Dilysu Aml-ffactor (MFA)

Mae Dilysu Aml-ffactor yn rhoi haen ychwanegol o ddiogelwch wrth gael mynediad i systemau TG y Brifysgol ac mae’n sicrhau bod eich cyfrif Prifysgol yn fwy diogel trwy eich amddiffyn chi a’r Brifysgol petai eich enw defnyddiwr a chyfrinair mewn perygl.

Cwestiynau Cyffredinol

Pan fydd wedi’i alluogi, bydd angen i chi fewngofnodi i wasanaethau Microsoft 365 gan gynnwys Outlook, Teams a SharePoint gyda’ch cyfeiriad e-bost a chyfrinair fel arfer, ynghyd ag un dull ychwanegol o ddilysu.

Er mwyn cwblhau gosod y dilysu dilynwch y camau hyn:

Er mwyn lawrlwytho ap Microsoft Authenticator, chwiliwch am Microsoft Authenticator yn siop apiau’ch ffôn symudol neu ddefnyddio’r dolenni lawrlwytho isod ar eich ffôn symudol:

Gallwch ddewis o’r dulliau gwirio isod i osod y dilysu.  Rydym yn argymell yn fawr ddefnyddio ap Microsoft Authenticator er mwyn gwneud eich profiad yn fwy syml.  Os nad oes gennych ddyfais symudol i fewnosod yr ap neu os byddai’n well gennych beidio â gosod yr ap ar eich dyfais bersonol, gallwch ddewis neges destun SMS neu alwad ffôn.

  • Ap Microsoft Authenticator ar eich ffôn symudol
  • Cod dilysu a anfonir drwy neges destun SMS
  • Cymeradwyo dilysu drwy alwad ffôn awtomatig

Gallwch chi weld neu newid eich dull dilysu ar unrhyw adeg.

  • Ewch i ‘Security Setup Info
  • Dan Default Sign-in Method – cliciwch Change ac wedyn dewis y dull cysylltu sy’n well gennych yn y gwymplen
  • Gallwch ychwanegu dulliau cadarnhau eraill, gan gynnwys:
    1. Ffôn Symudol (anfonir cod drwy neges destun SMS i’ch ffôn symudol)
    2. Llinell Dir
  • Cliciwch Save – setup complete!

C. Pan gaf i ddyfais newydd yn lle’r ddyfais symudol gofrestredig y byddaf yn derbyn fy nghodau neu geisiadau am gadarnhau arni, beth bydd angen i mi ei wneud?

A. Bydd angen i chi ddiweddaru’ch gwybodaeth ddiogelwch. Os byddwch yn dilyn ein hargymhelliad ac yn defnyddio dull ap Microsoft Authenticator, bydd hefyd angen i chi lawrlwytho’r ap ar eich ffôn symudol newydd.

  • Ewch i ‘Security Setup Info
  • Dan Default Sign-in Method – cliciwch Change ac wedyn dewis y dull cysylltu sy’n well gennych yn y gwymplen
  • Gallwch ychwanegu dulliau cadarnhau eraill, gan gynnwys:
    • E-bost Personol (anfonir cod i gyfrif e-bost personol)
    • Ffôn Symudol (anfonir cod drwy neges destun SMS i’ch ffôn symudol)
    • Galwad Ffôn (galwad ffôn awtomataidd i gadarnhau’r dilysiad)

  • Cliciwch Save – setup complete!

 

C. Doeddwn i ddim wedi sylweddoli y byddai angen i mi sganio cod QR wrth osod MFA. Allaf i ddim wneud hynny, beth dylwn i ei wneud?

A. Dan y cod QR, fe welwch god ac URL y gallwch ei gopïo a’i ludo yn ap Microsoft Authenticator i gwblhau’r broses osod. Ar sgrin sganio’r cod QR yn yr ap, dewiswch ‘or enter code manually’ i fynd i’r tudalen lle dylech ludo’r wybodaeth hon, wedyn gwasgu Finish.

 

C. A ofynnir i mi fewngofnodi i ap Outlook ar fy nyfais symudol?

A. Os ydy Cymwysiadau Microsoft megis Outlook, Teams neu Office 365 wedi’u gosod ar eich ffôn symudol neu lechen, gofynnir i chi gadarnhau pwy ydych chi. Bydd neges yn ymddangos ar eich ffôn yn gofyn i chi gymeradwyo’r mewngofnodi. Cliciwch Approve.

Nid yw’n ofynnol i chi gwblhau unrhyw broses i osod MFA ar gyfer MyTSD.

Pan fydd wedi’i alluogi, bydd yn ofynnol i chi fewngofnodi i MyTSD gyda’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair fel arfer, ynghyd â chod awdurdodi un-tro a anfonir i’ch cyfrif e-bost Prifysgol.

Nid yw’n ofynnol i chi gwblhau unrhyw broses i osod MFA ar gyfer VPN.

Pan fydd wedi’i alluogi, bydd yn ofynnol i chi gysylltu â VPN y Brifysgol gyda’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair fel arfer, ynghyd â chod awdurdodi un-tro a anfonir i’ch cyfrif e-bost Prifysgol.

Bydd gofyn i chi fewngofnodi i MyView gyda’ch rhif staff a’ch cyfrinair fel arfer ar ôl ei alluogi. Bydd angen i chi ateb eich cwestiynau diogelwch a ddiffiniwyd ymlaen llaw.

Ar ôl ei alluogi, bydd gofyn i chi fewngofnodi i bluQube gyda’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair bluQube yn ôl yr arfer a bydd angen i chi roi Cod Mynediad Untro (OTP).

A man with glasses and a hearing aid sitting at a desk using a computer keyboard and mouse, with two desktop monitors and computer towers on the desk in a brightly lit office environment with large windows and a wall clock outside the window.