Rydych chi yn y lle iawn! Dyma'r stop un siop ar gyfer eich holl anghenion o ran adnoddau dysgu.
Os ydych chi wedi chwilio catalog y llyfrgell ac wedi methu cael mynediad i rywbeth sydd ei angen arnoch ar gyfer eich astudiaethau, dilynwch y cyngor isod neu darllenwch yr adran Cwestiynau Cyffredin.
Rhywbeth sydd ei angen arnoch a allai fod gennym ni'n barod?
Os ydych chi’n amau bod adnodd gennym ni’n barod, ond allwch chi ddim dod o hyd iddo, neu os teimlwch fod arnoch angen cyngor i wneud yn fawr o ein hadnoddau ar-lein, gwnewch apwyntiad gyda’ch Llyfrgellydd Cyswllt Academaidd. Gall eich LlCA gynnig cymorth wrth fireinio eich sgiliau chwilio am wybodaeth, a chynghori ar yr amrywiaeth o adnoddau sydd ar gael yn eich maes pwnc penodol chi.
Rhywbeth sydd ei angen arnoch nad yw gennym ni'n barod?
I gael gwybodaeth bellach am bob agwedd ar wasanaeth Angen Rhagor, defnyddiwch y Cwestiynau Cyffredin canlynol:
Ydy nifer y ceisiadau y gallaf eu gwneud yn cael eu gyfyngu?
Ydy, mae croeso i fyfyrwyr a staff wneud hyd at uchafswm o ddeg cais mewn blwyddyn academaidd. Byddwn yn asesu’ch cais yn erbyn casgliadau cyfredol y llyfrgell ac, yn achos cais am lyfr, penderfynwn naill ai prynu copi o’r eitem i’r llyfrgell a chi fydd y cyntaf i’w fenthyg, neu gwnawn gais am y llyfr fel benthyciad rhyng-lyfrgellol. Cyflenwir erthyglau cyfnodolion a phenodau ar fformat digidol oni fydd y llyfrgell sy’n eu cyflenwi’n penderfynu fel arall.
Y Llyfrgell sy’n talu am y gwasanaeth Angen Rhagor? i fyfyrwyr a staff. Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol ei bod yn costio oddeutu £20-24 y llyfr a £10 yr erthygl wedi’i sganio i’r llyfrgell wrth wneud cais am eitemau gan sefydliadau eraill.
Os byddwn yn postio llyfrau atoch, rydym yn codi am bostio ar y cyfraddau canlynol:
Pa mor hir bydd hi'n cymryd i gael yr hyn sydd ei angen arnaf?
Bydd yn dibynnu pryd mae’r eitem benodol ar gael, fodd bynnag fel canllaw, byddem yn awgrymu eich bod yn caniatáu pythefnos ar ôl cyflwyno’r cais, er bydd nifer o geisiadau’n cael eu cyflenwi ymhell cyn hyn. Ceisiwn roi gwybod i chi os bydd oedi.
Mae'r eitem sydd ei heisiau arnaf ar gael gan y llyfrgell ond mae ar fenthyg ar hyn o bryd. Allaf i wneud cais amdani?
Rydym yn awgrymu eich bod yn rhoi’r eitem ar gadw drwy Gatalog y Llyfrgell. Hefyd gallwch wneud cais i ni brynu’r eitem os ydych o’r farn nad oes digon o gopïau gennym. Mae’n bosibl wedyn y prynwn gopïau ychwanegol.
Allaf i ddefnyddio llyfrgell prifysgol arall yn lle gofyn i chi gael rhywbeth i mi?
Gallwch, gallwch wneud cais am SCONUL Access. Bydd lefel y mynediad a roddir i chi’n dibynnu ar eich statws. Hefyd gallwch wneud cais i ddefnyddio Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth (angen cyfeiriad cartref yng Nghymru) neu’r Llyfrgell Brydeinig. I gael gwybodaeth bellach gweler yr adran Cael Mynediad i Lyfrgelloedd y tu allan i PCYDDS ar y wefan.
Rwy’n fyfyriwr hyblyg, rhan amser neu seiliedig ar waith. Allaf i wneud cais i lyfrau gael eu postio ataf neu i eitemau yn y llyfrgell gael eu sganio/llungopïo ar fy nghyfer?
Na allwch yn anffodus. Ni ellir darparu’r gwasanaethau hyn ond ar gyfer myfyrwyr ar gyrsiau dysgu o bell cofrestredig neu’r rheini sy’n ymgymryd â gradd ymchwil.
Rwy’n fyfyriwr PhD neu MPhil. Allaf i wneud cais i lyfrau gael eu postio ataf neu i eitemau yn y llyfrgell gael eu sganio/llungopïo?
Rwy’n aelod o staff, allaf i wneud cais am eitemau gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein hefyd?
Gallwch ddefnyddio’r ffurflen ar-lein i wneud cais am fenthyciadau rhyng-lyfrgellol ar gyfer eich ymchwil yn gysylltiedig â gwaith. Fodd bynnag, os oes eisiau archebu rhywbeth i’w brynu, gweler yr adran Archebu Adnoddau Llyfrgell ar y wefan. Os ydych yn chwilio am eitemau wedi’u sganio i’w defnyddio at ddibenion addysgol, defnyddiwch y gwasanaeth digideiddio.
Allaf i gael copi o rywbeth ar gyfer ymchwil masnachol?
Na allwch yn anffodus. Nid yw copïo at ddibenion masnachol, boed hynny mewn fformat printiedig neu electronig, yn dod o dan yr eithriadau i hawlfraint yn Neddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.
Beth yw’r datganiad hawlfraint?
Mae telerau Trwydded Addysg Uwch yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint yn gosod terfynau ynghylch at ba ddibenion y gallwn gyflenwi copïau printiedig neu wedi’u sganio. Drwy dicio’r blwch ar waelod y ffurflen gais, rydych yn nodi’ch bod yn derbyn y telerau hyn.
Rwy’n cael problemau wrth lawrlwytho rhywbeth o un o’r e-adnoddau. Allwch chi ei anfon ataf ar e-bost yn lle hynny?
Na allwn yn anffodus. Yn ôl telerau ein trwyddedau, rhaid mai’r defnyddiwr yn unig sy’n ei lwytho i lawr, felly ni allwn wneud hyn drosoch. Fodd bynnag, os ydych yn cael problemau wrth geisio cael mynediad i unrhyw un o e-adnoddau’r llyfrgell, rhowch wybod i ni er mwyn i ni ymchwilio.
Mae’r eitem sydd ei hangen arnaf restr adnoddau ar-lein allaf i wneud cais amdani?
Byddem yn disgwyl bod pob eitem ddarllen hanfodol ar gael yn y llyfrgell a’r rhan fwyaf o eitemau darllen pellach. Felly, gwnewch gais am yr eitemau hyn os nad ydynt mewn stoc. Ticiwch y blwch priodol ar y ffurflen gais ar-lein er mwyn rhoi gwybod i ni fod yr eitem ar y restr adnoddau.
Gwnes gais am eitem cryn amser yn ôl, ond nid wyf wedi clywed unrhyw beth pellach. Beth dylwn i ei wneud?
Yn gyntaf, gwiriwch eich cyfrif e-bost (yn cynnwys y ffolder sothach) i sicrhau nad ydych wedi derbyn unrhyw ohebiaeth ychwanegol gennym am y cais.
Os nad ydych, cysylltwch â ni gan nodi manylion eich cais, gan gynnwys rhif y cais oedd ar y neges e-bost gadarnhau a anfonwyd atoch os ydy’n bosibl.
Rydych wedi benthyg llyfr i mi oddi wrth sefydliad arall ond nid wyf wedi gorffen ag ef; allaf i ei adnewyddu?
Rydym yn hapus i ganiatáu adnewyddiadau yn amodol ar gytundeb â’r llyfrgell fenthyca berthnasol. Os ydych yn meddwl y bydd angen adnewyddu arnoch, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl, ac o leiaf wythnos cyn y dyddiad dychwelyd, i drafod opsiynau.