Gwasanaethau Digidol » Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu (LLR) » Casgliadau Arbennig ac Archifau » Ymweld â’r Casgliadau Arbennig ac Archifau
Casgliadau Arbennig ac Archifau
Rydym ar agor: Dydd Mawrth i ddydd Gwener: 9.30am – 1pm a 2pm – 4.30pm.
Dydd Sadwrn, dydd Sul, dydd Llun: Ar gau (oni bai trwy gytundeb ymlaen llaw)
Mae Casgliadau ac Archifau Arbennig wedi’u lleoli ar gampws Llambed. Rydym ar agor trwy apwyntiad yn unig; bydd angen i chi archebu eich ymweliad ymlaen llaw naill ai drwy archebu ar-lein neu drwy e-bostio specialcollections@uwtsd.ac.uk. Rydym hefyd yn cynnig ymweliadau â chymdeithasau a grwpiau lleol.
Mae gennym ystafell ddarllen bwrpasol lle gallwch ddefnyddio’r archifau a’r llyfrau prin sydd wedi’u lleoli yn ein hystafell gadarn. Rydym yn gweithredu “gwasanaeth cyfryngol”, a’r staff yn dod â’r deunyddiau y mae eu heisiau arnoch chi. Bydd archifydd neu lyfrgellydd wrth law bob amser i’ch helpu, a chasgliad cyfeiriol bach o ddeunydd ategol ar gael at eich defnydd.
Mae toiledau ar gael ar y mesanîn, ger y fynedfa i’r llyfrgell. Mae sawl caffi o fewn pum munud ar droed. Mae lle parcio â thâl ar y campws ar gael.
Byddwch yn arbed amser trwy archebu eitemau ymlaen llaw cyn i chi ddod. Fel arall, gallwch bori trwy’r catalog a gofyn am ddeunydd ar ôl i chi gyrraedd.
Mae llawer o’r eitemau yn ein casgliadau eisoes wedi goroesi ers canrifoedd. Rhowch y parch y maent yn ei haeddu iddynt fel y byddant ar gael i genedlaethau’r dyfodol eu hastudio.
Bydd ein staff yn falch o’ch helpu chi, ac i esbonio’r rhesymau dros unrhyw un o’r rheolau. Gofynnwch i ni os bydd eisiau help neu wybodaeth arnoch chi.
Mae archifau Prifysgol Fetropolitan Abertawe a’i sefydliadau rhagflaenol wedi’u cadw ar wahân yng Nghampws SA1 Glannau Abertawe. I drefnu mynediad, cysylltwch â specialcollections@uwtsd.ac.uk.