Gwasanaethau Digidol » Gwasanaethau Dysgu Digidol a Llyfrgel » Mynediad Agored ac Ymchwil » Traethodau Ymchwil a Thraethodau Hir
Mae llawer o draethodau ymchwil a thraethodau hir a gyflwynwyd i’w harholi cyn 2018 yn cael eu cadw mewn print yn unig ac nid ydynt ar gael ar-lein. Ar hyn o bryd mae’r Gwasanaethau Dysgu Digidol a Llyfrgell yn treialu rhaglen ddigideiddio i ganiatáu i fyfyrwyr a staff ofyn am gopi digidol o un o draethodau ymchwil neu draethodau hir y Brifysgol ar gais.
Bydd opsiwn i wneud cais yn arddangos ar Gatalog y Llyfrgell wrth chwilio am draethodau ymchwil a thraethodau hir sy’n gymwys:
Wrth wneud cais am gopi digidol o draethawd estynedig, gofynnir i chi lenwi ffurflen gyda’ch manylion.
Bydd tîm y Gwasanaethau Dysgu Digidol a Llyfrgell yn sganio’r traethawd estynedig ac yn ychwanegu’r copi digidol at y Gadwrfa. Bydd sganiau’n cael eu darparu mewn fformat PDF hygyrch.
Mae’r gwasanaeth cais i ddigideiddio’n cwmpasu’r casgliad traethodau ymchwil a thraethodau hir yn Llambed. Er nad yw’r casgliadau traethodau estynedig yn Abertawe wedi’u cynnwys ar hyn o bryd, os bydd y cynllun peilot yn llwyddiannus, byddwn yn eu hagor i geisiadau maes o law. Bydd eitemau nad ydynt wedi’u cynnwys yn y cynllun peilot yn parhau i fod ar gael i’w darllen yn y llyfrgell.
Nod y Gwasanaethau Dysgu Digidol a Llyfrgell yw cadw copïau o’r holl draethodau ymchwil llwyddiannus ar gyfer graddau ymchwil yng Nghadwrfa’r Brifysgol.
Pan gewch eich hysbysu am ddyfarniad eich gradd, bydd myfyrwyr ymchwil yn derbyn e-bost gyda chyfarwyddiadau a dolen i lanlwytho eich traethawd ymchwil i’r gadwrfa. Dylai eich traethawd ymchwil fod fel a ganlyn:
Hefyd bydd angen i chi lenwi a llofnodi’r ffurflen gyhoeddi, i gadarnhau eich bod yn deall yr amodau sy’n berthnasol i roi eich traethawd ymchwil ar gael yn y gadwrfa. Dylid ei hanfon i openaccess@uwtsd.ac.uk ar adeg cyflwyno eich gwaith.
Lanlwythwch fersiwn terfynol, derbyniedig eich traethawd ymchwil mewn fformat ffeil PDF hygyrch.
Dylid lanlwytho traethawd ymchwil dim ond ar ôl cael cadarnhad ei fod wedi’i dderbyn. Peidiwch â cheisio lanlwytho eich traethawd ymchwil i’r gadwrfa tan i chi dderbyn cadarnhad i fynd ymlaen gan y Brifysgol.
Ar ôl lanlwytho eich traethawd ymchwil, caniatewch 6 wythnos i’ch traethawd ymchwil gael ei roi ar gael yn y gadwrfa. Sylwer bod archifo mewn gwasanaethau allanol megis Electronic Theses Online gan y Llyfrgell Brydeinig, Google Scholar a ProQuest y tu allan i reolaeth y Gwasanaethau Dysgu Digidol a Llyfrgell a gall gymryd mwy o amser.
I gael cymorth pellach gyda’r broses lanlwytho, cysylltwch ag openaccess@uwtsd.ac.uk
Mae traethodau hir graddau Meistr sydd wedi cael dyfarniad rhagorol, neu fel arall sydd wedi cael gradd llwyddo ac wedi’u hysgrifennu yn Gymraeg neu maent yn nisgyblaethau academaidd y Gymraeg, Astudiaethau Celtaidd neu Hanes Cymru, yn cael eu harchifo yng nghadwrfa’r Brifysgol. Nid yw’r Gwasanaethau Dysgu Digidol a Llyfrgell yn cadw traethodau hir graddau Meistr nad ydynt yn bodloni’r meini prawf hyn, na thraethodau hir israddedig.
Anfonir e-bost awtomatig â dolen i ffurflen ar y we i lanlwytho eu traethawd hir at fyfyrwyr sy’n cyflwyno traethawd hir eu gradd Meistr, ac ni ddylent gyflwyno gwaith yn uniongyrchol i’r gadwrfa. Dylai eich traethawd hir fod fel a ganlyn:
Cedwir eich traethawd hir tan i’r broses asesu gael ei chwblhau. Os bydd eich gwaith yn bodloni’r meini prawf ac mae’n gymwys i’w archifo, caiff eich traethawd hir wedyn ei ychwanegu at gadwrfa’r brifysgol. Caniatewch 6 wythnos ar ôl derbyn eich canlyniad i’ch traethawd hir gael ei roi ar gael.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag openaccess@uwtsd.ac.uk