Gwasanaethau Digidol » Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu (LLR) » Casgliadau Arbennig ac Archifau » Archwilio ein Casgliadau » Casgliadau’r Sylfaenu
Yn 1807 cyhoeddwyd y byddai unrhyw gyfraniadau tuag at goleg newydd Dewi Sant yn cael eu derbyn yn ddiolchgar.
Derbyniwyd y llyfrau cyntaf ym 1809, i’w storio ym Mhalas yr Esgob yn Abergwili nes bod yr ystafell lyfrgell yn barod. Erbyn 1833 ‘roedd tua 4000 o gyfrolau wedi’u casglu o’r blaen gan yr Esgob Burgess, gan wahanol ffrindiau i’r Sefydliad.’ Daeth y rhan fwyaf o’r rhoddion hyn gan aelodau’r clerigwyr.
Y mwyaf arwyddocaol oedd rhodd gan Dr Charles Poyntz, Prebendari Llandaf a Durham, sef ‘llyfrgell werthfawr iawn o lyfrau diwinyddol, a llyfrau defnyddiol eraill.’ Rhoddodd y Parch. Edward Berens o Shrivenham gopi unigryw o lyfr Jeremy Taylor , A vindication of the sacred order and offices: divine institution, apostolical tradition, and Catholick practice of episcopacy (1660).
Rhoddodd Neuadd Sant Edmund, Rhydychen, grŵp bach ond gwerthfawr o bump ar hugain o gyfrolau o’u llyfrgell eu hunain. Mae’r rhodd yn cynnwys copi o lyfr Syr Walter Ralegh, The history of the world (1614), gyda blaenlun a mapiau wedi’u lliwio â llaw. Ym 1832, rhoddodd yr Arglwydd Cawdor gopi o Feibl Groeg Aldine (1518).
Argraffwyd y catalog cyntaf o gasgliadau’r llyfrgell ym 1836.