Gwasanaethau Digidol » Gwasanaethau TG » Mannau Dysgu ac Addysgu
Rydym yn darparu cyfleusterau addysgu a dysgu sydd â’r offer TG a chlyweled diweddaraf i helpu i ddarparu profiad dysgu cyfoes. Mae gennym nifer o fannau addysgu a dysgu ar draws yr holl gampysau sydd ag ystod eang o gyfleusterau i gefnogi ein dulliau addysgu.
Mae gan yr ystafelloedd hyn:
Yn yr ystafelloedd mae camera Tremio – Gwyro – Chwyddo yn y cefn, ac mewn rhai achosion mae ail gamera ar y ddarllenfa ei hun. Hefyd mae meicroffonau wedi’u gosod yn y nenfwd i ddarparu ar gyfer sain yn yr ystafell.
Yn ein hystafelloedd â chyfleusterau Hyflex rhannol mae gwe-gam a meicroffon ffin. Mae’r meicroffon ffin yn darparu cwmpas ac ansawdd sain llawer gwell.
Mae’n bosibl cyflwyno sesiwn Hyflex yn ein hystafelloedd â chyfleusterau Hyflex rhannol, a’r prif wahaniaeth yw mai ond un monitor a gwe-gam sydd, felly ni fydd y cyfranogwyr ar-lein i’w gweld gan y dysgwyr yn yr ystafell drwy’r amser, ac fel arall.
Mae ein hystafelloedd cyffredinol â gwe-gam safonol sydd hefyd yn gweithredu’n feicroffon ac yn darparu’r gweithrediadau sylfaenol ar gyfer dysgu ac addysgu Hyflex.