Dwylo'n pwyntio at eicon Adobe Photoshop ar sgrin cyfrifiadur gyda mwy o eiconau meddalwedd yn weladwy o amgylch
Agency Name/Contributor Name – stock.adobe.com

Cynigion Technoleg i Staff

Adobe Creative Cloud

Adobe Creative Cloud yn rhad ac am ddim. Fel aelod o staff y Drindod Dewi Sant, cewch fynediad i Adobe Creative Cloud ar eich dyfais bersonol yn rhad ac am ddim.

I osod Adobe CC ar eich dyfais bersonol:

  1. Ewch i wefan Adobe
  2. Teipiwch eich cyfeiriad e-bost yn y Drindod Dewi Sant a chlicio Continue
  3. Dewiswch Company or School Account a theipio eich cyfrinair yn y Drindod Dewi Sant
Dwylo'n pwyntio at eicon Adobe Photoshop ar sgrin cyfrifiadur gyda mwy o eiconau meddalwedd yn weladwy o amgylch
Agency Name/Contributor Name – stock.adobe.com

Gostyngiadau Meddalwedd

Rydym wedi creu siop ar-lein lle gall staff lawrlwytho amrywiaeth enfawr o feddalwedd am ddim neu am bris â gostyngiad mawr i’w defnyddio gartref.

Cewch chi fanteisio ar y bargeinion hyn trwy fynd i onthehub.com a chofrestru gan ddefnyddio’ch cyfeiriad e-bost @pcydds.ac.uk.

Gostyngiadau Caledwedd

Siop EDU. Gostyngiadau enfawr ar gael i staff ar amrywiaeth o gynnyrch yn cynnwys Apple, Microsoft Surface, Ffonau a Watshis Clyfar. Gwarant 4 blynedd am ddim ar holl gynnyrch Apple a’u derbyn y diwrnod nesaf am ddim ar yr holl archebion. Ewch i siop EDU

Uwchraddio’n Hawdd gyda Select. Cewch y Cynnyrch Apple sydd ei eisiau arnoch nawr. Gwasgarwch y gost gyda thaliadau misol isel, uwchraddio i’r ddyfais ddiweddaraf ar ddiwedd y cynllun neu dalu’r balans. Uwch i’r Siop Uwchraddio’n Hawdd.

Siop Addysg Apple. Cewch brisiau gwych ar nwyddau addysg gan Apple drwy fynd i Siop Addysg Apple

Cysgliad

Cysgliad yn rhad ac am ddim. Fel aelod o staff yn Y Drindod Dewi Sant, gallwch chi lawrlwytho meddalwedd Cysgliad.

Pecyn meddalwedd yw Cysgliad sy’n eich helpu i ysgrifennu Cymraeg. Mae’n addas ar gyfer pobl sy’n rhugl yn y Gymraeg, dysgwyr Cymraeg, a’r rhai sy’n ddi-Gymraeg.

Mae’r pecyn yn addas ar gyfer cyfrifiaduron Windows ac mae’n cynnwys dwy brif raglen, sef Cysill ar gyfer gwirio sillafu a gramadeg a Cysgeir sy’n gyfres o eiriaduron dwyieithog.

Autodesk am ddim

As a UWTSD member of staff, you can download a range of Autodesk software including Fusion 360, Inventor Professional, Revit, AutoCAD, 3ds Max and Maya.

Go to Autodesk.com to find out what you can get on your device and claim your free software.