Lluniwyd ein rhaglen Sgiliau i greu cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau academaidd a gwybodaeth trosglwyddadwy, gan hyrwyddo eu llwyddiant academaidd a’u cyflogadwyedd. Mae’r cwricwlwm yn cwmpasu ystod eang o bynciau – o newyddion ffug i reoli eich presenoldeb ar-lein.
Bydd sesiynau’n cael eu harchebu gan diwtor eich cwrs/modwl ond mae ein tîm o Lyfrgellwyr Cyswllt Academaidd hefyd wedi datblygu cyfres o Unedau arlein i helpu chi ddatblygu’r sgiliau yma unrhywbryd, unrhywle. Cliciwch isod i ddechrau (bydd hyn yn mynd a chi i Moodle lle bydd angen mewngofnodi a’ch manylion PCYDDS):
Os oes angen rhywfaint o help, cyngor neu ychydig o anogaeth gyfeillgar arnoch, gallwch archebu apwyntiad gydag aelod o’n tîm ar amser sy’n gyfleus i chi.
Mae cyfeirnodi cywir yn sgil hanfodol. Wrth ysgrifennu aseiniad, disgwylir i chi gydnabod gwaith pobl eraill drwy ei gyfeirnodi mewn fformat cydnabyddedig a chyson.
Rhaglen ar-lein ar gyfer rheoli, ysgrifennu a chydweithredu ym maes ymchwil yw RefWorks, a’i nod yw helpu ymchwilwyr i gasglu, rheoli, storio a rhannu pob math o wybodaeth, yn ogystal â chreu cyfeiriadau a llyfryddiaethau.