Gwasanaethau Digidol » Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu (LLR) » Strategaeth a Polisïau » Y Polisi Rhestrau Adnoddau Ar-lein
Mae’r Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â chydweithwyr mewn adrannau academaidd, i ddarparu’r ystod orau bosibl o adnoddau gwybodaeth, o fewn cyfyngiadau cyllideb, i’w cefnogi hwythau a’u myfyrwyr.
Mae’r ddogfen hon yn ymateb gan y Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu i gais gan staff academaidd am eglurhad a chanllawiau ar sut gall y Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu a staff academaidd weithio gyda’i gilydd i gyfoethogi profiadau myfyrwyr o weithio gyda rhestrau darllen.
Dylai cynnwys rhestrau adnoddau ar-lein roi ystyriaeth i faint carfannau myfyrwyr, y dull mynychu, dull a lleoliad cyflwyno’r rhaglen a’r defnydd tybiedig o adnoddau. Hefyd dylent fod yn gytbwys o ran amrywiaeth, rhyng-genedlaetholdeb a chynrychiolaeth o fewn y sector cyflogaeth.
Er mwyn bodloni’r galw gan fyfyrwyr a sicrhau darpariaeth deg ar gyfer ein poblogaeth myfyrwyr sy’n gynyddol wasgaredig, dylid llunio rhestrau adnoddau ar-lein gan gadw adnoddau sydd ar gael yn electronig yn y cof, yn enwedig pryd yr addysgir cyrsiau ar draws nifer o leoliadau, pryd nad yw myfyrwyr wedi’u lleoli ar gampws a phryd y defnyddir addysgu bloc. Rhaid eu llunio gan ddefnyddio’r templed sydd ar gael o fewn y feddalwedd rhestrau adnoddau ar-lein, er mwyn sicrhau profiadau cydradd ar draws modylau a dylent gynnwys amrywiaeth o adnoddau dysgu sydd mor eang â phosibl.
Mae’r LlAD yn rhoi mynediad i e-lyfrau, e-gyfnodolion, cynnwys fideo, deunydd mynediad agored a chadwrfa’r Brifysgol a dylai hyn ddarparu ar gyfer cynnwys diddorol ac amrywiol yn y rhestrau adnoddau ar-lein.
Dylid defnyddio adnoddau dysgu presennol cyn ystyried prynu eitemau newydd, er mwyn sicrhau gwerth am arian. Hefyd dylid annog myfyrwyr i gymryd perchnogaeth o gynnwys rhestrau drwy wneud awgrymiadau a darparu adborth. Mae modd monitro’r defnydd o restrau a’r ymgysylltu â nhw, er mwyn helpu i sicrhau bod rhestrau’n berthnasol, yn ddynamig ac yn ddiddorol.
Cydnabyddir bod sicrhau bod gwerslyfrau academaidd a chyfnodolion (electronig neu brintiedig) ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg yn her sylweddol, felly byddai’n ddefnyddiol nodi hyn os cyflwynir y modwl yn y Gymraeg neu’n ddwyieithog er mwyn rheoli disgwyliadau myfyrwyr.
Deunydd sy’n rhan hanfodol o’r cwrs ac y disgwylir i fyfyrwyr dynnu arno yn rhan greiddiol o’u dysgu. Mae addewid ymhlyg y dylai myfyrwyr allu cael gafael ar yr eitemau hyn.
Deunydd sy’n ategu neu’n cyfoethogi’r darllen hanfodol. Disgwylir y bydd myfyrwyr yn darllen o leiaf beth deunydd o’r categori hwn, er mwyn ehangu a dwysau dealltwriaeth o’r pwnc y tu hwnt i’r hanfodion.
Sicrhewch fod yr arddull gyfeirnodi a ddefnyddir ar gyfer y rhestr ddarllen yn briodol i’r ddisgyblaeth ac yn arddull y cynghorir myfyrwyr i’w defnyddio drwy Lawlyfrau Rhaglen neu Ganllawiau Cyfeirnodi. Bydd hyn yn sicrhau y gall myfyrwyr ddod o hyd i’r adnodd cywir, yn cynnwys yr argraffiad cywir ac yn yr union fformat. Gall y Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu gynghori staff a myfyrwyr ar y defnydd effeithiol o offer meddalwedd cyfeirnodi a llyfryddol, rhai drwy danysgrifiad a rhai cod agored.
Bydd y Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu yn darparu cyngor a chymorth ar gyfer cynllunio adnoddau; yn cyfrannu at ddiwygio a chymeradwyo manylebau modylau a rhestrau darllen ac yn rhoi adborth ar gynnwys rhestrau darllen ar gam dylunio a datblygu rhaglenni: Cysylltwch â ni library@uwtsd.ac.uk.
Adolygir y polisi bob tair blynedd mewn cyswllt â staff academaidd er mwyn sicrhau ei fod yn parhau’n effeithiol.