Gwasanaethau Digidol » Gwasanaethau TG
Mae’r prif gymorth TG i staff a myfyrwyr drwy’r Ddesg Gymorth. Dylid cofnodi pob problem a phob cais TG drwy’r Ddesg Gymorth.
Ffoniwch ni: 0300 500 5055
Caiff ein ffôn ei staffio bob awr o’r dydd, gan gynnwys ar benwythnosau. Gallwch ein ffonio ni 24/7.
Mae BYOD yn galluogi i staff a myfyrwyr ddefnyddio eu dyfeisiau personol eu hunain fel ffonau, tabledi a gliniaduron i gael mynediad i adnodda'r Brifysgol.
Gallwch argraffu, copïo, a sganio trwy ddefnyddio ein Dyfeisiau Amlddefnydd (MFD) ar bob un o’n campysau. Darllenwch ragor am leoliadau a chostau argraffu.
Mae gennym nifer o fannau addysgu a dysgu ar draws yr holl gampysau sydd ag ystod eang o gyfleusterau i gefnogi ein dulliau addysgu.
Gallwch storio ffeiliau ar eich OneDrive chi, ar Teams, ac ar yriannau a rennir. Dysgwch ragor am yr opsiynau a’r cyfrifoldebau sydd gennych o ran sut rydych yn storio’ch data.
ServiceNow yw ein canolfan ar-lein newydd ar gyfer cysylltu â'n hadrannau cymorth, cael help, a rhoi gwybod am broblemau.
Mae cyfrifiaduron ar gael i chi eu defnyddio ar draws ein campysau. Dewch o hyd i’r ystafell gyfrifiaduron agosaf atoch chi.
Mae’r Porth Hunanwasanaeth i Ailosod Cyfrinair yn galluogi’r holl myfyrwyr a staff i ailosod eu cyfrinair heb orfod cysylltu â Desg Wasanaeth TG.
Mae Dilysu Aml-ffactor yn rhoi haen ychwanegol o ddiogelwch wrth gael mynediad i systemau TG y Brifysgol.
Os ydych yn gweithio/astudio gartref a bod gennych gyflymderau rhyngrwyd gwael iawn neu ddim darpariaeth band eang yn eich ardal, bwriad y wybodaeth yma yw eich helpu chi.
Eduroam yw’r rhwydwaith diwifr at ddefnydd staff a myfyrwyr ar draws pob campws.
Dysgwch am Microsoft Office 365, casgliad pwerus o raglenni sydd ar gael yn rhad ac am ddim gyda’ch cyfrif staff neu gyfrif myfyriwr.
Mae eich cyfrif e-bost Outlook yn eich cysylltu â gweddill PCYDDS. Gwiriwch ef yn rheolaidd am negeseuon pwysig a gwybodaeth ddefnyddiol am ddigwyddiadau ac adnoddau.
Dysgwch sut i sylwi ar negeseuon e-bost twyllodrus, beth i’w wneud â nhw, a ble i roi gwybod amdanynt.
Mae ein Hystafelloedd Cyfarfod Microsoft Teams yn pontio’r bwlch rhwng gwaith a wneir o bell ac a wneir ar gampws.
Mae gweithio i ffwrdd o’r campws yn gallu achosi rhai heriau technoleg. Dysgwch sut i osod pethau fel y gallwch gael mynediad i’r holl wasanaethau a’r apiau sydd eu hangen arnoch.
Os oes angen i chi ddefnyddio ap arbenigol sydd ar gael ar gyfrifiaduron PCYDDS, gallwch fewngofnodi i'n cyfrifiaduron mynediad agored o’ch dyfais eich hun. Darllenwch ein canllawiau cysylltu ar gyfer systemau Windows ac Apple.
Mae llawer o gynigion gwych ar gael i fyfyrwyr PCYDDS fel rhan o'n cynnig Detholion TG.
Meddalwedd am ddim a gostyngiadau ar gyfer staff PCYDDS.
Cadwch mewn cysylltiad gyda’n prosiectau parhaus a chyflawn drwy ein Newyddion TG.