Llun o bobl yn defnyddio tabledi mewn sefyllfa addysgol neu waith, gan ddal y ddyfais yn eu dwylo ar draws bwrdd gydag eitemau eraill fel gliniadur a gwydriad dŵr yn y cefndir

Microsoft Office 365

Mae Microsoft Office 365 yn dod â phŵer casgliad Microsoft Office i borwr gwe. Mae’n caniatáu ar gyfer rhagor o gydweithio a rhwyddineb mynediad. Hefyd, mae’n caniatáu i chi osod yr apiau ar unrhyw un o’ch dyfeisiau.

Gallwch greu:

  • dogfennau
  • taenlenni
  • cyflwyniadau
  • llyfrau nodiadau, a mwy.

Bydd y rhain yn cadw yn eich OneDrive, eich ap storio ar-lein. Gallwch eu rhannu drwy ddolen a gweithio arnynt gyda phobl eraill.

Mae’n bosibl gwneud newidiadau i’ch dogfennau yn eich porwr gwe, neu yn yr apiau Microsoft ar eich dyfais.

Llun o bobl yn defnyddio tabledi mewn sefyllfa addysgol neu waith, gan ddal y ddyfais yn eu dwylo ar draws bwrdd gydag eitemau eraill fel gliniadur a gwydriad dŵr yn y cefndir
Gallwch chi osod Microsoft Office 365 yn rhad ac am ddim ar eich dyfeisiau personol gan gynnwys Outlook, Word, Excel, PowerPoint, Teams, a Skype for Business.

Ar ôl ei osod ar eich dyfais bersonol, gallwch chi fewngofnodi gyda’ch cyfrif prifysgol a defnyddio’r un gwasanaethau a ffeiliau Microsoft fel petaech chi ar y campws.

Ffonau Symudol a Llechi


Chwiliwch siop ap eich dyfeisiau ar gyfer yr ap yr hoffech chi ei osod a’i lawrlwytho. Ar ôl ei lawrlwytho, mewngofnodwch i’r ap gyda’ch cyfeiriad e-bost a’ch cyfrinair prifysgol.

Gliniaduron a Chyfrifiaduron Windows ac Apple Mac



  1. Ewch i  office.com a mewngofnodi gyda’ch cyfeiriad e-bost a’ch cyfrinair prifysgol
  2. Dilynwch y cyfarwyddiadau i osod Office 365

Gellir dod o hyd i gyfarwyddiadau manylach ar wefan Microsoft Website or neu gallwch wylio canllaw fideo byr Microsoft.

Mae pob trwydded tanysgrifio yn caniatáu ichi redeg Office ar hyd at bum peiriant ym Mac neu PC. Gallwch hefyd redeg Office Mobile ar gyfer Android neu Office Mobile ar gyfer iPhone ar hyd at 5 dyfais symudol.

Cewch eich trwyddedu drwy gydol eich cwrs(cyrsiau) neu gyflogaeth gan fod y drwydded wedi’i chysylltu â’ch cyfrif e-bost Office 365 PCYDDS.