chat loading...

Casgliadau Arbennig ac Archifau

Uchafbwyntiau Pwnc

Y Clasuron

Mae gennym ni amrywiaeth o argraffiadau o lenyddiaeth Roeg a Lladin, a gyhoeddwyd rhwng y 15fed a’r 19eg ganrif. Un o’n cyfrolau print hynaf yw argraffiad o Bywydau Plutarch, wedi’i gyfieithu i’r Lladin gan yr Esgob Giannantonio Campano a’i argraffu yn Rhufain gan Ulrich Han yn 1470. Mae gan ein copi ffiniau arbennig o gain sydd wedi’u darlunio â llaw. Mae gennym hefyd gopi o Historia Romana gan Appianus o Alexandria, a argraffwyd yn Fenis gan Bernhard Pictor, Peter Löslein ac Erhard Ratdolt yn 1477. Arloeswr oedd Ratdolt, ac ychwanegodd lythrennau cyntaf addurniadol a ffiniau mewn torlun pren, (yn hytrach nag â llaw mewn copïau unigol).

Roedd gan Thomas Burgess edmygedd arbennig o Aristoteles, ac felly mae enghreifftiau helaeth o’i waith yng nghasgliad yr esgob. Roedd gan Burgess argraffiad Lladin o’r Rhetorica, a gyhoeddwyd yn Fenis gan Philippo de Petri yn 1481. Ynddo, mae cyfieithiad Hermannus Alemannus yn cyd-fynd ag esboniadau Alfaribus ac Averroes. Roedd Burgess hefyd yn berchen ar gopi o Poetica Aristotles, a gyhoeddwyd yn Fenis gan Wasg Aldus yn 1536. Mae’r gwreiddiol Groeg yn dilyn y cyfieithiad Lladin. Gadawyd y copi i Burgess gan ei gyfaill a’i fentor, yr ysgolhaig Thomas Tyrwhitt yn ei ewyllys. Mae gennym ni hefyd ddwy gyfrol o argraffiad Aldus o Orationes Cicero (1541); mae’r ddwy wedi’u llofnodi ‘Arundel’ gan Henry Fitzalan, deuddegfed Iarll Arundel.

Opening Page from Digestum Forum

Llenyddiaeth Saesneg

Ceir nifer o argraffiadau diddorol o lenyddiaeth Saesneg. Mae gennym ni ddau gopi o The woorkes of Geffrey Chaucer (1561), a olygwyd gan yr hynafiaethydd John Stow. Argraffwyd un o’r rhain gan Jhon Kyngston ar gyfer Jhon Wight, a’r llall gan Henry Bradsha. Gan fod gan yr Esgob Burgess ddiddordeb cryf yn John Milton, mae gennym sawl argraffiad ac esboniadau ar y bardd. Mae’r rhain yn cynnwys The doctrine & discipline of divorce (1643); Poems of Mr John Milton, both English and Latin, compos’d at several times (1645); A treatise of civil power in ecclesiastical causes (1659) and Paradise regain’d (1671). Mae gennym hefyd gopi o argraffiad 1827 o Paradise lost, sy’n cynnwys mesotintau gan John Martin. Ystyrir y rhain ymhlith y darluniau gorau ar waith Milton, gyda chyferbyniadau cryf o olygfeydd golau a thywyll a dyfodolaidd sy’n deillio o dirweddau diwydiannol cyfoes.

Mae gennym ddau gopi o Utopia Thomas More, a gyhoeddwyd gan Johannes Froben yn 1518. Mae’r argraffiad yn cynnwys map o ynys Iwtopia, a dynnwyd gan Ambrosius Holbein. Mae gennym hefyd gopi o argraffiad cyntaf o Gulliver’s travels (1726) gan Jonathan Swift, dan yr enw gwreiddiol Travels into several remote nations of the world. Roedd yr argraffiad cyntaf hwn yn cynnwys dwy gyfrol wythblyg, a werthwyd am 8 swllt 6 ceiniog. Cymaint oedd ei boblogrwydd fel yr oedd wedi gwerthu allan o fewn wythnos; yn dilyn hyn cyhoeddodd Motte ddau argraffiad arall y n 1726.

Mae gan y Drindod Dewi Sant hefyd gopi o The complaint and the consolation: or, Night thoughts gan Edward Young, a gyhoeddwyd gan Richard Edwards yn 1797 ac a ddarluniwyd gan William Blake.

Hanes

Mae gennym amrywiaeth o weithiau clasurol cynnar o hanes Prydain a thopograffeg Prydain. Mae’r rhain yn cynnwys Britannia: sive, Florentissimorum regnorum, Angliæ, Scotiæ, Hiberniæ, et insularum (1590) gan William Camden, ei ymgais i ‘restore Britain to antiquity, and antiquity to Britain.’ Mae gennym gofiant Camden o Elisabeth I, Annales rerum anglicarum et hibernicarum regnante Elizabetha (1615-27). Ceir hefyd gyfieithiadau Saesneg o Britannia a gyhoeddwyd yn 1610 ac o Annales a gyhoeddwyd yn 1635. Ceir dau gopi o Chronicles of England, Scotland, and Ireland (1587) gan Raphael Holinshed, (er bod y naill a’r llall yn anghyflawn, gwaetha’r modd). Mae gennym A short view of the late troubles in England (1681) gan William Dugdale, sy’n olrhain hynt yr anghydfodau a arweiniodd, yn y pen draw, at y Rhyfeloedd Cartref. Fodd bynnag, gwaith pleidiol yw hwn; bwriad Dugdale oedd iddo fod yn gofeb bersonol i ddrygioni gelynion Siarl I.

Ceir sawl hanes sirol, gan gynnwys A topography or survey of the county of Kent (1659) gan Richard Kilburne; The description of Leicestershire: containing matters of antiquity, history, armoury, and genealogy (ail argraffiad, wedi’i ehangu a’i gywiro, 1777) gan William Burton a History of the Isle of Wight (1781) gan Richard Worsley. Ar gyfer gogledd Prydain, mae gennym waith Alexander Gordon, Itinerarium Septentrionale: or, a journey thro’ most of the counties of Scotland, and those in the north of England (1727). Yn ei gyflwyniad i Charles Dug Queensferry a Dover, esboniodd Gordon mai ei nod oedd ‘illustrate the Roman actions in Scotland, and of consequence, the atchievements of its ancient inhabitants.’ Mae gennym hefyd set o The beauties of England and Wales (1801-1816) gan John Britton ac E. W. Brayley, yn bennaf yn y rhannau gwreiddiol wedi’u lapio mewn glas i danysgrifwyr.

Yn achos mannau eraill yn Ewrop, mae gennym ddau gopi o Historia de gentibus septentrionalibus, (1558 a 1562) gan Olaus Magnus, hefyd cyfieithiad 1565 i’r Eidaleg a chyfieithiad 1658 i’r Saesneg. Mae The history of the affairs of Europe in this present age: but more particular of the republick of Venice (1673) gan Battista Nani yn rhoi adroddiad o’r weriniaeth bwerus, a ysgrifennwyd gan hanesydd swyddogol Fenis.

frontispiece Britannia by William Camden

Teithio ac Archwilio

Mae ein casgliadau yn cynnwys detholiad gwych o weithiau ar deithio ac archwilio, a gyflwynir yn bennaf gan Thomas Phillips. Ceir copïau o weithiau clasurol, er enghraifft cyfieithiad Eidaleg Girolamo Ruscelli o Ptolemy, La Geografia di Claudio Tolomeo Alessandrino (1561), a Rerum Geographicarum Libri Septemdecim (1571) gan Strabo. Er gwaethaf ei anghywirdebau, roedd Daearyddiaeth Ptolemy yn waith safonol tan yr 16eg ganrif. Mae ein hargraffiad, a gyhoeddwyd yn Fenis gan Vincenzo Valgrisi, yn cynnwys saith ar hugain o fapiau ‘traddodiadol’ a saith ar hugain o fapiau ‘modern’, gan gynnwys deg map sy’n ymwneud â’r America. Roedd gwaith enfawr Strabo, a ysgrifennwyd ar ddiwedd y ganrif 1af CC neu ddechrau’r ganrif 1af OC, yn cwmpasu topograffeg y byd hysbys ar y pryd, o Benrhyn Iberia i India ac o’r Arctig i Gefnfor India.

Cyflwynodd Phillips hefyd gopïau o Theatrum orbis terrarum gan Abraham Ortelius (arg. 1606), yn cynnwys map print cyntaf Humphrey Llwyd o Gymru, a chyfieithiad Henry Hexham o Atlas Gerhard Mercator (cyhoeddwyd 1636). Ymhlith yr atlasau diweddarach yn y casgliad mae’r Atlas universel (1757) gan Gilles Robert de Vaugondy a Didier Robert de Vaugondy a The West-India atlas (1775) gan Thomas Jefferys. Yn ategu’r rhain, mae gennym gasgliad sylweddol o siartiau, cynlluniau a hunangofiannau wedi’u casglu a’u cyhoeddi gan Alexander Dalrymple, y hydrograffydd i’r Llynges Frenhinol. Mae’r ardaloedd a gofnodwyd yn amrywio o Mauritius i Begwn y Gogledd ac o Ynys y Dyrchafael i Sri Lanka.

Mae gennym lawer o gyfrolau sy’n gysylltiedig â fforwyr y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. Maent yn cynnwys amrywiaeth o lyfrau sy’n disgrifio tair mordaith Capten James Cook i’r Cefnfor Tawel, a ysgrifennwyd yn bennaf gan Cook yntau neu gan aelodau o’i griw. Ychydig yn ddiweddarach, mae gennym ddetholiad o gyfrolau sy’n ymwneud â chwilio am Dramwyfa’r Gogledd-orllewin, a ysgrifennwyd, ymhlith eraill, gan Syr John Ross, Syr William Edward Parry, John Franklin a George Back. Ymhlith y fforwyr eraill a welir yn y casgliad mae James Bruce, Lapérouse, George Vancouver, Mungo Park ac Alexander von Humboldt.

Gwyddoniaeth ac Astudiaeth Natur

Mae gennym amrywiaeth o gyfrolau ar astudiaeth natur, sy’n cynnwys fflora a ffawna. Y llysieuol hynaf yn y casgliad yw De viribus herbarum (1498) gan Macer Floridus. Mae’r gyfrol yn cynnwys tua chwe deg o dorluniau pren; er mor fywiog yw’r darluniau, ychydig o ddefnydd sydd iddynt wrth adnabod planhigion. Mae gennym y tair cyfrol gyntaf o waith godidog Hendrik Adriaan van Rheede tot Draakenstein Hortus Indus Malabaricus (1678). Nod Van Rheede, cadlywydd Malabar yn yr Iseldiroedd, oedd cofnodi manylion planhigion meddyginiaethol lleol, gyda’u dibenion traddodiadol a’r dulliau o’u defnyddio. Roedd yn dibynnu’n helaeth ar bobl leol, gan gyflogi pobl o gast y ‘toddy-tapper’ i gasglu sbesimenau a Brahmin dysgedig i helpu i lunio’r testun. Mae Horti medici Amstelodamensis rariorum tam Orientalis (1697-1701) gan Johannes Commelin yn catalogio’r planhigion yn Hortus Medicus Amsterdam, oedd un o’r casgliadau cyfoethocaf o blanhigion egsotig yn Ewrop. Mae Hortus Romanus (1772-84) gan Giorgio Bonelli yn disgrifio’r planhigion a dyfid yng Ngardd Fotaneg Rhufain; mae gennym y saith cyfrol gyntaf o’r wyth. Mae gennym hefyd Flora Londinensis (1777) gan William Curtis; nod Curtis oedd darlunio a disgrifio’r planhigion sy’n tyfu o fewn deng milltir i Lundain. Dywedir mai’r platiau yw’r darluniau gorau o blanhigion Prydain i’w cyhoeddi erioed. Mewn cyferbyniad, ychydig o werth gwyddonol sydd i New illustration of the sexual system of Linnæus Robert John Thornton (1799-1807). Fodd bynnag, hwn yw’r cyhoeddiad botanegol mwyaf moethus i’w gynhyrchu erioed. Mae’r drydedd gyfrol, The Temple of Flora, yn cynnwys tri deg un o ysgythriadau lliw godidog o flodau, wedi’u paentio gan artistiaid blaenllaw gan gynnwys Philip Reinagle ac Abraham Pether.

Yn ymwneud â’r deyrnas anifeiliaid, rhoddodd Thomas Phillips dair o’r pedair cyfrol o Historia Animalium Conrad Gessner (1551-58). Roedd Gessner wedi ceisio cofnodi popeth yr oedd awduron hynafol a modern erioed wedi’i ysgrifennu am bob rhywogaeth o anifeiliaid. Roedd yn cynnwys rhai creaduriaid yr oedd eu bodolaeth yn ansicr, gan gynnwys mwnci’r môr ac esgob y môr. Rhoddodd Phillips hefyd gopi wedi’i liwio â llaw o Fischbuch, fersiwn Almaeneg talfyredig o’r bedwaredd gyfrol ar greaduriaid dyfrol. Ym maes pryfed, mae gennym Insectorum sive minimorum animalium theatrum (1634) gan Thomas Moffet. Wedi’i seilio’n rhannol ar ysgrifau heb eu cyhoeddi gan Gessner ac Edward Wotton, mae hyn yn rhoi adroddiad systematig o arferion, cynefin, bridio a phwysigrwydd economaidd pryfed. Mae ganddo tua phum cant o engrafiadau pren o ansawdd amrywiol. Mae gennym hefyd ail ran Der rupsen begin (1714) gan Maria Sibylla Merian, cyfieithiad i’r Iseldireg o Der Raupen wunderbare Verwandelung und sonderbare Blumen-nahrung (sef Llyfr y siani flewog fel y’i gelwid ar lafar gwlad). Cynhwysodd Merian, un o’r ecolegwyr cynharaf, hanner cant o blatiau yn darlunio gwahanol gamau bywyd y pryf o’r lindysyn i loÿnnod byw oedran llawn, gwyfyn neu bryf. Yn y testun cysylltiedig, esboniodd sut roedd ei sbesimenau yn edrych ac yn ymddwyn. Mae ein copi wedi’i liwio â llaw.

Yn achos adar, mae gennym A natural history of birds (1731-34) gan Eleazar Albin ac A natural history of uncommon birds (1743-51) gan George Edwards. Mae gennym hefyd gopïau o’r argraffiad cyntaf hardd o British zoology Thomas Pennant (1766) ac o’r ail argraffiad llai, mwy llwyddiannus o safbwynt masnachol (1768-70).

Woodpeckers from British zoology

Pensaernïaeth

Mae gennym nifer o gyfrolau gwych o gynlluniau a lluniadau pensaernïol. Mae’r rhain yn cynnwys detholiad o gyfrolau moethus sy’n cofnodi olion clasurol. Mae pedair cyfrol Giambattista Piranesi, Le antichità romane (1756), eitem ddrud i gofio’r Daith Fawr, yn uchafbwynt arbennig. Mae cyfrolau eraill yn ffrwyth teithiau penseiri a hynafiaethwyr hwythau. Oddi wrth Robert Adam, mae gennym Ruins of the palace of the Emperor Diocletian at Spalatro in Dalmatia (1764) a chan Robert Wood The ruins of Palmyra (1753) a The ruins of Balbec (1757). Mae gennym hefyd y tair cyfrol gyntaf o The antiquities of Athens (1762-1816) gan James Stuart a Nicholas Revett.

Mae The plans, elevations and sections, of Holkham in Norfolk (1773) gan Matthew Brettingham yn enghraifft o Baladianiaeth, gwaith E. W. Brayley, Illustrations of Her Majesty’s Palace at Brighton (1838) o ddwyreinioldeb a llyfr William Chamber, Desseins des edifices, meubles, habits, machines, et ustenciles des Chinois (1757) o chinoiserie.

Cymru

Mae gennym amrywiaeth eang o weithiau sy’n ymwneud â hanes, topograffeg a diwylliant Cymru. Yn The historie of Cambria, now called Wales (1584) gan David Powel, mae gennym hanes print cyntaf Cymru. Er bod y gwaith yn seiliedig ar gyfieithiad Humphrey Llwyd o Brut y Tywysogyon, roedd hefyd yn cynnwys deunydd a gasglwyd gan John Prys ac Edward Stradling. At y testun ychwanegwyd torluniau pren o’r tywysogion Cymreig, a ailddefnyddiwyd o argraffiad 1577 o Chronicles of England, Scotland and Ireland gan Holinshead.

Mae gennym y map print cyntaf o Gymru yn unig, a dynnwyd gan Humphrey Llwyd ac a gynhwysir yn Theatrum orbis terrarum Abraham Ortelius, (1606). Nid yw popeth yn berffaith; mae Aberdaugleddau yn wynebu’r de-orllewin ac mae Penrhyn Llŷn yn troi tua’r de. Fodd bynnag, mae’n welliant sylweddol ar fapiau cynharach. O ddyddiad diweddarach, mae gennym Plans of the principal harbours, bays, & roads, in St George’s and the Bristol channels Lewis Morris (argraffiad newydd, 1801). Sylweddolodd fod siartiau annigonol yn cyfrannu at longddrylliadau mynych, felly lluniodd Morris fap o arfordir Cymru o Ben y Gogarth, i’r gogledd-orllewin o Landudno, i Ddinbych-y-pysgod. Roedd ei gyfrol hefyd yn cynnwys ei gynlluniau o bum harbwr ar hugain. Mae ein hargraffiad, a ddiwygiwyd gan fab Morris, William, yn cynnwys rhai cynlluniau ychwanegol o harbyrau, gan gynnwys Aberaeron a Chei Newydd.

O ran y Gymraeg, mae gennym eiriadur Cymraeg-Lladin John Davies, Antiquae linguae britannicae … Dictionarium Duplex (1632). Roedd Davies am ddarparu deunyddiau y gallai clerigwyr Saesneg eu hiaith ddysgu Cymraeg drwyddynt, gan eu galluogi i siarad â’u plwyfolion. Mae gennym hefyd gopi o A new English-Welsh dictionary (1771) William Evans; roedd hwn wedi’i anelu at Gymry Cymraeg a oedd am ddysgu Saesneg, ac at glerigwyr ifanc yr oedd angen iddynt gynnal gwasanaethau yn Gymraeg. Yn ei gyfrol ysblennydd An English-Welsh dictionary (1794), gobeithiodd John Walters alluogi awduron i drafod pob cangen o wybodaeth a’r celfyddydau yn Gymraeg. Wrth wneud hyn, bathodd lawer o eiriau newydd, a defnyddir rhai o’r rhain hyd heddiw.

Daeth twristiaeth i Gymru yn boblogaidd yn chwarter olaf y 18fed ganrif, wrth i deithwyr ffasiynol ddechrau gwerthfawrogi tirweddau gwyllt o glogwyni, rhaeadrau ac adfeilion. Rhwng 1770 a 1815 cyhoeddwyd wyth deg o lyfrau yn disgrifio teithiau yng Nghymru. Mae gennym ddetholiad o’r rhain. Mae A tour in Wales (1778-83) gan Thomas Pennant yn disgrifio chwe sir ogleddol Cymru, gan ganolbwyntio’n drwm ar ei fro enedigol yn y Gogledd-ddwyrain. Yn wahanol i’r rhan fwyaf o dwristiaid Lloegr, gwnaeth ei arsylwadau dros dair taith, ynghyd â phrofiad blaenorol. Hefyd, yn wahanol i’r rhan fwyaf o’r awduron eraill, roedd wedi dringo’r Wyddfa a Chader Idris. Mae gennym Cambria depicta (1816) gan Edward Pugh, yr unig arweinlyfr i’w ysgrifennu gan siaradwr Cymraeg. Treuliodd Pugh naw mlynedd yn teithio ledled gogledd Cymru, bron yn gyfan gwbl fel cerddwr. Roedd yn diddanu ei ddarllenwyr â straeon diddorol, hanesion a’i farn unigryw ei hun. Ymhlith yr arweinlyfrau eraill yn ein casgliad mae A walk through Wales, in August 1797 gan Richard Warner (pedwerydd argraffiad, 1801) ac A second walk through Wales (1799); The Cambrian traveller’s guide, and pocket companion gan George Nicholson (1808), a North Wales delineated gan William Bingley (1814).

Mae gennym ddetholiad o hanesion gwlad Cymru, gan gynnwys A history of the county of Brecknock (1805-09) gan Theophilus Jones; The history and antiquities of the county of Cardigan gan Samuel Rush Meyrick (1808), a Historical tour through Pembrokeshire gan Richard Fenton (1811).

Cedwir dau waith gan yr artist lleol o Ddinbych-y-pysgod, Charles Norris: The architectural antiquities of Wales. Vol. 1, Pembrokeshire. No. 1[-3], St David’s (1810-11), ac Etchings of Tenby (1812). Yn y llyfr olaf, portreadodd olion Dinbych-y-pysgod canoloesol yn ofalus, gan ddogfennu ei throsglwyddiad o hen borthladd masnachu i gyrchfan wyliau Sioraidd. Yn achos canolbarth Cymru, mae gennym gyfres o acwatintau John ‘Warwick’ Smith, Fifteen views illustrative of a tour to Hafod (1810), a fwriadwyd i gyd-fynd ag A tour to Hafod, , in Cardiganshire, gan James Edward Smith. Yr Hafod, tua phum milltir ar hugain i’r gogledd-ddwyrain o Lambed, oedd un o’r enghreifftiau gorau o dirwedd hardd ac yn safle allweddol i’r mudiad rhamantaidd.

Mae gennym hefyd gasgliad o oddeutu wyth cant o faledi Cymraeg o’r 19eg ganrif, a brynwyd gan y Parchedig D. H. Davies yn 1904 yn rhan o Gasgliad Cenarth. Mae’r baledi yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys troseddau yn enwedig llofruddiaethau a chrogiadau; trychinebau mwyngloddio glo; llongddrylliadau; crefydd a diwygiadau; caru; dyfodiad y rheilffyrdd i Gymru, a digwyddiadau lleol, megis Terfysgoedd Beca. Ysgrifennwyd rhai gan feirdd enwog o Gymru, megis Tegid ac Eben Fardd.

From Fifteen views illustrative of a tour to Hafod