Gwasanaethau Digidol » Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu (LLR) » Strategaeth a Polisïau » Cod Moeseg Catalogio
Crëwyd y Cod Moeseg Catalogio gan y Pwyllgor Llywio Moeseg Catalogio, sy’n cynnwys aelodau o gymunedau catalogio yn yr Unol Daleithiau, Canada a’r Deyrnas Unedig, gyda chymorth aelodau Gweithgorau o’r gymuned gatalogio ryngwladol.
Mewn ymateb i ddiddordeb amlwg a’r angen am gyfarwyddyd ar foeseg catalogio, ffurfiwyd y pwyllgor hwn i greu dogfen ddynamig ar foeseg catalogio sy’n ymgorffori profiadau a doethineb cyfunol y gymuned arfer catalogio. Byddai’r ddogfen orffenedig yn cynnwys datganiadau moesegol yn seiliedig ar egwyddorion a gwerthoedd a nodwyd gan y pwyllgor a’r Gweithgorau, gyda chanllawiau ac enghreifftiau o arfer gorau, y gellir eu rhannu ar draws y gymuned gatalogio.
Gwefan y Pwyllgor Llywio Moeseg Catalogio
Diffinnir y term moeseg catalogio fel set o egwyddorion a gwerthoedd sy’n darparu fframwaith bwriadol ar gyfer gwneud penderfyniadau i’r rhai sy’n gweithio mewn swyddi catalogio neu fetadata.
Mae’r datganiadau moesegol sydd wedi’u rhestru yn Rhan 2 wedi’u bwriadu i lywio ein harfer proffesiynol a darparu arweiniad moesegol. Mae’r datganiadau’n seiliedig ar egwyddorion a gwerthoedd sylfaenol mewn gwaith catalogio, a nodwyd gan y Pwyllgor Llywio Moeseg Catalogio a’r Gweithgorau:
Gellir gweld fersiwn lawn y cyflwyniad hwn, ynghyd â rhestr o aelodau’r Pwyllgor Llywio Moeseg Catalogio a’r Gweithgorau.
Byddwn yn defnyddio’r datganiadau moesegol hyn, nad ydynt wedi’u rhestru yma mewn unrhyw drefn benodol o ran pwysigrwydd, i arwain a gwella ein harferion catalogio: