chat loading...

Mwy o wybodaeth i staff am hawlfraint deunyddiau addysgu, sut i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â hawlfraint a goblygiadau torri hawlfraint. Dewiswch gategori i gael mwy o wybodaeth.

Y Brifysgol yw perchennog cyntaf hawliau unrhyw waith a wneir yn ystod eich cyflogaeth, oni bai eich bod wedi gwneud cytundeb yn wahanol i hynny.

Mae cyfrifoldeb am unrhyw dor rheolau ynghylch hawlfraint yn gorwedd gyda’r unigolyn sy’n gwneud y copi. Er bod gan y Brifysgol gyfrifoldeb i sicrhau bod staff a myfyrwyr yn ymwybodol o hawlfraint ac yn cydymffurfio â’r gyfraith, mae sicrhau nad yw’n torri hawlfraint yn parhau’n gyfrifoldeb i’r sawl sy’n gwneud y copi. Mae canllawiau a hysbysiadau ar gael ymhob llyfrgell (wrth ochr llungopiwyr) sy’n esbonio’r rheoliadau cyfredol.

I chi:

  • gorfod dileu a/neu ail-lunio deunyddiau addysgu
  • niwed i enw da o fewn y Brifysgol
  • cosbau ariannol
  • posibilrwydd o dorri contract cyflogaeth gan arwain at gamau disgyblu

I’r sefydliad:

  • dileu adnodd cyfan
  • cyhoeddwyr yn cyfyngu ar fynediad at adnoddau
  • cosbau ariannol
  • niwed i enw da

Na chewch. Nid yw peidio â chael ymateb yn rhoi hawl awtomatig i chi ddefnyddio eitem. Rhowch gynnig ar anfon e-bost dilynol, gwneud galwad ffôn (os ydy’n bosibl), neu anfon llythyr. Gwnewch hi’n eglur bob tro mai at ddibenion addysgol y mae’ch cais yn hytrach na dibenion masnachol.

A bod yn fanwl gywir, yn unol â’n polisi Eiddo Deallusol, bydd trwydded eisoes wedi’i rhoi gan y myfyrwyr i ddefnyddio’u gwaith at ddibenion addysgol/addysgu. Fodd bynnag, nid yw’n debyg bod eich myfyrwyr yn ymwybodol o hyn, felly byddai’n gwrtais cael caniatâd gan y myfyrwyr cyn rhoi eu gwaith mewn cylchrediad. Byddai hefyd yn arfer da gofyn i’ch myfyrwyr a ydynt yn dymuno cael eu cydnabod am eu gwaith, neu os ydy’n well ganddynt fod eu gwaith yn ddienw. Os ydy’ch myfyrwyr yn dymuno cael eu cydnabod, byddem yn argymell eu bod yn gosod hawlfraint ar eu gwaith [© Enw’r Myfyriwr, 2019. Cedwir pob hawl]. Dylai hyn leihau’r risg y caiff eu gwaith ei gopïo gan fyfyrwyr eraill.