Cynigion Technoleg i Fyfyrwyr

Mae llawer o gynigion gwych ar gael i fyfyrwyr PCYDDS fel rhan o’n cynnig Detholion TG gan gynnwys:

Tanysgrifiadau Misol: Cewch chi brynu copi o Gwmwl Creadigol Adobe yn syth o Wefan Adobe a chael o leiaf 60% o ostyngiad wrth dalu bob mis.

Os ydych chi’n un o fyfyrwyr Y Drindod Dewi Sant, cewch chi lawrlwytho Microsoft Office 365 Pro Plus gan gynnwys Word, Excel a PowerPoint yn rhad ac am ddim ar amrywiaeth o ddyfeisiau.

Rydyn ni wedi creu siop ar-lein lle gall myfyrwyr lawrlwytho ystod enfawr o feddalwedd rad ac am ddim neu am bris gostyngol iawn i’w defnyddio gartref.

Cewch chi fanteisio ar y bargeinion hyn trwy fynd i: https://uwtsd.onthehub.com a chofrestru trwy ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost myfyriwr@pcydds.ac.uk.

Ar gyfer cwestiynau cyffredin a phynciau cymorth ar gyfer y siop On the Hub ewch yma.

Sut i gael Meddalwedd Microsoft Rhad ac am Ddim

Dilynwch y camau hyn i gael allwedd Windows 11 gydag Azure Education rhad ac am ddim:

  1. Ewch i wefan Azure for Students yn https://azure.microsoft.com/en-gb/free/students/.
  2. Cliciwch ar y botwm “Sign up now” ac mewngofnodwch gyda’ch cyfrif Microsoft.
  3. Dilynwch y camau i wirio eich statws myfyriwr a chreu eich cyfrif Azure.
  4. Ar ôl creu eich cyfrif Azure, ewch i’r adran “Education” yn y porth Azure.
  5. Cliciwch ar y botwm ‘Activate’ wrth y cynnig Windows 11.
  6. Dilynwch y camau i actifadu eich allwedd Windows 11 rhad ac am ddim.

Sylwer efallai y bydd y cynnig hwn ar gael i fyfyrwyr ac addysgwyr cymwys yn unig.  Ar ôl i chi actifadu cynnig Windows 11 yn y porth Azure, gallwch chi adfer yr allwedd actifadu drwy ddilyn y camau hyn:

  1. Ewch i borth Azure yn https://portal.azure.com/.
  2. Cliciwch ar “All Services” ar y fwydlen ar y chwith a chwiliwch am “Windows 11 Education Activation”.
  3. Cliciwch ar “Windows 11 Education Activation” i agor y dudalen actifadu.
  4.  4. Sgroliwch i’r adran “Activation Key” a chopïwch yr allwedd a ddarperir.  Microsoft Azure

Gostyngiadau Caledwedd

Gostyngiadau enfawr ar gael i fyfyrwyr ar amrywiaeth o gynnyrch yn cynnwys Apple, Microsoft Surface, Ffonau a Watshis Clyfar.  Gwarant 4 blynedd am ddim ar holl gynnyrch Apple a’u derbyn y diwrnod nesaf am ddim ar yr holl archebion. Ewch i siop EDU

Cewch y Cynnyrch Apple sydd ei eisiau arnoch nawr. Gwasgarwch y gost gyda thaliadau misol isel, uwchraddio i’r ddyfais ddiweddaraf ar ddiwedd y cynllun neu dalu’r balans. Uwch i’r Siop SelectOnline.

Cewch brisiau gwych ar nwyddau addysg gan Apple drwy fynd i Siop Addysg Apple

Fel myfyriwr yn Y Drindod Dewi Sant, gallwch chi lawrlwytho amrywiaeth o feddalwedd Autodesk yn cynnwys y canlynol: Fusion 360, Inventor Professional, Revit, AutoCAD, 3ds Max a Maya.

Ewch i: autodesk software i weld beth gallwch chi ei gael ar eich dyfais chi a hawlio eich meddalwedd yn rhad ac am ddim.

Dwy ddwylo'n teipio ar bysellfwrdd golau neón gyda sgrin gliniadur gydag effaith golau las a phinc yn y cefndir

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr uchod, cysylltwch â Desg Wasanaeth TG.