Gwasanaethau Digidol » Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu (LLR) » Cefnogaeth ar Gyfer Staff » Hwb Hawlfraint » Hawlfraint i Myfyrwyr ac Ymchwilwyr
Gwybodaeth bellach i myfyrwyr ac ymchwilwyr ar sut i ddiogelu eu gwaith, faint y gellir ei gopïo, sut i ddod o hyd i gopïau hygyrch a ble i ddod o hyd i ddeunyddiau heb hawlfraint. Dewiswch gategori i gael mwy o wybodaeth.
Ydy, cyhyd â’i fod at eich ymchwil anfasnachol neu’ch astudio preifat eich hun. Nid oes cyfyngiadau ar newid fformat y gwaith â hawlfraint cyhyd â bod y copïo’n deg. Ni ddylech wneud copi ac wedyn ei anfon at unigolion eraill.
Mae Creative Commons yn ddull o drwyddedu deunydd i ddiogelu rhai o’r hawliau, yn hytrach na hawlfraint sy’n diogelu’r gwaith yn llwyr. Cewch fwy o wybodaeth am y mudiad Creative Commons a’r trwyddedau ar wefan CC. Er enghraifft mae rhai pobl yn hapus i adael i chi ailddefnyddio’u gwaith (e.e. llun, fideo) os ydy at ddiben anfasnachol ac os rhowch gydnabyddiaeth iddynt. Gallwch chwilio am ddeunydd a drwyddedir dan wahanol fathau o drwyddedau Creative Commons gan ddefnyddio cyfleuster chwilio Creative Commons.
Yr enw ar yr eitemau hyn yw gweithiau amddifad. Os gallwch ddangos tystiolaeth o ddiwydrwydd dyladwy i olrhain deiliad yr hawlfraint, gellir eu defnyddio at ddibenion addysgol. Fodd bynnag, caiff deiliad cyfreithlon yr hawlfraint ofyn am gael dileu ei holl waith ar unrhyw adeg ac mae rhaid i chi wneud hynny.
Oes, os ydych chi’n cyflwyno gwaith pobl eraill fel rhan o’ch ymchwil. Yn aml bydd cynadleddau’n cael eu recordio, eu ffrydio’n fyw neu eu rhannu ar-lein, sy’n golygu bod torri hawlfraint yn fwy o risg. Er hynny mae’n bosibl y gallwch ddefnyddio darnau dan eithriadau delio teg.