Gwasanaethau TG
Gwasanaethau Digidol » Gwasanaethau TG » E-bost Outlook
Mae hawl gan holl staff, myfyrwyr ac ôl-raddedigion (rhaglenni ymchwil a rhaglenni a addysgir) i gyfrif e-bost Microsoft 365.
Mae’r Brifysgol yn darparu cyfeiriad e-bost ar gyfer pob defnyddiwr fel a ganlyn:
rhifmyfyriwr@myfyriwr.pcydds.ac.uk i fyfyrwyr (e.e. 12345678@myfyriwr.pcydds.ac.uk)
enwdefnyddiwr@pcydds.ac.uk i staff (e.e. J.Bloggs@pcydds.ac.uk)
Gall staff gael mynediad i’w cyfrif e-bost wrth ddefnyddio porwr gwe drwy fynd i outlook.com/pcydds.ac.uk a theipio eu henw defnyddiwr a chyfrinair.