Gwasanaethau Digidol » Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu (LLR) » Mynediad Agored ac Ymchwil » Cyhoeddi Mynediad Agored » Canllawiau hyfforddi a Chwestiynau Cyffredin » Monograffau, penodau llyfrau a chasgliadau golygedig
Os ydych yn ysgrifennu monograff, pennod llyfr neu’n paratoi casgliad golygedig, mae’n bwysig ystyried Mynediad Agored yn gynnar yn y broses. Mae nifer o gyllidwyr ymchwil yn cynnwys UKRI bellach yn cynnwys cyhoeddiadau ffurf hir yn eu polisïau Mynediad Agored. Mae’r Drindod Dewi Sant yn gofyn i ymchwilwyr adneuo copïau o’u cyhoeddiadau ffurf hir yn y Gadwrfa Ymchwil er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth ag unrhyw ofynion REF yn y dyfodol.