Gwasanaethau Digidol » Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu (LLR) » Casgliadau Arbennig ac Archifau » Ein Rôl a’n Cymorth wrth Addysgu
Casgliadau Arbennig ac Archifau
Gallwn ni gefnogi ystod eang o feysydd addysg, gan gynnwys hanes, yr henfyd, archaeoleg, anthropoleg, llenyddiaeth Saesneg, hanes pensaernïaeth, astudiaethau canoloesol, hanes celf, darlunio llyfrau, treftadaeth a chrefydd.
Mae gennym ystod enfawr o ddeunydd ffynhonnell wreiddiol sy’n helpu myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth o’r defnydd o ddeunydd gwreiddiol mewn ymchwil. Gall ddod ag addysgu’n fyw i ddarlithwyr yn ogystal â myfyrwyr. Gallwn ni hefyd gefnogi gweithgareddau addysgu a dysgu a chyfrannu cynnwys wedi’i anelu at staff a myfyrwyr ledled y Brifysgol, gan gynnwys digwyddiadau, arddangosfeydd, cynnwys InfoSkills a’r cyfryngau cymdeithasol.
Mae ein darllenfa yn darparu amgylchedd da ar gyfer ymchwil a seminarau. Gellir arddangos deunydd o’r casgliadau ac, yn dibynnu ar eu breuder, yn aml gall y myfyrwyr ei drin a’i drafod. Mae ein staff yn hapus i roi cyflwyniad cyffredinol i’r defnydd o’r casgliadau a gallant dreulio amser yn gweithio gydag unigolion.
Gallwn ni helpu i ddatblygu aseiniadau myfyrwyr a gallwn ni hwyluso ystod eang o fathau o waith, (er enghraifft arddangosfeydd ffisegol neu ar-lein o ansawdd da, posteri, a chyflwyniadau, yn ogystal â thraethodau). Mae ein casgliadau yn darparu cyfoeth o ddeunydd sy’n addas fel pynciau ar gyfer prosiect ymchwil annibynnol myfyrwyr ac ymchwil ôl-raddedig.
Rydyn ni hefyd yn cynnig cyfle i fyfyrwyr weithio gyda ni fel gwirfoddolwyr, gan helpu gydag ymchwil ar gyfer arddangosfeydd a phrosiectau archifo.