chat loading...
tudalen-deitl-leviathan

Casgliad Ystrad Meurig

Mae Casgliad Ystrad Meurig yn cynnwys tua chwe chant o eitemau o hen lyfrgell blwyf ac ysgol Coleg Sant Ioan (1757-1974). Sefydlwyd hwn gan Edward Richard (1714-77); mae tua 320 o lyfrau wedi goroesi o lyfrgell Richard yntau. Mae’r Casgliad yn cynnwys ystod eang o bynciau yn y Dyniaethau a diwinyddiaeth, yn bennaf yn Lladin a Saesneg, rhwng y 17eg ganrif a’r 19eg. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae Dictionary of the English Language gan Samuel Johnson (1755); An Historical and Critical Dictionary (1710) gan Pierre Bayle, a Leviathan gan Thomas Hobbes (1651).

Hanes yr Ysgol

Sefydlwyd Ysgol Ystrad Meurig tua 1734 gan Edward Richard, brodor o Ystrad Meurig, a ddechreuodd drwy ddysgu bechgyn lleol yn eglwys y plwyf. Roedd Richard yn ysgolhaig a beirniad o’r iawn ryw, yn hynafiaethydd, ac yn fardd Cymraeg; ef oedd awdur rhai bugeilgerddi, y dywedir eu bod, oherwydd ceinder eu cyfansoddiad a phurdeb eu harddull, yn ddihafal ymhlith unrhyw ysgrifau yn yr iaith Gymraeg. Credir iddo gael ei eni yn y flwyddyn 1714, er nad yw ei enw yn ymddangos ymhlith y bedyddiadau yn y gofrestr.

Erbyn 1759 roedd Edward Richard yn dysgu dros hanner cant o ddisgyblion ac yn 1757, sefydlwyd yr ysgol yn gyfreithlon a’i breintio yn ysgol ramadeg. Yn 1774 datganwyd bod yr ysgol ar agor i fechgyn o Sir Aberteifi, gan gynnig addysg rad ac am ddim yn Lladin ac egwyddorion Eglwys Loegr. Yn dilyn marwolaeth Edward Richard yn 1777, cymerodd y Parchedig John Williams yr awenau yn brifathro. O dan Williams, sefydlodd a chynhaliodd Ysgol Ystrad Meurig enw da am ysgolheictod clasurol. Erbyn 1812 roedd adeilad ysgol ar wahân wedi’i godi ym mynwent eglwys y plwyf a rhwng 1803 a 1827 daeth Ystrad Meurig yn brif sefydliad ar gyfer hyfforddi ordinandiaid yn esgobaeth Tyddewi.

Ar un adeg yn ystod y cyfnod hwn roedd 150 o ddisgyblion yn mynychu’r ysgol hon. Er bod y rhan fwyaf o’r disgyblion wedi mynd ymlaen i ddod yn glerigwyr yn Eglwys Loegr yng Nghymru, ymhlith y cyn-fyfyrwyr nodedig mae Dr David Davis, meddyg i William IV a’r Frenhines Fictoria, a John Williams, warden cyntaf Coleg Llanymddyfri. Ar ôl agor Coleg Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan gerllaw yn 1827, gostyngodd nifer y myfyrwyr yn Ystrad Meurig. Daeth y cwricwlwm yn debycach i ysgol uwchradd; datblygodd i fod yn sefydliad paratoadol i ddisgyblion a oedd yn dymuno mynd ymlaen i astudio yng Ngholeg Dewi Sant, neu ym Mhrifysgol Cymru. Parhaodd yr ysgol i ddarparu addysg i fechgyn lleol; roedd hefyd yn derbyn dynion yr amharwyd ar eu haddysg gan y naill ryfel byd neu’r llall, cyn iddynt gael dyrchafiad i’r brifysgol.

O’r 1950au ymlaen dirywiodd yr ysgol yn raddol. Erbyn hyn, Coleg Sant Ioan yw’r enw arno, er nad yw’r union ddyddiad a’r rhesymau dros newid ei enw yn hysbys. Ei brif rôl oedd darparu cyrsiau Lefel O a Safon Uwch ar gyfer darpar fyfyrwyr diwinyddiaeth yn Llanbedr Pont Steffan. Ymddiswyddodd y prifathro olaf yn 1973. Ers hynny mae llyfrgell yr ysgol wedi cael ei symud i PCYDDS, Llanbedr Pont Steffan, bellach defnyddir yr ysgol hithau yn neuadd bentref.

Deunydd Archifol

Cwmpas a chynnwys: Mae’r archif yn cynnwys gohebiaeth sy’n ymwneud â mynediad i Ysgol Ystrad Meurig, ac o Ysgol Ystrad Meurig i Goleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan; papurau ariannol; ffotograffau o’r coleg; copïau o gylchgrawn y coleg ac eitemau amrywiol eraill.

tudalen-deitl-leviathan