Gwasanaethau Digidol » Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu (LLR) » Cefnogaeth ar Gyfer Staff » Gwasanaethau Digideiddio
Dan Drwydded Addysg Uwch yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint (CLA) efallai bydd yn bosibl sganio darnau o lyfrau, cyfnodolion, cylchgronau, trafodion cynadleddau ac adroddiadau cyfraith a gyhoeddir yn y Deyrnas Unedig a rhai gwledydd tramor.
Er mwyn cydymffurfio â’r Drwydded, rhaid i ddeunyddiau cwrs wedi’u sganio gael eu darparu gan staff penodol yn y Llyfrgell, sef y personau a ddynodir i ymgymryd â’r gwaith sganio.
Bydd y personau dynodedig hyn yn gwneud gwiriadau hawlfraint perthnasol yn ogystal â sicrhau bod y datganiadau hawlfraint cywir yn cael eu harddangos gyda’r deunydd wedi’i sganio. Sylwer ei bod yn angenrheidiol bod y Brifysgol yn meddu ar ddeunydd gwreiddiol ar ffurf argraffedig a’i bod yn bosibl rhoi deunydd wedi’i sganio ar gael drwy Moodle i’r myfyrwyr hynny sy’n astudio modwl penodol yn unig.
Rhaid i gopïau digidol gael eu paratoi neu’u hawdurdodi gan ‘Berson Dynodedig’ o fewn y Gwasanaeth Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu. Os oes gennych gwestiynau neu os hoffech fwy o wybodaeth am y gwasanaeth hwn a weinyddir gan y Llyfrgell, cysylltwch ag: Digitisation@uwtsd.ac.uk
Atgoffir staff a myfyrwyr y Brifysgol hon fod hawlfraint yn bodoli yn y darn hwn a’r gwaith y’i tynnwyd ohono. Gwnaethpwyd y Copi Digidol hwn dan delerau Trwydded gan yr Asiantaeth Drwyddedu Hawlfraint sy’n caniatáu i chi:
Mae’r Copi Digidol hwn ac unrhyw gopi digidol neu brintiedig a gyflenwir i chi neu a wneir gennych chi dan delerau’r Drwydded hon i’w defnyddio yng nghyswllt y modwl neu gwrs astudio hwn. Gallwch gadw copïau o’r fath ar ôl i’r cwrs orffen, ond at eich defnydd personol eich hun yn unig. Rhaid i’r holl gopïau (yn cynnwys copïau electronig) gynnwys yr Hysbysiad Hawlfraint hwn a rhaid eu difrodi a / neu eu dileu os a phryd bydd y Brifysgol yn gofyn am hynny.
Ac eithrio yn unol â darpariaethau cyfraith hawlfraint, ni chaniateir copïo, storio na dosbarthu’r darn ymhellach (yn cynnwys drwy e-bost) heb gydsyniad y deiliad hawlfraint.
Mae gan yr awdur (term sy’n cynnwys artistiaid a chrewyr gweledol eraill) hawliau moesol yn y gwaith ac ni all staff na myfyrwyr achosi, na chaniatáu, ystumio, llurgunio nac addasu’r gwaith mewn unrhyw ffordd arall, neu unrhyw driniaeth ddirmygus ohono, a fyddai’n niweidiol i anrhydedd neu enw da’r awdur.