chat loading...

Casgliadau Arbennig ac Archifau

Ymweld â'r Casgliadau Arbennig ac Archifau

Rydym ar agor: Dydd Mawrth i ddydd Gwener: 9.30am – 1pm a 2pm – 4.30pm.

Dydd Sadwrn, dydd Sul, dydd Llun: Ar gau (oni bai trwy gytundeb ymlaen llaw)

Lleoliad ac Archebu

Mae Casgliadau ac Archifau Arbennig wedi’u lleoli ar gampws Llambed. Rydym ar agor trwy apwyntiad yn unig; bydd angen i chi archebu eich ymweliad ymlaen llaw naill ai drwy archebu ar-lein neu drwy e-bostio specialcollections@uwtsd.ac.uk. Rydym hefyd yn cynnig ymweliadau â chymdeithasau a grwpiau lleol.

Mae gennym ystafell ddarllen bwrpasol lle gallwch ddefnyddio’r archifau a’r llyfrau prin sydd wedi’u lleoli yn ein hystafell gadarn. Rydym yn gweithredu “gwasanaeth cyfryngol”, a’r staff yn dod â’r deunyddiau y mae eu heisiau arnoch chi. Bydd archifydd neu lyfrgellydd wrth law bob amser i’ch helpu, a chasgliad cyfeiriol bach o ddeunydd ategol ar gael at eich defnydd.

Mae toiledau ar gael ar y mesanîn, ger y fynedfa i’r llyfrgell. Mae sawl caffi o fewn pum munud ar droed. Mae lle parcio â thâl ar y campws ar gael.

Byddwch yn arbed amser trwy archebu eitemau ymlaen llaw cyn i chi ddod. Fel arall, gallwch bori trwy’r catalog a gofyn am ddeunydd ar ôl i chi gyrraedd.

Canllawiau i ymchwilwyr sy'n defnyddio ein casgliadau

Mae llawer o’r eitemau yn ein casgliadau eisoes wedi goroesi ers canrifoedd. Rhowch y parch y maent yn ei haeddu iddynt fel y byddant ar gael i genedlaethau’r dyfodol eu hastudio.

I’w wneud

  • Mewngofnodwch ar ôl i chi gyrraedd yma.
  • Sicrhewch fod eich dwylo’n lân cyn trin deunydd.
  • Defnyddiwch bensiliau yn unig, yn hytrach na phennau ysgrifennu. Mae gennym gyflenwad bron diderfyn o bensiliau.
  • Byddwch yn ofalus wrth drin dogfennau.
  • Cefnogwch eitemau yn gywir. Defnyddiwch gynhalwyr llyfrau ar gyfer cyfrolau rhwymedig. Gosodwch ddogfennau a mapiau yn wastad a defnyddiwch bwysau i’w dal ar agor. Byddwn yn darparu offer gan gynnwys gobenyddion llyfrau, nadroedd a llyfrnodau heb asid.
  • Tynnwch luniau yn unol â deddfwriaeth hawlfraint, (ond heb ddefnyddio fflach).

Peidiwch â

  • Dod â bwyd neu ddiod i’r ystafell ddarllen.
  • Defnyddio cynhyrchion tybaco (gan gynnwys e-sigaréts) unrhyw le yn adeilad y llyfrgell.
  • Mynd ag eitemau allan o’r ystafell ddarllen.
  • Pwyso ar neu farcio dogfennau mewn unrhyw ffordd.

Cofiwch

Bydd ein staff yn falch o’ch helpu chi, ac i esbonio’r rhesymau dros unrhyw un o’r rheolau. Gofynnwch i ni os bydd eisiau help neu wybodaeth arnoch chi.

Archifau Sefydliadol Abertawe

Mae archifau Prifysgol Fetropolitan Abertawe a’i sefydliadau rhagflaenol wedi’u cadw ar wahân yng Nghampws SA1 Glannau Abertawe. I drefnu mynediad, cysylltwch â specialcollections@uwtsd.ac.uk.