Gwasanaethau Digidol » Gwasanaethau TG » Storio ar y Rhwydwaith
Mae’r Brifysgol yn darparu cyfleuster storio canolog diogel ar gyfer staff a myfyrwyr.
Ardal storio yn y cwmwl (1TB) ar gyfer ffeiliau. Caiff y ffeiliau hyn eu dal yng nghyfleusterau storio Ewropeaidd Microsoft.
Gellir cadw ffeiliau yn eich OneDrive yn breifat, gellir eu rhannu â phobl benodol neu eu rhannu â phawb.
Nid yw’r Gwasanaethau Gwybodaeth na Microsoft yn cadw copi wrth gefn yn awtomatig o unrhyw beth a roddwch yn eich OneDrive. Os bydd ffeiliau yn eich OneDrive yn cael eu dileu, dim ond am hyd at 30 diwrnod y gallwch chi eu hadfer. Fe’ch cynghorir i gadw copïau wrth gefn o ffeiliau pwysig, megis gwaith cwrs, ar gofbin USB personol.
Gallwch gadw dogfennau yn eich safle Microsoft Teams. Mae Teams yn eich galluogi i gydweithio ar ddogfennau a’u cyrchu o unrhyw le sydd â chysylltiad â’r rhyngrwyd.
Caiff storfa ei rhannu ar lefel adrannol ac ysgol. Fe’i darperir i alluogi rhannu gwybodaeth a dogfennau gyda chydweithwyr uniongyrchol. Cysylltwch â’r Ddesg Wasanaeth TG am fanylion yr ardaloedd a rennir yn eich adran neu ysgol.
Mae yna rai opsiynau eraill ar gyfer storio sy’n caniatáu mynediad ar-lein; er enghraifft, Google Docs. Os byddwch yn defnyddio’r lleoedd hyn, dylech fod yn ymwybodol o’r canlynol:
Cyfrifoldeb y person sy’n cadw gwybodaeth yw sicrhau ei fod yn deall preifatrwydd, sensitifrwydd ei ddata a’i wybodaeth a sicrhau cadw/dileu yn unol â rheoliadau a chyfreithiau.
Mae’n bwysig nad yw storfeydd y Brifysgol yn cael eu defnyddio ar gyfer data, ffeiliau a delweddau sydd â hawlfraint yn rhywle arall, sydd o natur gwbl bersonol (megis casgliadau cerddoriaeth personol) neu sy’n debygol o gael eu hystyried yn amhriodol yn achos archwiliad allanol o’n storfeydd data.
Cedwir copi wrth gefn o’r holl storfeydd ffeiliau canolog a gall defnyddwyr adfer gwybodaeth sydd hyd at ddiwrnod oed.
Oes gennych gwestiwn am storio neu oes angen adfer data arnoch? Cysylltwch â’r Gwasanaethau TG.