Gwasanaethau Digidol » Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu (LLR) » Canllaw Dechrau Arni » Gwrthdaro, Rhyfel a Chymdeithas
Bwriad y canllaw hwn yw eich helpu i gychwyn arni wrth ddefnyddio adnoddau dysgu ac i wneud yn fawr o’r gwasanaethau sydd ar gael i gefnogi eich astudiaethau academaidd.
Cyn i chi ddechrau, gwyliwch y fideo byr hwn a fydd yn dangos i chi sut i gyrchu eich cyfrif llyfrgell ac adnoddau’r llyfrgell, a gwnewch yn siŵr eich bod wedi cwblhau’r rhestr wirio Dysgu Digidol i sicrhau eich bod yn barod i barhau. Wedyn sgroliwch i lawr i ddysgu rhagor.
Mae eich Rhestrau Adnoddau Ar-lein yn rhoi mynediad i’r holl eitemau darllen, edrych, gwylio neu wrando hanfodol a phellach y mae staff academaidd wedi’u dewis ar gyfer eich modylau. Gallwch gyrchu’r rhain drwy Moodle, trwy fewngofnodi i dudalen eich modwl a chlicio ar yr eicon Rhestrau Adnoddau Ar-lein ar y dde.
Fel arall, gallwch bori trwy Restrau Adnoddau Ar-lein yn ôl enw neu rif y modwl neu yn ôl pwnc.
Dewiswch o blith y llyfrau a’r cyfnodolion mwyaf poblogaidd yn eich maes pwnc neu defnyddiwch gatalog y llyfrgell i gynnal eich chwiliadau eich hun.
Mae catalog y llyfrgell yn debyg i Google Scholar, ond heb y waliau talu!
Dysgwch pa lyfrau sy’n boblogaidd yn eich maes pwnc: cliciwch ar ddelwedd clawr i ddod o hyd i’r teitl yng nghatalog y llyfrgell.
Defnyddiwch Browzine i archwilio a chanfod cyfnodolion o fewn ein casgliad o e-gyfnodolion.
Rydym yn darparu ystod eang o adnoddau i’ch cefnogi drwy gydol eich astudiaethau wrth ichi ddatblygu eich sgiliau academaidd a’ch gwybodaeth yn ogystal â’ch sgiliau digidol. Yn ogystal, mae gan bob myfyriwr Lyfrgellydd a Chynghorydd Sgiliau Digidol wedi’u neilltuo i’w pwnc astudio neu faes gwaith. Os oes angen help, cyngor neu ychydig o anogaeth gyfeillgar arnoch, gallwch drefnu apwyntiad gydag aelod o’n tîm ar amser sy’n gyfleus i chi.
Dyma’r sgiliau craidd sy’n eich helpu i ganfod, defnyddio a chyrchu’r deunydd priodol ar gyfer eich astudiaethau. Maen nhw hefyd yn helpu i ddatblygu eich meddwl beirniadol, eich sgiliau trefnu a’ch sgiliau cyfeirnodi. Rydym wedi datblygu cyfres o unedau hunangyfeiriedig yn rhan o’n rhaglen Sgiliau Gwybodaeth, i helpu i’ch cefnogi chi i ddatblygu’r sgiliau hyn ar eich cyflymder eich hun.