chat loading...

Os ydych chi’n bwriadu ysgrifennu erthygl ar gyfer cyfnodolyn neu gyflwyno papur cynhadledd i gyfnodolyn, mae’n werth ystyried yn gynnar yn y broses sut byddwch yn trefnu ei fod ar gael â mynediad agored.

Cyn cyflwyno eich papur i gyfnodolyn

Pan fyddwch yn cyflwyno eich papur i gyfnodolyn

  • Defnyddiwch eich cyfeiriad e-bost PCYDDS bob tro a’ch rhif adnabod ORCID, a nodi Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn eglur fel eich sefydliad
  • Dewiswch opsiwn Mynediad Agored os ydych yn gymwys dan un o’n cytundebau cyhoeddwyr.   Peidiwch â dewis Mynediad Agored os nad ydych yn gymwys oherwydd gall hyn

Ar ôl i’ch papur gael ei dderbyn i’w gyhoeddi

  • Gweithredwch yn sgil derbyn!  Adneuwch eich Llawysgrif Awdur a Dderbyniwyd derfynol yn y Gadwrfa Ymchwil cyn gynted â phosibl ac o fewn 3 mis iddi gael ei derbyn.
  • Anfonwch e-bost y cyhoeddwr sy’n cadarnhau ei bod wedi’i derbyn i openaccess@uwtsd.ac.uk ynghyd â’r dyddiad cyhoeddi, os ydy’n hysbys, yn dystiolaeth o’r dyddiad derbyn ar gyfer cyflwyniad REF y Brifysgol.
  • Os nad ydych yn siŵr am y dyddiad cyhoeddi ar yr adeg pan gaiff y llawysgrif ei derbyn, peidiwch ag oedi cyn adneuo – gwnewch nodyn i gysylltu ag openaccess@uwtsd.ac.uk gyda’r dyddiad cyhoeddi cyn gynted ag y caiff ei gadarnhau
  • Os oes cyfnod embargo ar eich erthygl, peidiwch ag oedi cyn adneuo – bydd ein tîm Mynediad Agored yn gweithredu’r embargo ar eich rhan er mwyn sicrhau cydymffurfio â pholisïau’r cyfnodolyn o’ch dewis.
  • Gadewch o leiaf 14 diwrnod i’r tîm Mynediad Agored brosesu eich adnau.

Aur neu wyrdd?

Mae dau brif lwybr i fynediad agored:

Bydd fersiwn cyhoeddedig eich erthygl â mynediad agored ar wefan y cyfnodolyn a bydd ar gael dan drwydded Mynediad Agored, megis Creative Commons, sy’n caniatáu i chi gadw mwy o’ch hawliau fel awdur ac i bobl eraill rannu ac adeiladu ar eich gwaith.   Fel arfer mae Tâl Prosesu Erthyglau am gyhoeddi mynediad agored aur.

Bydd fersiwn cyhoeddedig eich erthygl ar gael i danysgrifwyr y cyfnodolyn yn unig.  Byddwch yn adneuo copi o’ch Llawysgrif Awdur a Dderbyniwyd derfynol a adolygwyd gan gymheiriaid yn ein Cadwrfa Ymchwil a fydd â mynediad agored rhad ac am ddim.    Nid oes unrhyw gost am gyhoeddi mynediad agored gwyrdd, ond gallai’r cyhoeddwr osod cyfnod embargo – oedi cyn ei bod yn bosibl trefnu bod copi ar gael i’w ddarllen â mynediad agored ar ein Cadwrfa.

Bydd y llwybr a ddewiswch yn dibynnu ar nifer o ffactorau:

  1. Ydy eich ymchwil yn cael ei gyllido?  
    Gall cyllidwyr ymchwil gymhwyso cyfyngiadau ychwanegol ar gyfnodau embargo sy’n gallu cael effaith ar fynediad agored gwyrdd. Cyn dewis cyfnodolyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o bolisi mynediad agored eich cyllidwr.   Mae manylion polisïau’r cyrff cyllido mwyaf cyffredin ar gael yma. 
  2. Ydy’r cyfnodolyn yn bodloni gofynion mynediad agored y REF? 
    Hyd yn oed os nad yw’ch ymchwil yn cael ei gyllido, bydd angen i chi sicrhau bod y cyfnodolyn ble rydych yn cyhoeddi yn bodloni gofynion y REF o ran mynediad agored er mwyn i’ch gwaith fod yn gymwys am y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil nesaf.  Mae manylion polisi cyfredol y REF i’w cael yma.
  3. Oes gan y Drindod Dewi Sant gytundeb â’r cyhoeddwr fydd yn talu am daliadau Mynediad Agored?
    Mae gan y Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu gytundebau â nifer o gyhoeddwyr mawr i dalu am Daliadau Prosesu Erthyglau mewn cyfnodolion cymwys, sy’n caniatáu cyhoeddi mynediad agored aur heb unrhyw gost uniongyrchol i chi.  Gwiriwch a ydy’ch cyhoeddwr yn cael ei gynnwys yma.
    Os nad yw’r cyhoeddwr wedi’i gynnwys mewn cytundeb, nid oes gan y Llyfrgell gyllid ar hyn o bryd i dalu am Daliadau Prosesu Erthyglau unigol ac rydym yn argymell adneuo yn ein Cadwrfa Ymchwil gan ddefnyddio’r llwybr mynediad agored gwyrdd
  4. Ydych chi’n cydweithio ag ymchwilwyr eraill mewn prifysgolion eraill?
    Fel arfer bydd Taliadau Prosesu Erthyglau Mynediad Agored a bod yn gymwys am gytundeb cyhoeddwr yn berthnasol i’r awdur gohebol – h.y. yr awdur sy’n cyflwyno’r erthygl i’w chyhoeddi ac sy’n gohebu â chyhoeddwr y cyfnodolyn.  Os ydy’r awdur gohebol wedi’i leoli tu allan i’r Drindod Dewi Sant rydym yn argymell adneuo yn ein Cadwrfa Ymchwil gan ddefnyddio’r llwybr mynediad agored gwyrdd.

Hyd yn oed os byddwch yn cyhoeddi drwy’r llwybr mynediad agored aur, gofynnwn i’r holl awduron adneuo eu herthygl yn ein Cadwrfa Ymchwil er mwyn i’r Brifysgol gynnal archif gyflawn o’r holl gynnyrch ymchwil.

Dysgwch sut i adneuo erthygl yn ein Cadwrfa Ymchwil