chat loading...

Mae INSPIRE a’r Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu yn cynnal rhaglen o ddigwyddiadau datblygiad staff.

Os oes angen hyfforddiant ychwanegol ar eich Athrofa neu’ch Grŵp Ymchwil, cysylltwch â Mynediad Agored yn openaccess@uwtsd.a.cuk a byddwn yn trafod eich anghenion.

Mynediad Agored a’r Dirwedd Ymchwil

Dysgwch ragor am Fynediad Agored gan y Rheolwr Sgiliau Academaidd a Digidol Sam Scoulding a Phennaeth Casgliadau John Dalling yn y recordiad hwn o fforwm ar-lein.

Sut i lanlwytho’ch papurau ymchwil i Gadwrfa Ymchwil PCYDDS

Sut i lanlwytho’ch traethawd ymchwil i Gadwrfa Ymchwil PCYDDS

Ymchwilwyr: cysylltwch eich ORCID â'ch cyfrif Cadwrfa

Nawr gallwch chi gysylltu eich cyfrif ORCID â’ch cyfrif Cadwrfa Ymchwil PCYDDS. Mae hyn yn caniatáu ichi gynnwys eich iD ORCID yn awtomatig gyda chyflwyniadau Cadwrfa yn y dyfodol, ac i fewnforio eich ymchwil o’ch proffil ORCID i’ch cyfrif Cadwrfa ar gyfer adneuo, neu allforio ymchwil a gyflwynwyd yn flaenorol i’n Hystorfa i’ch proffil ORCID.