chat loading...

EndNote Fusion

Rhaglen ar-lein ar gyfer rheoli, ysgrifennu a chydweithredu ym maes ymchwil yw EndNote Fusion, a’i nod yw helpu ymchwilwyr i gasglu, rheoli, storio a rhannu pob math o wybodaeth, yn ogystal â chreu cyfeiriadau a llyfryddiaethau.

Newidiadau i RefWorks ym mis Hydref 2026

Caiff RefWorks ei ailenwi’n EndNote Fusion. Bydd defnyddwyr RefWorks yn parhau i fewngofnodi a gweithio gyda’u data a’u llifoedd gwaith presennol a byddan nhw’n gweld lliwiau wedi’u diweddaru a dyluniad wedi’i adnewyddu.

Disgwylir i’r newid ddigwydd ar 6 Hydref 2026.

Caiff RefWorks Citation Manager (RCM) ei ailenwi’n EndNote Fusion. Ni fydd angen i ddefnyddwyr wneud unrhyw beth, gan y cynhelir llifoedd gwaith dyfynnu presennol yn Word. Ni ddylai fod angen i ddefnyddwyr ailosod RCM yn Word. Os ydych chi wedi nodi RefWorks, dylai’r URL ailgyfeirio’n awtomatig i EndNote Fusion.

Mae EndNote Fusion yn ganlyniad i ddod â galluoedd EndNote a RefWorks at ei gilydd i ddarparu “sylfaen unedig ar gyfer arloesi mewn rheoli cyfeiriadau.” Bydd map trywydd ar gyfer datblygu’r offeryn dros yr ychydig flynyddoedd nesaf yn edrych ar dri maes allweddol: Llifoedd gwaith ymchwil di-dor, canllawiau AI seiliedig ar dasgau, a chymorth ysgrifennu mwy deallus.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: https://clarivate.com/academia-government/blog/introducing-endnote-fusion/  

Creu cyfrif EndNote Fusion

Cliciwch y ddolen “create an account” a nodwch eich manylionc gan ddefnyddio eich e-bost UWTSD.

(Drwy ddefnyddio’r eich e-bost UWTSD, bydd EndNote Fusion yn gwybod eich bod yn aelod o’r Brifysgol.).

Dogfennau

Allaf i gael mynediad i EndNote Fusion o hyd ar ôl i mi raddio?

Gallwch, ar yr amod bod y llyfrgell yn dal i danysgrifio i EndNote Fusion. Dylech ddiweddaru eich cyfrif EndNote Fusion cyn graddio trwy ddewis yr opsiwn ‘Cyn-fyfyriwr’ o’r adran ‘Profile/Role’ ar y dudalen osodiadau. Hefyd, bydd angen i chi ddiweddaru eich cyfeiriad e-bost i’ch cyfeiriad e-bost personol. Gallwch ddiweddaru’r cyfeiriad e-bost yn adran ‘Profile/Email’ y dudalen osodiadau. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â library@uwtsd.ac.uk

Tiwtorial EndNote Fusion [Saesneg]

Benyw ifanc gyda sbectol yn sefyll mewn swyddfa fodern yn defnyddio gliniadur wrth edrych ar sgrin fawr yn dangos côd rhaglen a diagramau