Cysylltu o Bell a Gweithio Gartref

Rydym yn cynnig amrywiaeth o dechnolegau sy’n ei gwneud yn haws i chi weithio gartref ac i ffwrdd o’r campws.

Gallwch:

  • osod apiau Microsoft 365 ar eich dyfais am ddim;

  • cysylltu â’r VPN i gael mynediad i’r Gyriant a Rennir a’r Gyriant Monitro Presenoldeb;

  • benthyca offer swyddfa TG gyda chymeradwyaeth eich pennaeth uned neu athrofa.

Sut ydw i’n cyrchu’r Gyriant (T) Monitro Presenoldeb?

Gall staff nad oes ganddynt y Gyriant (T) Monitro Presenoldeb wedi’i fapio ar eu dyfais eisoes wneud hynny trwy ddilyn y cyfarwyddiadau isod.

Defnyddio Dyfais Microsoft Windows a ddarparwyd gan y Brifysgol?

Os oes gennych liniadur Microsoft Windows a ddarparwyd gan y Brifysgol, byddwch eisoes wedi’ch cysylltu â’r VPN gan ddefnyddio’r gwasanaeth cynwysedig o’r enw Always-On VPN, cyn belled â’ch bod wedi’ch cysylltu â rhwydwaith sydd â mynediad i’r rhyngrwyd.

Defnyddio Dyfais Microsoft Windows Personol?

Os oes gennych eich dyfais Microsoft Windows personol eich hun, dilynwch ein canllawiau isod::

  1. Microsoft Windows – Canllaw Gosod Gwasanaeth VPN PCYDDS
  2. Microsoft Windows – Canllaw Cysylltu Cyrchu’r Gyriant T

Defnyddio Dyfais Apple Mac Personol?

Os oes gennych eich dyfais Apple Mac personol eich hun, dilynwch ein canllawiau isod:

  1. Apple MacOS – Canllaw Gosod Gwasanaeth VPN PCYDDS
  2. Apple MacOS – Canllaw Cysylltu Cyrchu’r Gyriant T

Os oes angen arweiniad arnoch ar ddefnyddio’r System Monitro Presenoldeb (AMS), cyfeiriwch at ein Canllaw Llawn i Ddefnyddwyr y System Monitro Presenoldeb.

Sut ydw i’n cyrchu’r Gyriant (S) Adrannol a Rennir?

Gall staff nad oes ganddynt y Gyriant (S) Adrannol a Rennir wedi’i fapio ar eu dyfais wneud hynny trwy ddilyn y cyfarwyddiadau isod.

Defnyddio Dyfais Microsoft Windows a ddarparwyd gan y Brifysgol?

Os oes gennych liniadur Microsoft Windows a ddarparwyd gan y Brifysgol, byddwch eisoes wedi’ch cysylltu â’r VPN gan ddefnyddio’r gwasanaeth cynwysedig o’r enw Always-On VPN, cyn belled â’ch bod wedi’ch cysylltu â rhwydwaith sydd â mynediad i’r rhyngrwyd.

Defnyddio Dyfais Microsoft Windows Personol?

Os oes gennych eich dyfais Microsoft Windows personol eich hun, dilynwch ein canllawiau isod:

  1. Microsoft Windows – Canllaw Gosod Gwasanaeth VPN PCYDDS
  2. Microsoft Windows – Canllaw Cysylltu Cyrchu’r Gyriant S

Defnyddio Dyfais Apple Mac Personol?

Os oes gennych eich dyfais Apple Mac personol eich hun, dilynwch ein canllawiau isod:

  1. Apple MacOS – Canllaw Gosod Gwasanaeth VPN PCYDDS
  2. Apple MacOS – Canllaw Cysylltu Cyrchu’r Gyriant S

Gweithio oddi ar y campws ar liniadur a gyflenwyd gan y brifysgol?

Gliniaduron Microsoft Windows

Os oes gennych liniadur Windows a gyflenwyd gan y brifysgol, byddwch yn gallu defnyddio’r gwasanaeth cynwysedig o’r enw AOVPN. Mae hyn yn eich galluogi i gysylltu’n ddiogel â holl Wasanaethau TG y Brifysgol fel pe baech chi ar y campws.

Mae’r gwasanaeth hwn wedi’i osod yn ddiofyn ar holl liniaduron Windows 10 staff y brifysgol ac mae’n gweithio’n ddi-dor heb fod angen i chi wneud unrhyw beth. Dyna’i gyd sydd angen yw mewngofnodi i’ch gliniadur a gweithio fel arfer.

Ydych chi’n cael problemau cysylltedd? Cysylltwch â’n Desg Wasanaeth TG.

Apple MacBooks

Os oes gennych Apple MacBook y brifysgol, bydd angen i chi osod y rhaglen FortiClient EMS ddiweddaraf o’r porth hunanwasanaeth ar eich MacBook. I osod y cleient, dilynwch ein  Canllaw Gosod VPN Hunanwasanaeth Apple MacOS.

Sut i gydweithio gyda chyfarfodydd a darlithoedd rhithwir?

Os oes arnoch angen cydweithio gyda chydweithwyr a myfyrwyr gan gynnwys cynnal cyfarfodydd neu ddarlithoedd rhithwir, rydym yn argymell defnyddio Microsoft Teams.

Sut i wneud galwadau ffôn ac anfon negeseuon gwib o gartref?

Os mai ffôn Skype for Business yw eich ffôn swyddfa, gallwch lawrlwytho meddalwedd Skype for Business ar eich cyfrifiadur cartref, gliniadur neu ddyfais symudol i wneud a derbyn galwadau ffôn fel pe baech chi ar y campws.

I ddysgu sut i lawrlwytho a defnyddio Skype for Business, ewch i’n tudalen Skype for Business.

Eich cyfrifoldebau wrth weithio o adref

Rydym yn atgoffa staff eu bod yn dal i fod yn ymrwymedig i bolisïau’r Brifysgol wrth iddynt weithio o adref, yn arbennig:

Mynd ag offer TG adref

Os ydych yn dymuno mynd ag offer TG o’ch cyfarpar swyddfa eich hun adref (gan gynnwys bysellfyrddau, llygod, a gorsafoedd docio) i’ch helpu wrth weithio gartref, rhaid i chi siarad â’ch Pennaeth Uned neu Athrofa am gymeradwyaeth.

Sylwch: nid ydym yn caniatáu mynd â chyfrifiaduron personol nac iMacs pen desg i’w defnyddio gartref.

Y broses ar gyfer benthyca cyfarpar TG ymylol dros dro:

  1. Cysylltwch â’ch Pennaeth Uned/Athrofa i ofyn am fynd ag Offer Swyddfa TG Ymylol adref.
  2. Bydd y Pennaeth Uned/Athrofa’n cymeradwyo neu’n gwrthod y cais.
  3. Er mwyn mynd ag offer a gymeradwywyd adref, bydd y Pennaeth Uned/Athrofa’n cadw rhestr eiddo o bwy sydd wedi benthyca pa gyfarpar – gan gynnwys y rhifau cyfresol.
  4. Bydd y Pennaeth Uned/Athrofa’n anfon e-bost at insurance@uwtsd.ac.uk i gadarnhau pa gyfarpar sydd wedi’i gymryd oddi ar y campws.
Person yn defnyddio MacBook Air gyda meddalwedd dylunio graffeg wedi agor, yn gweithio ar logos gyda saxoffôn a geiriau 'Rhythm and Brass' ar sgrin y cyfrifiadur