Gwasanaethau Digidol » Gwasanaethau TG » Cymorth â’r Rhyngrwyd yn y Cartref
Os ydych yn gweithio/astudio gartref a bod gennych gyflymderau rhyngrwyd gwael iawn neu ddim darpariaeth band eang yn eich ardal, bwriad y wybodaeth yma yw eich helpu chi.
Yn gyntaf, gwiriwch pa gyflymder band eang y gall eich rhyngrwyd cartref ei gyrraedd trwy ddefnyddio’r gwiriwr band eang hwn. Gallwch drefnu’r canlyniadau yn ôl cyflymder i weld beth y dylech fod yn gallu ei gael.
Os ydych chi’n byw mewn ardal lle nad oes band eang ar gael neu lle mae’r cyflymderau sydd ar gael yn isel iawn, mae opsiynau ar gael i chi.
Mae’r cynllun hwn yn darparu grantiau i ariannu costau gosod cysylltiadau band eang newydd mewn cartrefi a busnesau yng Nghymru, neu ariannu’r costau hynny’n rhannol.
Sylwch – rhaid i gysylltiadau newydd drwy’r cynllun hwn sicrhau newid sylweddol mewn cyflymder – gan o leiaf ddyblu eich cyflymderau lawrlwytho cyfredol. Er enghraifft, rhaid i gysylltiad cyfredol o 5Mbps wella i 10Mbps o leiaf.
Fel arfer, bydd y grant hwn yn talu am y costau gosod a chaledwedd ar gyfer technolegau amgen megis band eang ffonau symudol neu loeren ond ni fydd yn talu am unrhyw gostau misol parhaus ar gyfer y gwasanaethau a gynigir.
Rydym hefyd wedi creu rhestr isod o gyflenwyr lleol (a chenedlaethol) posibl y gallech ymchwilio iddynt a chysylltu â nhw. Nid yw unrhyw un o’r cyflenwyr hyn yn gysylltiedig â’r Brifysgol ond gall pob un ohonynt ddarparu gwasanaethau band eang amgen drwy system grant Allwedd Band Eang Cymru yn ôl eu gwefannau.
Ceisiwch ddechrau’r galwadau hynny ar amseroedd llai cyffredin, yn hytrach nag ar yr awr.
Gwnewch alwadau ffôn ar linell ddaearol lle bynnag y bo modd, o ystyried y cynnydd yn y galw am rwydweithiau ffonau symudol.
Mae bwrsariaethau ac ysgoloriaethau ar gael i holl fyfyrwyr ac ymgeiswyr PCYDDS.
Mae’r Fwrsariaeth Cysylltedd Digidol wedi’i hanelu at fyfyrwyr sydd angen cymorth gyda chostau cysylltedd digidol.