Gwasanaethau Digidol » Gwasanaethau TG » ServiceNow
Rydym yn falch i gyhoeddi – fe lansiwyd ‘ServiceNow’ yn lle ‘Web Help Desk’ ar Fedi’r 17eg 2024.
Yn dilyn ymgysylltu ac adborth, bydd ServiceNow yn darparu porth newydd ei olwg i fyfyrwyr a staff fanteisio ar wasanaethau ac adrodd am faterion sy’n hawdd eu llywio a fydd yn darparu profiad di-dor, hawdd ei ddefnyddio.
Tynnodd adborth ein sylw ni at y ffaith ei bod hi’n anodd llywio ein System Docynnau TG bresennol ac nad oedd hi’n hawdd i chi gael y gwasanaethau yr oedd eu hangen nhw arnoch chi.
Hynny yw, nid oedd llawer o bobl yn siŵr sut i gael y gwasanaethau yr oedd eu hangen nhw arnyn nhw neu nad oedden nhw’n gallu cael atebion cyflym i gwestiynau a oedd ganddyn nhw oni bai eu bod nhw’n ffonio ein Desg Wasanaeth TG.
Ein nod yw ei gwneud hi’n hawdd archwilio a defnyddio’r gwasanaethau y mae eu hangen arnoch pan fydd eu hangen arnoch.
Bydd ServiceNow yn symleiddio sut rydych chi’n rhoi gwybod i ni am unrhyw faterion ac yn ei gwneud hi’n hawdd chwilio am yr help y mae ei angen arnoch chi.
Rydyn ni’n gyffrous i rannu rhai o’r manteision a’r uchafbwyntiau allweddol y byddwch chi’n gallu manteisio arnyn nhw gyda ServiceNow:
Byddem ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, sylwadau, adborth, neu awgrymiadau.
Ewch i’n ffurflen Adborth ac Awgrymiadau ServiceNow i roi gwybod i ni eich meddyliau neu ofyn unrhyw gwestiynau.
Gallwch fewngofnodi i ServiceNow drwy ymweld â uwtsd.service-now.com.
Rydym yn falch i gyhoeddi – fe lansiwyd ‘ServiceNow’ yn lle ‘Web Help Desk’ ar Fedi’r 17eg 2024.
Na fydd. Bydd cynnwys a golwg y porth wedi eu teilwra i sicrhau bod cynnwys a gwasanaethau perthnasol ar gael i’n myfyrwyr a’n staff.
Mae ein porth myfyrwyr yn adlewyrchu brandio Hwb Myfyrwyr i sicrhau cysondeb o ran golwg a naws, ac mae ein porth staff yn adlewyrchu ein brand gwefan PCYDDS.
Bydd. Byddwch chi’n gallu dewis a hoffech chi ddefnyddio naill ai Cymraeg neu Saesneg ar ôl mewngofnodi i ServiceNow.
Byddwn yn diweddaru’r dolenni sydd wedi’u lleoli ar draws y Brifysgol ar hyn o bryd.
Bydd tocynnau a grëwyd yn Nesg Cymorth y We cyn 17eg o Fedi yn parhau i gael eu prosesu a’u ddatrys o fewn Desg Cymorth y we. Bydd yn bosibl diweddaru’r Tocynnau Cymorth Gwe bresennol, ond ni fydd yn bosibl creu unrhyw docynnau newydd o fewn Desg Cymorth y we.
O’r 17eg o Fedi, bydd unrhyw geisiadau neu faterion newydd a adroddir yn cael eu creu, eu prosesu a’u datrys o fewn ServiceNow.
Pan fydd ServiceNow yn lansio yn y cam cyntaf, bydd staff yn gallu cyrchu gwasanaethau adrannol a ddarperir gan TG, Gwasanaethau Gwe a Marchnata.
Technoleg Gwybodaeth
Gwasanaethau Gwe
Marchnata
Yng nghamau’r dyfodol, byddwn ni’n archwilio’r posibilrwydd y bydd rhagor o adrannau’n darparu eu gwasanaethau drwy ddefnyddio ServiceNow.
Rydyn ni’n parhau i ddatblygu’r porth staff, fodd bynnag, rydyn ni’n falch o roi cipolwg i chi ar sut bydd y porth yn edrych.
Gallwch. Gall staff ddefnyddio’r gwasanaethau Sgwrsfot a Sgwrs Fyw i siarad â’n tîm Darparu Gwasanaethau TG yn ystod oriau agor.
Pan fyddwn ni ar gau, gallwch chi ddal i ddefnyddio’r gwasanaeth sgwrsfot AI i gael yr atebion y mae eu hangen nhw arnoch chi neu roi gwybod i ni am eich ymholiad neu’ch problem a byddwn ni’n cysylltu â chi eto pan fyddwn ni’n ailagor.
Mae ServiceNow wedi’i gynllunio i’w ddefnyddio gan bob adran a gwasanaeth.
Unwaith y byddwn ni’n mynd yn fyw gyda ServiceNow, byddwn ni’n cysylltu ag adrannau a sefydliadau eraill i ddeall sut y gallai ServiceNow fod o fudd i feysydd eraill yn y brifysgol.
Yn rhan o’r gwaith hwn, byddwn ni’n meithrin dealltwriaeth o’r adnoddau a’r buddsoddiad ar gyfer datblygiad pellach i’w hadolygu.
Bydd myfyrwyr yn gallu cael mynediad at yr holl wasanaethau a ddarperir gan y Tîm Hwb Myfyrwyr a TG.
Bydd. I’n myfyrwyr presennol, ap Hwb yw’r ffordd orau o hyd o gael y wybodaeth ddiweddaraf y mae ei hangen arnoch.
Bydd ServiceNow yn ategu’r ap Hwb sefydledig a bydd modd mynd ato’n syth o ap Hwb.
Bydd ServiceNow yn eich galluogi chi i gysylltu â ni pan fydd angen help arnoch chi i fanteisio ar wasanaethau.
Rydyn ni’n parhau i ddatblygu porth y myfyrwyr, fodd bynnag, rydyn ni’n falch o roi cipolwg i chi ar sut mae’r porth yn edrych.
Gallwch. Gall myfyrwyr ddefnyddio’r gwasanaeth sgwrs fyw i siarad â thîm Hwb Myfyrwyr yn ystod oriau agor. Gellir mynd i’r gwasanaeth sgwrs fyw o ap Hwb ac yn uniongyrchol o borth ServiceNow.
Pan fyddwn ni ar gau, gallwch chi ddal i ddefnyddio’r gwasanaeth sgwrsfot AI i gael yr atebion y bydd eu hangen arnoch neu roi gwybod i ni am eich ymholiad neu’ch problem a byddwn ni’n cysylltu â chi eto pan fyddwn ni’n ailagor.
ServiceNow is designed to be used by all departments and services.
Once we go live with ServiceNow, we will engage with other departments and institutes to understand how ServiceNow might benefit other areas within the university.
As part of this work, we will build an understanding of the resources and investment required for further development to review.