Gwasanaethau Digidol » Gwasanaethau TG » Cynigion Technoleg i Fyfyrwyr
Mae llawer o gynigion gwych ar gael i fyfyrwyr PCYDDS fel rhan o’n cynnig Detholion TG gan gynnwys:
Tanysgrifiadau Misol: Cewch chi brynu copi o Gwmwl Creadigol Adobe yn syth o Wefan Adobe a chael o leiaf 60% o ostyngiad wrth dalu bob mis.
Os ydych chi’n un o fyfyrwyr Y Drindod Dewi Sant, cewch chi lawrlwytho Microsoft Office 365 Pro Plus gan gynnwys Word, Excel a PowerPoint yn rhad ac am ddim ar amrywiaeth o ddyfeisiau.
Rydyn ni wedi creu siop ar-lein lle gall myfyrwyr lawrlwytho ystod enfawr o feddalwedd rad ac am ddim neu am bris gostyngol iawn i’w defnyddio gartref.
Cewch chi fanteisio ar y bargeinion hyn trwy fynd i: https://uwtsd.onthehub.com a chofrestru trwy ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost myfyriwr@pcydds.ac.uk.
Ar gyfer cwestiynau cyffredin a phynciau cymorth ar gyfer y siop On the Hub ewch yma.
Sut i gael Meddalwedd Microsoft Rhad ac am Ddim
Dilynwch y camau hyn i gael allwedd Windows 11 gydag Azure Education rhad ac am ddim:
Sylwer efallai y bydd y cynnig hwn ar gael i fyfyrwyr ac addysgwyr cymwys yn unig. Ar ôl i chi actifadu cynnig Windows 11 yn y porth Azure, gallwch chi adfer yr allwedd actifadu drwy ddilyn y camau hyn:
Gostyngiadau enfawr ar gael i fyfyrwyr ar amrywiaeth o gynnyrch yn cynnwys Apple, Microsoft Surface, Ffonau a Watshis Clyfar. Gwarant 4 blynedd am ddim ar holl gynnyrch Apple a’u derbyn y diwrnod nesaf am ddim ar yr holl archebion. Ewch i siop EDU
Cewch y Cynnyrch Apple sydd ei eisiau arnoch nawr. Gwasgarwch y gost gyda thaliadau misol isel, uwchraddio i’r ddyfais ddiweddaraf ar ddiwedd y cynllun neu dalu’r balans. Uwch i’r Siop SelectOnline.
Cewch brisiau gwych ar nwyddau addysg gan Apple drwy fynd i Siop Addysg Apple
Fel myfyriwr yn Y Drindod Dewi Sant, gallwch chi lawrlwytho amrywiaeth o feddalwedd Autodesk yn cynnwys y canlynol: Fusion 360, Inventor Professional, Revit, AutoCAD, 3ds Max a Maya.
Ewch i: autodesk software i weld beth gallwch chi ei gael ar eich dyfais chi a hawlio eich meddalwedd yn rhad ac am ddim.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr uchod, cysylltwch â Desg Wasanaeth TG.