedd yn rhad ac am ddim.