chat loading...

Cysyniadau allweddol mewn Rheoli Data Ymchwil

Beth yw Rheoli Data Ymchwil?

Mae rheoli data ymchwil yn derm ambarél sy’n cwmpasu sut yr ydych yn trefnu, strwythuro, storio a gofalu am y wybodaeth ddigidol a grëir neu a ddefnyddir yn ystod prosiect ymchwil.

Mae’n cynnwys:

  • Cynllunio ymlaen llaw sut bydd eich data’n cael eu rheoli
  • Cofnodi arferion gwaith
  • Ystyried sut yr ymdrinnir â gwybodaeth o ddydd i ddydd
  • Gwneud penderfyniadau ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd i ddata yn y tymor hir, wedi i’r prosiect ddod i ben
  • Paratoi ar gyfer cadw data
  • Ystyried a allai gwybodaeth gael ei hatgynhyrchu

Manteision rheoli data

Mae arfer da wrth reoli eich data’n esgor ar amrywiol fanteision i chi, eich cyd-ymchwilwyr, a’r cyhoedd yn ehangach. Gall helpu i wneud y broses ymchwil yn fwy effeithlon, gan leihau’r amser a dreulir yn chwilio am wybodaeth i’w chasglu ac felly helpu i gynyddu’r amser sydd ar gael ar gyfer swmp y gwaith ymchwil. Gall ychydig o gynllunio ar ddechrau prosiect wneud pethau lawer yn haws yn ddiweddarach, gan arbed gwaith a lleihau straen. Mae hyn hefyd yn ofyniad allweddol gan y rhan fwyaf o gyllidwyr ymchwil a rhanddeiliaid cysylltiedig. Yn ogystal gall rheoli data’n dda helpu i sicrhau bod mwy o ffrwyth y prosiect ymchwil ar gael i gynulleidfa ehangach, gan gynyddu effaith a chaniatáu i ymchwilwyr gael y clod llawn am y gwaith a wnaed.

Mae’r prif fanteision yn cynnwys y canlynol:

  • Gellir dangos bod data ymchwil yn gywir, yn ddilys, yn ddibynadwy ac yn gyflawn – gan ganiatáu i ymchwilwyr ddod o’r hyd i’r hyn sydd ei angen arnynt, pan fyddant ei angen
  • Mae diogelwch data’n cael ei wella, gan leihau’r risg o golli data neu ddatgelu data’n anfwriadol
  • Yn aml gellir ailadrodd canlyniadau ymchwil heb anhawster
  • Mae dogfennaeth dda a metadata’n caniatáu i ddata ymchwil barhau i fod yn ddealladwy dros amser
  • Pan fydd ymchwilwyr yn gadael grŵp ymchwil, mae’r gweithdrefnau ynghylch trosglwyddo data yn glir
  • Mae rhannu, ailddefnyddio ac atgynhyrchu data yn bosibl
  • Hwylusir cydweithredu
  • Cwtogir cymaint â phosibl ar ddyblygu ymdrech
  • Caiff ymchwilwyr fwy o gyfle i hybu eu gwelededd a’u henw da ymhlith cymheiriaid
  • Bodlonir gofynion cyrff cyllido a rheoleiddio

Beth sy’n cyfrif fel data ymchwil?

Mae ‘data’ yn derm eang iawn, sy’n cwmpasu ystod eang o fathau o wybodaeth a ddefnyddir mewn ymchwil. Gall natur data ymchwil amrywio’n fawr gan ddibynnu ar y ddisgyblaeth, y math o brosiect a’r cam o fewn y broses ymchwil.

Mae’r Ganolfan Curadu Digidol (DCC) yn cynnig y diffiniad hwn:

Cynrychioliadau o arsylwadau, gwrthrychau neu endidau eraill a ddefnyddir fel tystiolaeth o ffenomenau at ddibenion ymchwil neu ysgolheictod.

Diffinnir data ymchwil fel yr hyn a gesglir, a arsylwir, neu a grëir i ddibenion dadansoddi er mwyn cynhyrchu canlyniadau ymchwil gwreiddiol. Y data ymchwil hwn yw’r wybodaeth a gofnodir sy’n angenrheidiol i gefnogi neu ddilysu arsylwadau, canfyddiadau neu allbynnau prosiect ymchwil. Yn ymarferol, gall natur data ymchwil amrywio’n eang gan ddibynnu ar y ddisgyblaeth. Gall fod yn destunol, rhifiadol, ansoddol, meintiol, terfynol, rhagarweiniol, ffisegol, digidol neu brintiedig.

Daw data ymchwil mewn nifer fawr o fformatau, gan gynnwys dogfennau wedi’u gairbrosesu, PDFs, taenlenni, llyfrau labordy, arolygon ar-lein, recordiadau digidol, cronfeydd data neu feddalwedd gyfrifiadurol. Gallant gynnwys y canlynol, ond nid ydynt yn gyfyngedig i’r rhain:

  • Mesuriadau offer
  • Arsylwadau arbrofol
  • Delweddau llonydd, fideo a sain
  • Dogfennau testun, taenlenni, cronfeydd data
  • Llawysgrifau, corpws/corpysau testun, cofnodion hanesyddol a deunyddiau archif
  • Data meintiol (e.e. data arolygon cartrefi)
  • Canlyniadau arolygon a thrawsgrifiadau cyfweliadau
  • Data, modelau a meddalwedd efelychu
  • Sleidiau, arteffactau, sbesimenau, samplau
  • Ffeiliau log cyfrifiadurol, e-byst, tudalennau gwe a phostiadau fforwm

Mae’r canllaw hwn yn canolbwyntio’n bennaf ar reoli data ymchwil digidol.

Egwyddorion allweddol

Mae’r Brifysgol wedi mabwysiadu’r set ganlynol o egwyddorion, sy’n deillio o’r Concordat ar Ddata Ymchwil Agored, y dylai’r rhai sy’n cynnal ymchwil eu dilyn er mwyn sicrhau bod data ymchwil yn cael eu rheoli yn unol â rhwymedigaethau deddfwriaethol, rheoleiddiol, contractiol a moesegol perthnasol a rhwymedigaethau eraill.

Person ifanc mewn siaced olwyn i fyny yn dewis cylchgrawn o silff mewn llyfrgell fodern gyda llyfrau ar silffoedd cefndir a bwrdd astudio gyda laptop ac eitemau eraill