Gwasanaethau Digidol » Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu (LLR) » Mynediad Agored ac Ymchwil » Rheoli Data Ymchwil » Adneuo eich data
Mae polisi PCYDDS yn gofyn i ymchwilwyr adneuo eu data ymchwil mewn archif data ymchwil pynciol addas lle bo ar gael. Os nad oes gwasanaeth addas ar gael, gallwch hefyd archifo eich data yng nghadwrfa’r Brifysgol.
Dilynwch y camau hyn i wneud eich data ymchwil yn hygyrch.
Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i ddata ymchwil digidol. Os byddwch yn cynhyrchu data copi caled, ffisegol, gwerthfawr trwy eich ymchwil, efallai y byddwch yn dymuno ystyried eu hadneuo mewn archif addas. Mae’r Archifau Cenedlaethol yn rhoi manylion yr archifau sydd ar gael yn y DU.