Gwasanaethau Digidol » Gwasanaethau TG » Remote PC
Mae ein gwasanaeth Remote PC yn caniatáu i chi:
fewngofnodi i gyfrifiaduron i ffwrdd o’r campws;
cael mynediad i feddalwedd arbenigol o’ch dyfais eich hun;
cymryd rhan mewn dysgu ac addysgu ar-lein.
Bydd angen i chi osod Dilysiad Aml-Ffactor (MFA) cyn i chi allu defnyddio cyfrifiadur o bell. Os nad ydych eisoes wedi gosod MFA, bydd angen i chi sefydlu hyn yn gyntaf.
Efallai y byddwch am archebu cyfrifiadur ymlaen llaw i’w ddefnyddio o bell i sicrhau ei fod ar gael i chi ar yr adeg y mae angen i chi astudio.
I archebu cyfrifiadur ymlaen llaw, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dilyn y camau yng Nghanllaw Archebu Cyfrifiadur.
Ar hyn o bryd, dim ond cysylltu â chyfrifiaduron Windows y gallwch chi ei wneud. Fodd bynnag, rydyn ni’n gweithio’n galed i greu dull mynediad at ein cyfrifiaduron Mac hefyd ar gyfer pynciau arbenigol.
Os oes angen i chi gael mynediad at gyfrifiaduron Mac am feddalwedd arbenigol, siaradwch â’ch darlithydd. Gall eich darlithydd gysylltu â’r adran TG wedyn i drafod y gofynion penodol.
Mae’r rhan fwyaf o’r feddalwedd sydd wedi’i gosod ar ein cyfrifiaduron Mac hefyd wedi’i gosod ar ein cyfrifiaduron Windows. Defnyddiwch gyfrifiaduron Windows pan fo’n bosibl.
Os ydych chi’n ddarlithydd ac eisiau bwcio labordy cyfrifiaduron i’ch myfyrwyr gael mynediad iddo o bell a’i ddefnyddio yn ystod eich darlith, dilynwch y camau canlynol:
Mae mynediad at gyfrifiadur o bell yn caniatáu i fyfyrwyr gael mynediad at sesiynau labordy cyfrifiadurol wedi’u hamserlennu o bell os na allant ddod i’r campws yn bersonol. Mae’r dechnoleg yn rhoi mynediad i fyfyrwyr at adnoddau Y Drindod Dewi Sant (gan gynnwys meddalwedd arbenigol) drwy gysylltiad gweithfan o bell.