Storio ar y Rhwydwaith

Mae’r Brifysgol yn darparu cyfleuster storio canolog diogel ar gyfer staff a myfyrwyr.

Microsoft OneDrive

Ardal storio yn y cwmwl (1TB) ar gyfer ffeiliau. Caiff y ffeiliau hyn eu dal yng nghyfleusterau storio Ewropeaidd Microsoft.

Gellir cadw ffeiliau yn eich OneDrive yn breifat, gellir eu rhannu â phobl benodol neu eu rhannu â phawb.

Nid yw’r Gwasanaethau Gwybodaeth na Microsoft yn cadw copi wrth gefn yn awtomatig o unrhyw beth a roddwch yn eich OneDrive. Os bydd ffeiliau yn eich OneDrive yn cael eu dileu, dim ond am hyd at 30 diwrnod y gallwch chi eu hadfer. Fe’ch cynghorir i gadw copïau wrth gefn o ffeiliau pwysig, megis gwaith cwrs, ar gofbin USB personol.

Dyn yn eistedd wrth ddesg gyda chyfrifiadur yn cysylltu â darparwr gweinyddion a chwmwl gyda symbol cadw data wedi'i gloi, yn cynrychioli storio data diogel ar y cwmwl

Microsoft Teams

Gallwch gadw dogfennau yn eich safle Microsoft Teams. Mae Teams yn eich galluogi i gydweithio ar ddogfennau a’u cyrchu o unrhyw le sydd â chysylltiad â’r rhyngrwyd.

Person yn eistedd wrth ddesg yn cyfathrebu ar gyfrifiadur gyda thri pherson mewn cylchoedd sgwrs ar y cefndir

Storfa a Rennir

Caiff storfa ei rhannu ar lefel adrannol ac ysgol. Fe’i darperir i alluogi rhannu gwybodaeth a dogfennau gyda chydweithwyr uniongyrchol. Cysylltwch â’r Ddesg Wasanaeth TG am fanylion yr ardaloedd a rennir yn eich adran neu ysgol.

Dau ddynes yn rhyngweithio â chyfrifiadur gliniadur mawr gyda ffolderi ar y sgrin, un yn dal magnified a'r llall yn tynnu dogfen allan o ffolder, gyda phlentyn a chwpán coffi o'r ochr,

Storio eich Ffeiliau tu allan i PCYDDS

Mae yna rai opsiynau eraill ar gyfer storio sy’n caniatáu mynediad ar-lein; er enghraifft, Google Docs. Os byddwch yn defnyddio’r lleoedd hyn, dylech fod yn ymwybodol o’r canlynol:

  • Ni fydd rhai o’r cwmnïau hyn yn gwarantu lleoliad storio eich data. Efallai y caiff ei gadw mewn lleoliadau lle na fydd dymuniadau preifatrwydd y DU yn cael eu parchu. Hefyd, ni chaniateir trosglwyddo data personol y tu allan i’r UE heblaw mewn amgylchiadau penodol.
  • Yn aml, does fawr ddim sicrwydd, neu ddim sicrwydd o gwbl, y gellir adfer eich data os bydd y seilwaith yn methu. Gwnewch yn siŵr fod gennych gopi wrth gefn arall wedi’i storio’n rhywle arall.
  • Ni ddylid storio gwybodaeth sy’n eiddo i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn yr ardaloedd hyn.
  • Pe bai problem gyda storfa a reolir tu allan i wasanaethau TG PCYDDS, ni fyddwn yn gallu helpu: bydd unrhyw gontract rhwng yr unigolyn a’r darparwr.
Gwâr diwydiannol mawr gyda palisâd o giwboedd glas, pibellau haearn a physgodi mewn afon ysgafn o flaen, gyda rhaeadr gwynt i'r chwith a chwmwl ysgafn yn y cefndir cerdded ar draws awyr las fain.
Canolfan data Google yn Eemshaven, yr Iseldiroedd

Eich Cyfrifoldebau

Cyfrifoldeb y person sy’n cadw gwybodaeth yw sicrhau ei fod yn deall preifatrwydd, sensitifrwydd ei ddata a’i wybodaeth a sicrhau cadw/dileu yn unol â rheoliadau a chyfreithiau.

Mae’n bwysig nad yw storfeydd y Brifysgol yn cael eu defnyddio ar gyfer data, ffeiliau a delweddau sydd â hawlfraint yn rhywle arall, sydd o natur gwbl bersonol (megis casgliadau cerddoriaeth personol) neu sy’n debygol o gael eu hystyried yn amhriodol yn achos archwiliad allanol o’n storfeydd data.

Diogelwch Storio

Cedwir copi wrth gefn o’r holl storfeydd ffeiliau canolog a gall defnyddwyr adfer gwybodaeth sydd hyd at ddiwrnod oed.

Cymorth a Chefnogaeth

Oes gennych gwestiwn am storio neu oes angen adfer data arnoch? Cysylltwch â’r Gwasanaethau TG.