Eduroam Logo

Rhwydwaith Diwifr Eduroam

Eduroam yw’r rhwydwaith diwifr at ddefnydd staff a myfyrwyr ar draws pob campws. Bydd eduroam hefyd yn rhoi mynediad i rwydweithiau diwifr unrhyw sefydliad arall ar draws y byd sy’n defnyddio eduroam. Gwelwch ble arall y cewch fynediad i eduroam ar wefan eduroam.
Eduroam Logo

Cysylltu eich Dyfais Windows

  • Lawrlwythwch a rhedeg y gosodwr Microsoft Windows GetEduroam
  • Pan ofynnir i chi wneud hynny, dewiswch “Connect to eduroam”
  • Chwiliwch am “University of Wales Trinity Saint David” yn y blwch chwilio a’i ddewis
  • Cliciwch “Next” tan y gofynnir i chi nodi eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair
  • Mewngofnodwch gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost Prifysgol a’ch cyfrinair
  • Cliciwch “Connect”

Cysylltu eich iPhone neu Ddyfais iPad Apple

  •  Lawrlwythwch yr ap GetEduroam o App Store Apple
  • Agorwch yr ap ac yna chwilio am “University of Wales Trinity Saint David” a’i ddewis
  • Pan ofynnir i chi wneud hynny, mewngofnodwch gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost Prifysgol a’ch cyfrinair
  •  Os ceir y neges bod “geteduroam” eisiau ychwanegu Rhwydwaith Hotspot Wi-Fi, dewiswch “Allow”
  •  Os ceir y neges bod “geteduroam” eisiau ymuno â Rhwydwaith Wi-Fi eduroam, dewiswch “Join”
  •  Cliciwch “Connect”

Cysylltu eich Dyfais MacBook Apple

  • Lawrlwythwch a rhedeg y gosodwr Apple macOS ar eich MacBook
  • Pan ofynnir i chi wneud hynny, nodwch eich cyfeiriad e-bost PCYDDS llawn a’ch cyfrinair

Cysylltu eich Dyfais Android

  • Lawrlwythwch a gosod yr ap GetEduroam o’r Google Play Store
  • Agorwch yr ap ac yna chwilio am “University of Wales Trinity Saint David” a’i ddewis
  • Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin a phan ofynnir i chi wneud hynny, mewngofnodwch gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost Prifysgol a’ch cyfrinair i gysylltu.

Cysylltu’ch Dyfais Chromebook


Pan fyddwch ar y campws, chwiliwch am rwydweithiau diwifr ar eich dyfais, dewiswch eduroam a chlicio i gysylltu

Dyfeisiadau Eraill

Os nad yw eich dyfais wedi ei rhestru neu fod angen i chi osod eich dyfais â llaw;

Gwasanaeth Di-wifr i Westeion

Rhwydwaith diwifr Gwesteion Y Drindod Dewi Sant yw’r prif rwydwaith diwifr ar gyfer Gwesteion Y Drindod Dewi Sant ac ymwelwyr.

Pwy all ddefnyddio’r gwasanaeth hwn?

Gwesteion Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac ymwelwyr.

Sut y gallaf gysylltu â chyswllt Gwesteion Y Drindod Dewi Sant?

Nid oes angen gwybodaeth flaenorol gan TaSG er mwyn manteisio ar y gwasanaeth hwn, mae’n darparu mynediad i’r rhyngrwyd ar gyfer cyfnod o 24 awr.

I gysylltu, dilynwch y cyfarwyddiadau hyn:

  1. Ar eich dyfais o dan rwydwaith diwifr, dewiswch “UWTSD Guest” (nid oes angen unrhyw allwedd diogelwch).
  2. Ar ôl ei gysylltu, cliciwch “Get Online”.
A young woman with curly blonde hair and glasses wearing a brown sweatshirt and carrying a backpack is smiling and interacting with a seated person wearing a navy blue shirt with white text at a desk with papers on it.

Dyfeisiadau Eraill

Os nad yw eich dyfais wedi ei rhestru neu fod angen i chi osod eich dyfais â llaw;

Gliniadur a choffi mewn mug gwyn ar ddesg wyn gyda phlannu mewn pot bach wrth law mewn ystafell swyddfa ar ôl cefndir aneglur gyda goleuadau cylch ar y wal