Gwasanaethau Digidol » Gwasanaethau TG » Dod â’ch Dyfais Eich Hun (BYOD)
Mae BYOD yn galluogi i staff a myfyrwyr ddefnyddio eu dyfeisiau personol eu hunain fel ffonau, tabledi a gliniaduron i gael mynediad i adnoddau’r Brifysgol fel:
Systemau cyfathrebu corfforaethol – e-byst Outlook a Teams
Apiau meddalwedd trwyddedig – Autodesk ac Adobe
Platfformau storio data cwmwl – OneDrive for Business a SharePoint
O ganlyniad i nifer y dyfeisiau personol sy’n gysylltiedig â rhwydweithiau’r Brifysgol ac yn cael mynediad i ddata cyfundrefnol fel e-byst a Microsoft Teams, rhaid ystyried risgiau diogelwch ychwanegol.
Er mwyn helpu i ddiogelu rhag y risgiau diogelwch hyn, mae’r Brifysgol yn gyfrifol am weithredu mesurau diogelwch ychwanegol, ac mae’n ofynnol iddi wneud hynny, er mwyn sicrhau bod systemau a data’r Brifysgol wedi’u diogelu ac ein bod yn cydymffurfio ag Ardystiad Cyber Essentials NCSC.
Faint o ddyfeisiau gaf i eu cofrestru?
Sut alla’i ddadgofrestru fy nyfais?
Gwaredu ar offer yn ddiogel?
Oes angen i mi gofrestru fy nyfais bersonol os byddaf yn ei defnyddio ar gyfer Galwadau Llais, Negeseuon Testun SMS neu Ddilysu MFA?
Oes angen cyfrinair/pin i ddatgloi fy nyfais bersonol?
A gaf i’r cyfle i newid y Cyfrinair/hyd y PIN ar fy nyfais bersonol?
Beth sy’n digwydd os nad yw fy nyfais bersonol yn bodloni’r gosodiadau cydymffurfio â diogelwch gofynnol?
Gaf i gael mynediad i ddata heb gofrestru fy nyfais bersonol?
Beth yw’r porwyr Rhyngrwyd a gefnogir ar gyfer Microsoft Teams Ar-line ac Outlook Ar-lein?