Cyfle i edrych ar amrywiaeth o arddangosfeydd rhithwir sy'n dangos ein llyfrau a'n llawysgrifau prin ac unigryw.
Arddangosfa Gyfredol
(embed Sway here)
200 o fywgraffiadau yn dathlu deucanmlwyddiant Llanbedr Pont Steffan
Yn rhan o ddathliadau’r Deucanmlwyddiant yn 2022, ymgymerodd staff o fewn tîm y Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu â phrosiect i archwilio bywydau ein cyn-fyfyrwyr a’n staff yn Llambed. Mae eu prosiect yn darparu gwybodaeth am y rhai sydd wedi gwneud enw iddynt eu hunain ar draws pob maes gan gynnwys y byd Academaidd, y Lluoedd Arfog, y Celfyddydau, Crefydd, Addysg, Chwaraeon ac Adloniant a meysydd eraill.