chat loading...

Angen Rhagor?

Rydych chi yn y lle iawn! Dyma'r stop un siop ar gyfer eich holl anghenion o ran adnoddau dysgu.

Os ydych chi wedi chwilio catalog y llyfrgell ac wedi methu cael mynediad i rywbeth sydd ei angen arnoch ar gyfer eich astudiaethau, dilynwch y cyngor isod neu darllenwch yr adran Cwestiynau Cyffredin.

Rhywbeth sydd ei angen arnoch a allai fod gennym ni'n barod?

Os ydych chi’n amau bod adnodd gennym ni’n barod, ond allwch chi ddim dod o hyd iddo, neu os teimlwch fod arnoch angen cyngor i wneud yn fawr o ein hadnoddau ar-lein, gwnewch apwyntiad gyda’ch Llyfrgellydd Cyswllt Academaidd. Gall eich LlCA gynnig cymorth wrth fireinio eich sgiliau chwilio am wybodaeth, a chynghori ar yr amrywiaeth o adnoddau sydd ar gael yn eich maes pwnc penodol chi.

Rhywbeth sydd ei angen arnoch nad yw gennym ni'n barod?

Edrychwch ar ein tudalennau datrys problemau ar gyfer problemau hysbys/atebion neu ewch i roi gwybod am nam.

Dal angen rhagor?

Dal angen rhagor? Rhowch wybod i ni trwy angenrhagor@pcydds.ac.uk

I gael gwybodaeth bellach am bob agwedd ar wasanaeth Angen Rhagor, defnyddiwch y Cwestiynau Cyffredin canlynol:

Ydy, mae croeso i fyfyrwyr a staff wneud hyd at uchafswm o ddeg cais mewn blwyddyn academaidd. Byddwn yn asesu’ch cais yn erbyn casgliadau cyfredol y llyfrgell ac, yn achos cais am lyfr, penderfynwn naill ai prynu copi o’r eitem i’r llyfrgell a chi fydd y cyntaf i’w fenthyg, neu gwnawn gais am y llyfr fel benthyciad rhyng-lyfrgellol. Cyflenwir erthyglau cyfnodolion a phenodau ar fformat digidol oni fydd y llyfrgell sy’n eu cyflenwi’n penderfynu fel arall.

Os ydych o’r farn y bydd angen nifer mawr o eitemau arnoch am brosiect ymchwil neu aseiniad penodol, cysylltwch â’ch Llyfrgellydd Cyswllt Academaidd i drafod hyn.

Y Llyfrgell sy’n talu am y gwasanaeth Angen Rhagor? i fyfyrwyr a staff. Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol ei bod yn costio oddeutu £15 y llyfr a £10 yr erthygl wedi’i sganio i’r llyfrgell wrth wneud cais am eitemau gan sefydliadau eraill.

Os ydych yn fyfyriwr dysgu o bell neu’n fyfyriwr ymchwil, rydym yn codi ffi fach am sganio eitemau printiedig sydd ar gael yn y llyfrgell. Ychwanegir tâl at eich cyfrif llyfrgell o 10c y tudalen a sganiwyd. Os byddwn yn postio llyfrau atoch, rydym yn codi am bostio ar y cyfraddau canlynol:

O fewn y DG: £4 y pecyn hyd at 2kg

Rhyngwladol: rhwng £4 a £16 yn ddibynnol ar y pwysau. Fel arfer £8 am un llyfr.

Mae modd gwneud taliadau i gyfrifon llyfrgell fel a ganlyn:

Drwy’r post: anfonwch siec yn daladwy i ‘Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant’ a’i phostio i lyfrgell y campws perthnasol.

Yn bersonol: wrth ddesg y llyfrgell gydag arian parod, siec, neu cherdyn.

Os nad yw’r dewisiadau hyn yn addas, cysylltwch â ni.

Bydd yn dibynnu pryd mae’r eitem benodol ar gael, fodd bynnag fel canllaw, byddem yn awgrymu eich bod yn caniatáu pythefnos ar ôl cyflwyno’r cais, er bydd nifer o geisiadau’n cael eu cyflenwi ymhell cyn hyn. Ceisiwn roi gwybod i chi os bydd oedi.

Rydym yn awgrymu eich bod yn rhoi’r eitem ar gadw drwy Gatalog y Llyfrgell. Hefyd gallwch wneud cais i ni brynu’r eitem os ydych o’r farn nad oes digon o gopïau gennym. Mae’n bosibl wedyn y prynwn gopïau ychwanegol.

Gallwch, gallwch wneud cais am SCONUL Access. Bydd lefel y mynediad a roddir i chi’n dibynnu ar eich statws. Hefyd gallwch wneud cais i ddefnyddio Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth (angen cyfeiriad cartref yng Nghymru) neu’r Llyfrgell Brydeinig. I gael gwybodaeth bellach gweler yr adran Cael Mynediad i Lyfrgelloedd y tu allan i PCYDDS ar y wefan.

Na allwch yn anffodus. Ni ellir darparu’r gwasanaethau hyn ond ar gyfer myfyrwyr ar gyrsiau dysgu o bell cofrestredig neu’r rheini sy’n ymgymryd â gradd ymchwil.

Gallwch. Sylwer fodd bynnag fod tâl ar gyfer defnyddio’r gwasanaethau hyn a byddem yn eich annog i ddefnyddio llyfrgelloedd eraill hefyd.

Gallwch ddefnyddio’r ffurflen ar-lein i wneud cais am fenthyciadau rhyng-lyfrgellol ar gyfer eich ymchwil yn gysylltiedig â gwaith. Fodd bynnag, os oes eisiau archebu rhywbeth i’w brynu, gweler yr adran Archebu Adnoddau Llyfrgell ar y wefan. Os ydych yn chwilio am eitemau wedi’u sganio i’w defnyddio at ddibenion addysgol, defnyddiwch y gwasanaeth digideiddio.

Na allwch yn anffodus. Nid yw copïo at ddibenion masnachol, boed hynny mewn fformat printiedig neu electronig, yn dod o dan yr eithriadau i hawlfraint yn Neddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.

Mae telerau Trwydded Addysg Uwch yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint yn gosod terfynau ynghylch at ba ddibenion y gallwn gyflenwi copïau printiedig neu wedi’u sganio. Drwy dicio’r blwch ar waelod y ffurflen gais, rydych yn nodi’ch bod yn derbyn y telerau hyn.

Na allwn yn anffodus. Yn ôl telerau ein trwyddedau, rhaid mai’r defnyddiwr yn unig sy’n ei lwytho i lawr, felly ni allwn wneud hyn drosoch. Fodd bynnag, os ydych yn cael problemau wrth geisio cael mynediad i unrhyw un o e-adnoddau’r llyfrgell, rhowch wybod i ni er mwyn i ni ymchwilio.

Byddem yn disgwyl bod pob eitem ddarllen hanfodol ar gael yn y llyfrgell a’r rhan fwyaf o eitemau darllen pellach. Felly, gwnewch gais am yr eitemau hyn os nad ydynt mewn stoc. Ticiwch y blwch priodol ar y ffurflen gais ar-lein er mwyn rhoi gwybod i ni fod yr eitem ar y restr adnoddau.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi llwytho’r feddalwedd berthnasol i lawr a’i phrofi cyn gwneud cais.

Dogfennau electronig gan y Llyfrgell Brydeinig:

  • rhaid eu llwytho i lawr o fewn 30 diwrnod ar ôl derbyn yr e-bost hysbysu;
  • maent i’w llwytho i lawr ar un peiriant yn unig;
  • maent i’w hargraffu unwaith yn unig;
  • ni ddylid eu rhannu ag eraill;
  • fel arfer byddant yn terfynu 3 blynedd ar ôl cael eu llwytho i lawr.

Yn gyntaf, gwiriwch eich cyfrif e-bost (yn cynnwys y ffolder sothach) i sicrhau nad ydych wedi derbyn unrhyw ohebiaeth ychwanegol gennym am y cais.

Os nad ydych, cysylltwch â ni gan nodi manylion eich cais, gan gynnwys rhif y cais oedd ar y neges e-bost gadarnhau a anfonwyd atoch os ydy’n bosibl.

Rydym yn hapus i ganiatáu adnewyddu unwaith yn rhad ac am ddim, gyda thâl am adnewyddu pellach yn cael ei roi ar gyfrifon defnyddwyr llyfrgell, yn amodol ar gytuno â’r llyfrgell fenthyg berthnasol. Os ydych yn meddwl y bydd angen adnewyddu arnoch, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl, ac o leiaf wythnos cyn y dyddiad dychwelyd, i drafod opsiynau. Bydd unrhyw ddirwyon am adnewyddu heb awdurdod a/neu ddychwelyd eitemau’n hwyr, yn cael eu hychwanegu at gyfrifon defnyddwyr llyfrgell a chadwn yr hawl i wrthod ceisiadau yn y dyfodol.

Person ifanc mewn siaced olwyn i fyny yn dewis cylchgrawn o silff mewn llyfrgell fodern gyda llyfrau ar silffoedd cefndir a bwrdd astudio gyda laptop ac eitemau eraill