Gwasanaethau Digidol » Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu (LLR) » Llyfrgelloedd Abertawe
Mae ein campws yn ninas yn Abertawe yn gartref i ddwy lyfrgell sydd ar gael i’n holl fyfyrwyr. Campws Busnes Abertawe yw cartref ein llyfrgell yn ein safle yng nghanol y ddinas sydd ger Coleg Celf Abertawe ac yn agos at lawer o’r llety myfyrwyr yn y ddinas. I lawr yn ein Hardal Arloesi newydd sbon fe welwch ein llyfrgell ddiweddaraf, Y Fforwm, gyda golygfeydd godidog o Fae Abertawe, Dociau Abertawe ac Afon Tawe.
Mae’r Fforwm yn rhoi mynediad i ystod o fannau dysgu hyblyg i gefnogi ein holl fyfyrwyr. Mae enghreifftiau o’r mathau o ofod astudio sydd ar gael yn Y Fforwm a ble y gellir dod o hyd iddynt isod.
Llawr Gwaelod (168)
Y Llawr Isaf (97)
Y Llawr Ushaf (60)
Y Llawr Isaf (36)
Y Llawr Ushaf (16)
Llawr Gwaelod (24)
Y Llawr Isaf (42)
Y Llawr Ushaf (10)
P’un ai eich bod yn chwilio am lyfr ar bwnc penodol, neu ryw fan penodol yn y llyfrgell (h.y. ystafell astudio neu ble i ddod o hyd i argraffwyr).
Mae StackMaps ar gyfer Llyfrgell Campws Busnes Abertawe isod.
Mae teithiau o gwmpas Y Fforwm ar gael trwy gydol y flwyddyn i ddefnyddwyr unigol a grwpiau o hyd at 15. Mae rhagor o wybodaeth am deithiau a sut i archebu lle ar gael isod.